Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 18 Mawrth 2020.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Heb os, fe fyddwch yn ymwybodol o adroddiad y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar, 'Byddar yn Gweithio ym Mhobman', sy'n ceisio sicrhau bod mwy o bobl ifanc byddar yn gwneud gwaith a swyddi sy'n eu hysbrydoli. Yn anffodus, mae llawer o bobl ifanc byddar yn credu bod eu hopsiynau o ran gyrfaoedd yn gyfyngedig. Gyda'r gefnogaeth gywir, fodd bynnag, gwyddom y gall pobl fyddar weithio ym mhobman, serch hynny, maent ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith na'u cyfoedion sy’n gallu clywed.
Mewn ymateb i'r ymgyrch Byddar yn Gweithio ym Mhobman, pa gamau pellach rydych yn barod i'w cymryd i sicrhau gwell cymorth gyrfaoedd, mwy o brofiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli, a herio’r disgwyliadau o ran yr hyn y gall pobl ifanc byddar ei gyflawni?