1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 18 Mawrth 2020.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch yn fawr, Lywydd. Yn gyntaf, Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi am y datganiad a wnaethoch cyn inni ddod i'r Cyfarfod Llawn heddiw? Rwy'n siŵr y byddwch yn cael cwestiynau ynglŷn â chau ysgolion, ond bydd fy nghwestiynau'n canolbwyntio ar addysg ôl-16.
Fodd bynnag, mae'n anochel fod hynny'n golygu dechrau gyda chwestiwn am y rheini sy'n astudio ar gyfer arholiadau allweddol yn 16, 17 a 18 oed, yn ogystal â myfyrwyr TAR, sy'n gorfod cwblhau eu lleoliadau mewn ysgolion er mwyn cymhwyso. Ac efallai y bydd eich ateb hefyd yn berthnasol i fyfyrwyr gofal plant, sydd ar leoliadau efallai, os nad mewn ysgol, yna o leiaf ar safle sy'n cael ei rannu ag ysgol. Os yw'r ysgolion yn mynd i gau, neu gau'n rhannol, credaf y bydd yr amserlen hon ar gyfer paratoi myfyrwyr ar gyfer eu hasesiadau a'u harholiadau terfynol yn cael ei heffeithio'n sylweddol. Rydym yn cyrraedd adeg o'r flwyddyn, yn enwedig ar gyfer TGAU, pan fo asesiadau dan reolaeth ar gyfer TGAU ar fin cael eu cynnal. Mae i hyn oblygiadau uniongyrchol i ddisgyblion ac athrawon—p'un a ydynt yn absennol ai peidio. A hyd yn oed gydag athrawon cyflenwi, am wn i ei bod hi'n bosibl secondio athrawon cymwys yn ôl i'r ystafelloedd dosbarth o leoliadau eraill. Mae gan hyn oblygiadau hefyd i fyrddau arholi a Cymwysterau Cymru o ran marcio a chymedroli canlyniadau. Felly, pa opsiynau rydych yn eu hystyried ar hyn o bryd ar gyfer arholiadau sydd i gael eu sefyll y tymor nesaf? Gyda phwy rydych chi'n siarad am hyn? A phryd, yn realistig, y gallwn ddisgwyl penderfyniad ynglŷn â'r hyn a allai ddigwydd naill ai ynghylch gohirio neu raddau a ragwelir, neu unrhyw ddewisiadau amgen eraill?
A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiwn? Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr fod hyn yn peri straen a phryder, yn enwedig i'r bobl ifanc sydd wedi bod yn gweithio mor galed i baratoi ar gyfer arholiadau allanol, yn ogystal â'r athrawon a fu'n gweithio ochr yn ochr â hwy.
Y bore yma, cyfarfûm â Cymwysterau Cymru a CBAC i gael cyngor ar y mater hwn. Rwyf hefyd mewn cysylltiad agos â Gavin Williamson. Siaradais ag ef ddoe, ac rwyf wedi siarad ag ef eto y bore yma ynglŷn â’i ystyriaethau mewn perthynas ag arholiadau, a neithiwr, siaradais â John Swinney, y Gweinidog addysg yn yr Alban. Mae'r tri ohonom yn ymrafael â'r un problemau, ac rwy'n gobeithio wneud cyhoeddiad mewn perthynas â'r arholiadau yn y dyfodol agos iawn.
Wel, diolch am hynny, ac am gadarnhau bod yr holl wledydd yn cydweithio ar hyn. Credaf fod hynny'n sicr yn gwneud synnwyr, yn enwedig wrth inni sôn am arholiadau sy’n cael eu sefyll—ym mlwyddyn 13, ynte—er mwyn camu ymlaen i addysg bellach neu addysg uwch lle mae mwy o gystadleuaeth, gan nad am Gymru'n unig rydym yn siarad.
Fodd bynnag, ar y pwnc hwnnw, mae gennyf gryn ddiddordeb ym mha sgyrsiau rydych wedi'u cael gydag addysg bellach ac addysg uwch a rhai lleoliadau dysgu seiliedig ar waith, ond yn enwedig gydag addysg uwch—pa fath o arweiniad rydych wedi'i gael gan y dirprwy brifathrawon a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ynglŷn â sut y byddant yn ymdrin â gofynion mynediad ar gyfer tymor yr hydref mewn ffordd sy'n deg â charfannau mewn blynyddoedd blaenorol, o ran y safonau ar gyfer y gofynion mynediad hynny.
Tybed hefyd a allech ddweud ychydig wrthym ynglŷn ag a ydych wedi siarad â dirprwy brifathrawon a'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr am eu hagwedd tuag at gyllid myfyrwyr sy'n mynd i gael eu hamddifadu o gyfle i astudio dan oruchwyliaeth—ac rwy'n golygu astudio dan oruchwyliaeth—yn sgil penderfyniadau prifysgolion unigol i gau.
Yn gyntaf oll, a gaf fi ddweud y bydd unrhyw benderfyniad a wnaf o ran yr arholiadau yn seiliedig ar egwyddor tegwch a chwarae teg i bobl ifanc? Nid eu bai hwy yw eu bod yn y sefyllfa hon. Ni ddylai’r sefyllfa gyfyngu nac effeithio'n negyddol ar eu hymdrechion, ac rydym am sicrhau ein bod yn eu trin yn deg ac yn gyfiawn, ond mewn ffordd drylwyr hefyd, fel y gallant fod â hyder yn y system yn y dyfodol.
Mae trafodaethau wedi’u cynnal, yn ôl yr hyn a ddeallaf, rhwng pob un o fersiynau’r DU o Cymwysterau Cymru, a thrafodaethau agos gydag UCAS, yn ogystal ag Universities UK, ynglŷn â sut y gallwn reoli'r sefyllfa hon gyda'n gilydd. Yn amlwg, gallai hyn effeithio ar brifysgolion a’u gwaith recriwtio i raglenni sy'n dechrau yn yr hydref. Felly, mae dull cydgysylltiedig ar waith rhwng y cyrff arholi unigol, y cyrff rheoleiddio, Gweinidogion, yn ogystal â phrifysgolion ac UCAS eu hunain.
Wel, diolch am eich ateb. Byddaf i, ynghyd â llefarwyr eraill yma, rwy’n credu, yn cysylltu ag aelodau o'r sector addysg uwch i edrych ychydig ymhellach na hynny eto, yn enwedig ar sut y bydd rhai benthyciadau i fyfyrwyr yn cael eu heffeithio gan y ffaith y bydd rhai myfyrwyr yn colli o leiaf un tymor o'u rhaglen astudio yn y bôn, a chredaf fod cwestiwn o degwch yno hefyd.
Ond i gloi, ac mae yn yr un gofod mewn gwirionedd, mae bron i flwyddyn hyd nes y daw’r Cynulliad hwn i ben, ac mae dau ddarn o ddeddfwriaeth bwysig ar y gweill gennych yn eich portffolio, ac os ydym am weithio ar y cynsail gan y Llywodraeth hon, rwy'n rhagweld mai Biliau fframwaith fydd y ddau ohonynt i raddau helaeth, a bydd angen craffu’n llawn arnynt, ar drylwyredd datblygiad polisi ac ar fanylion ansawdd cynnwys tebygol unrhyw reoliadau a ddefnyddir wedi i’r ddeddfwriaeth sylfaenol gael ei chyflwyno er mwyn ei chwblhau. Ac rwyf am fod yn onest, ni allaf weld fy hun yn cefnogi unrhyw gwtogi neu gyfyngu ar yr amser sydd ei angen i'r ddeddfwrfa hon gyflawni ei phrif bwrpas, sef craffu’n drylwyr ar ddeddfwriaeth.
Nawr, mae pawb ohonom ar drugaredd llai o gapasiti, o ganlyniad i'r coronafeirws. Mae deddfwriaeth i roi’r cwricwlwm newydd ar waith yn ddibynnol ar amser, ac mae eisoes wedi'i gohirio am resymau rydym yn eu deall, ond mae angen inni roi ein sylw a’n cefnogaeth lawn iddi o hyd o ran tystiolaeth brofedig er mwyn ennyn hyder. Ac rwy'n amau'n fawr y gallwn roi'r sylw hwnnw iddi os bydd gofyn inni roi sylw cyfartal hefyd i'r ddeddfwriaeth gymhleth iawn, sy'n newid y broses o reoleiddio addysg bellach ac addysg uwch yn sylfaenol, gyda holl oblygiadau hynny o ran safonau. Felly, nid yw addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yn ddibwys, ond nid ydynt mor ddibynnol ar amser.
Ac ar y sail fy mod yn amau nad ydych yn bwriadu gohirio’r Bil hwnnw tan Senedd nesaf Cymru, a allwch warantu, yn gyntaf, na fyddwch yn gofyn am gyfyngu ar yr amserlenni ar gyfer craffu ar y ddau Fil er gwaethaf y coronafeirws, ac yn ail, pe bai’r Senedd hon yn penderfynu na all ddarparu ar gyfer craffu priodol oherwydd y coronafeirws, y byddwch yn ystyried peidio â bwrw ymlaen â'r Bil addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yn y pumed Cynulliad?
Roeddwn ar fai, Lywydd, am beidio â rhoi sylw i gwestiynau Suzy Davies mewn perthynas â’r cwmni benthyciadau i fyfyrwyr. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r cwmni benthyciadau i fyfyrwyr i sicrhau bod cynghorwyr ar gael i ymateb i fyfyrwyr a phrifysgolion sy'n awyddus i gael sicrwydd mewn perthynas â'u hastudiaethau a'u cyllid.
Dylwn ddweud yn glir hefyd fod prifysgolion yn gwneud eu gorau glas i newid i system lle gallant barhau i ddarparu addysg i'w myfyrwyr, gan ystyried darlithoedd o bell a materion felly. Felly, maent yn gweithio'n galed iawn ym mhob rhan o'r sector i allu darparu cymaint o barhad â phosibl i fyfyrwyr.
O ran yr amserlen, mewn rhai ffyrdd, rwyf ar drugaredd y Rheolau Sefydlog yn y Siambr hon. Mae fy neddfwriaeth—nid fy neddfwriaeth i, ond y—[Anghlywadwy.]—mae'r ddeddfwriaeth gyda'r Llywydd ar hyn o bryd, yn mynd drwy'r prosesau arferol a gyflawnir gennym cyn ei chyflwyno'n ffurfiol yma yn y Siambr hon. Ac rwy'n siŵr fod pob un ohonom yn awyddus i weithio gyda'n gilydd, os gallwn, i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iawn ac yn arwyddocaol—deddfwriaeth radical iawn, mewn gwirionedd, a fydd, rwy'n credu, yn darparu mwy o gydlyniant, mawr ei angen yn fy marn i, i'n sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, ac rwy'n gobeithio y gall pob un ohonom weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod hynny'n digwydd.
Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr iawn. Gaf innau hefyd groesawu'r cyhoeddiad rydych chi wedi'i wneud am 1 o'r gloch heddiw y bydd ysgolion rŵan yn cau ar gyfer darpariaeth statudol? Ond rydyn ni wrth gwrs angen eglurder ar fyrder a chanllawiau clir gennych chi ar gyfer yr ysgolion ynglŷn â beth fydd y diffiniad rŵan o ysgol—beth fydd rôl ein hysgolion ni wrth inni symud ymlaen? Bydd dim angen iddyn nhw wneud y ddarpariaeth statudol ond mae ganddyn nhw rôl allweddol i sicrhau bod ein gweithwyr allweddol ni yn y gwasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys y gwasanaeth iechyd, wrth gwrs, yn medru parhau i gael cefnogaeth ar gyfer eu plant a hefyd y plant mwyaf bregus a'r plant sydd yn cael cinio am ddim. Mae angen y canllawiau clir yna.
Gair am yr arholiadau; mae Suzy wedi cyfeirio at hyn: dwi'n credu rŵan fod yr amser wedi dod i ddweud yn hollol, hollol glir: cewch wared ar yr arholidadau—gohiriwch nhw, o ran y GCSE a lefel-A, efo'r bwriad o'u cynnal nhw eto neu addasu'r anghenion. Rydych chi wedi sôn am hynny—er enghraifft, defnyddio amcan graddau ar gyfer mynediad i brifysgol. Mae'r amser wedi dod rŵan, dwi'n credu, i symud y pwysau sydd ynghlwm â hynny a'r gwaith mae'r athrawon yn teimlo maen nhw'n gorfod gwneud ynghlwm ag arholiadau. Os ydy'r pwysau yna'n symud oddi wrthyn nhw, mae hi wedyn yn bosib i'r ysgolion fedru rhoi'r gefnogaeth i'r lle mae o angen bod—y ffocws lle mae o angen bod a lle rydych chi a fi yn cytuno y dylai fod.
Felly, hoffwn ni jest ofyn ychydig o gwestiynau ynglŷn â hynny. Beth fydd diffiniad newydd 'ysgol'? Sut mae'r ysgolion yn mynd i sicrhau eu bod nhw'n cyrraedd at y plant mwyaf bregus er mwyn rhoi'r gefnogaeth yma iddyn nhw? Beth ydy'r canllawiau i'r ysgolion sydd wedi cau yn barod? Rydyn ni'n gwybod bod yna nifer fawr wedi cau yn barod—oes disgwyl iddyn nhw ailagor yn eu rôl newydd? Ac, wrth gwrs, materion diogelwch plant—sut mae hynny'n mynd i ddod i mewn rŵan i'r diffiniad newydd o ysgol?
Lywydd, fel y nododd yr Aelod, yn gwbl gywir, am 1 o’r gloch y prynhawn yma, cyhoeddais ein bod yn cael gwyliau’r Pasg yn gynt i ysgolion yng Nghymru, sy’n golygu y bydd ysgolion yn cau o ran darpariaeth statudol ddydd Gwener, 20 Mawrth. O'r wythnos nesaf ymlaen, bydd gan ysgolion bwrpas newydd, yn wir—pwrpas nad yw'n annhebyg i'r un a ddisgrifiodd Siân Gwenllian. Pwrpas i sicrhau bod ein plant mwyaf agored i niwed yn cael eu cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn, gyda phwyslais arbennig ar y plant a fyddai fel arfer yn cael prydau ysgol am ddim yn ogystal â'n plant ag anghenion dysgu ychwanegol, gan fod mynychu'r ysgol yn rhan bwysig o'r gwaith o gadw eu lles cystal ag y gall fod.
Mae'n rhaid inni hefyd gofio anghenion y rhieni sydd ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn, ac yn wir, mae hynny'n cynnwys meddygon a nyrsys, ond mae'r rhestr honno o bobl ar y rheng flaen yn y frwydr i gynnal y wlad yn mynd ymhell y tu hwnt i'r gweithwyr meddygol proffesiynol ymroddedig sy'n gweithio yn ein hysbytai. Felly, er enghraifft, gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr gofal cartref, yn ogystal â gweithwyr eraill sy'n sicrhau bod bwyd yn ein harchfarchnadoedd a bod ein gwasanaethau lleol sylfaenol yn parhau i gael eu cynnal. Rydym eisoes yn gweithio—cyfarfu'r Prif Weinidog, cyd-Aelodau o'r Cabinet a minnau ag arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru eto y bore yma i archwilio gydag ef pa ddarpariaethau y byddwn yn eu rhoi ar waith.
Wrth gwrs, nid yw hyn yn rhywbeth sy'n hollol newydd i ni. Byddwn yn adeiladu ar sylfeini cryf a phrofiadau cadarnhaol iawn rhai o'n cynlluniau Bwyd a Hwyl, y mae awdurdodau lleol wedi hen arfer eu cynnal, a byddwn yn nodi, gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol, safleoedd a phersonél allweddol a all ein helpu i sicrhau y gellir mynd i'r afael ag anghenion y plant mwyaf agored i niwed ac anghenion y gweithwyr rydym am iddynt fod yno ar y rheng flaen dros yr wythnosau nesaf.
Diolch yn fawr iawn. Rydym ni, wrth gwrs yn ddiolchgar—hynod ddiolchgar—i'r athrawon a'r staff ategol yn ein hysgolion ni yn y cyfnod yma. Maen nhw hefyd yn weithwyr allweddol, onid ydynt, ac o ran eu rôl nhw, mae disgwyl iddyn nhw newid wrth symud ymlaen, os ydyn nhw'n gallu, ac mae rhywun yn gwerthfawrogi'r hyblygrwydd yna sydd yn mynd i fod ei angen rŵan.
Felly, a fedraf i ofyn ichi, ynglŷn â'r athrawon a'r cymorthyddion dysgu? Beth fydd eu rôl nhw yn y trefniadau newydd yma rŵan? Os ydy'r diffiniad o ysgol yn newid ond rydych chi'n dal i ddisgwyl iddyn nhw fod ar agor gymaint ag y maen nhw'n medru, beth fydd rôl yr athrawon? A oes yna rôl i athrawon llanw yn y trefniadau newydd yma? Mi fyddwch chi'n gwybod y byddan nhw'n awyddus iawn, rhai ohonyn nhw, i barhau i weithio oherwydd eu bod nhw'n gweithio i asiantaethau ac efallai yn mynd i fod heb bres beth bynnag. Felly, mae yna rôl benodol yn fanna. Beth hefyd am bobl sydd â chymwysterau dysgu ond sydd, ar hyn o bryd, ddim yn yr ysgolion? Efallai eu bod nhw'n gweithio yn y consortia neu mewn mannau eraill. Rydych chi wedi sôn yn fras am hynny. Felly, a fedrwch chi ymhelaethu ychydig bach ar hynny, os gwelwch yn dda?
Yn wir, mae gweithwyr addysg proffesiynol wedi bod ar y rheng flaen ac yn ein hamddiffyn wrth i'r wlad hon wynebu'r epidemig hwn, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt, pob un ohonynt, am yr hyn y maent wedi bod yn ei wneud, yn aml mewn amgylchiadau anodd iawn. Hyd yn oed pan fyddant wedi bod yn poeni, efallai, am eu hanwyliaid eu hunain, mae eu disgyblion wedi bod yn hollbwysig iddynt ac maent wedi bod yn gwbl ymroddedig wrth geisio darparu profiad mor normal â phosibl i'n plant a'n pobl ifanc yn y cyfnod cythryblus hwn. Ac fel y dywedais, maent wedi bod yn gwneud hynny o dan bwysau enfawr, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am hynny.
Wrth gwrs, bydd rôl barhaus i'n hathrawon a'n cynorthwywyr addysgu ei chwarae, ac rydym mewn cysylltiad dyddiol—fy adran i—gydag undebau'r athrawon i drafod y ffordd orau o fwrw ymlaen â phethau. Cyfarfûm ddoe â Chyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol i drafod rôl gweithwyr ieuenctid yn y senario hon. Fel y dywedais, cyfarfûm yn gynharach ag arweinydd CLlLC i edrych ar y llu o staff proffesiynol sydd gennym yn ein hawdurdodau lleol sydd â'r sgiliau a'r ddawn i allu ein cynorthwyo wrth inni symud ymlaen. Byddaf yn rhoi diweddariad i'r Aelodau wrth i'r cynlluniau hynny ddatblygu, ond mae rôl i bawb sydd â'r cymwysterau, y sgiliau a'r wybodaeth briodol i weithio gyda'n plant ar yr adeg hon.
Diolch. Dwi jest yn mynd i fynd yn ôl at gwpwl o bethau sydd ddim wedi cael eu hateb—dwi wedi'u gofyn nhw'n barod, ac mae'n ddrwg gen i, dwi wedi gofyn lot o gwestiynau, dwi'n gwybod. Felly, dwi'n meddwl bod hwn yn bwysig: beth ydy'r canllawiau i'r ysgolion sydd wedi cau yn barod? Rydyn ni'n gwybod bod yna restr o ysgolion sydd wedi anfon at y rhieni yn dweud, 'Rydyn ni wedi cau' yr wythnos yma. A oes disgwyl iddyn nhw ailagor yn eu rôl newydd nhw? Ac wedyn, o ran rôl newydd yr ysgol, beth fydd—? Sut byddwch chi'n delio efo materion cymhleth diogelwch plant, i wneud yn siŵr bod y plant fydd yn dal yn mynd i'r ysgol yn parhau i fod yn ddiogel os nad ydy'r ysgolion yma'n cael eu diffinio fel 'sefydliadau addysgol' ar hyn o bryd?
Mae'n rhaid imi ddweud yn gwbl glir wrth yr Aelodau nad wyf yn rhagweld, ar ddiwedd y toriad estynedig hwn dros y Pasg, y byddwn mewn sefyllfa i fynd yn ôl i'r ysgol fel arfer. Ni allaf roi unrhyw warantau ac ni ddylai unrhyw un ddisgwyl hynny. Felly, ni fyddwn yn disgwyl, ac nid wyf yn rhagweld, y bydd pob ysgol ar agor. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid llywodraeth leol i nodi rhai safleoedd lle gellir trefnu a chynnig y gwasanaethau hyn, ond nid wyf yn disgwyl y bydd pob ysgol yn agor ac yn gweithredu fel arfer ar ôl toriad y Pasg. Yn amlwg, byddwn yn adolygu'r sefyllfa honno'n gyson, ond byddwn yn ceisio gweithio gydag awdurdodau lleol i reoli ein hadnoddau yn y ffordd fwyaf pragmatig wrth inni wynebu'r pwysau digynsail hwn.