Cefnogaeth i'r Diwydiant Twristiaeth

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 18 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:16, 18 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Caroline Jones. Credaf eich bod yn llygad eich lle yn tanlinellu difrifoldeb y sefyllfa i'r sector penodol hwn. Gwyddom fod oddeutu 11,700 o fentrau twristiaeth yng Nghymru, a'u bod yn cyflogi oddeutu 135,000 o bobl. Felly, mae'n enfawr, ac rydym yn llwyr o ddifrif yn ei gylch. Yn sicr, rydym yn gobeithio y bydd rhai o'r mesurau rydym eisoes wedi'u rhoi ar waith yn helpu rhai ohonynt. Rydym yn darparu £200 miliwn i sicrhau y bydd y rheini sydd â gwerth ardrethol o £51,000 neu lai yn cael rhyddhad ardrethi busnes o 100 y cant. Ond bydd £100 miliwn yn ychwanegol yn cael ei ddarparu, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei drafod ar hyn o bryd, ac yn sicr, ceir gwir ymwybyddiaeth a dealltwriaeth fod hwn yn sector sydd angen help ar unwaith.