Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 18 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:28, 18 Mawrth 2020

Diolch yn fawr, Llywydd. Wrth gwrs, gyda chwmwl du enfawr coronavirus, yn naturiol, mae'r rheolau yn newid i gyd. Ac wrth basio—yn dilyn cwestiwn Nick Ramsay, wrth gwrs—mae dinas Abertawe wedi'i gefeillio efo dinas yn China ers rhai blynyddoedd, dinas o'r enw Wuhan. Rôn i'n arfer cael her yn trio esbonio i bobl lle'r oedd Wuhan, ond ddim rhagor.

Ond wrth gwrs, mae'r her hon o'r coronafeirws yn ymestyn ar draws holl adrannau'r Llywodraeth—wrth gwrs, mae yna adrannau allweddol, yn naturiol—gan gynnwys yn benodol eich adran chi, felly. Yn enwedig o ddilyn y cwestiynau ar fasnach ac arbenigedd eich adran chi ar fasnach, allaf i ofyn pa drafodaethau rydych chi'n eu cael ar argaeledd rhyngwladol masnach feddygol? Hynny yw, cyfarpar meddygol yn yr argyfwng meddygol yma sydd gyda ni rŵan. Hynny yw, dwi'n sôn am anadlyddion peiriannol—ventilators—ac ati, a chyfarpar arbenigol rhyngwladol eraill sydd eu hangen ar y wlad yma yn y sefyllfa argyfyngus sydd ohoni.