2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 18 Mawrth 2020.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Weinidog, a gaf fi ofyn i chi faint o bobl o Gymru sy'n methu dod adre o dramor ar hyn o bryd o ganlyniad i argyfwng y coronafeirws?
Nid oes gennym yr union ffigurau o ran nifer y bobl sy'n methu dod adre o dramor ar hyn o bryd. Yn amlwg, mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn arwain ar hynny, ond yn amlwg, rydym yn annog pobl i ddod adref ar unwaith os yw'n bosibl iddynt wneud hynny. Dyna'r cyngor a gafwyd gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.
Yn amlwg, mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i rai o'r bobl sy'n methu dod adre o dramor ar hyn o bryd, ac yn arbennig i'w teuluoedd a fydd yn poeni'n fawr am eu lles. Felly, a gaf fi eich annog i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn cefnogi'r unigolion hynny a allai fod angen cymorth i gyrraedd adref?
Un o'r grwpiau eraill o bobl y bydd Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn uniongyrchol gyfrifol amdanynt yw gweithwyr Llywodraeth Cymru sydd dramor ar hyn o bryd—a llawer ohonynt mewn gwledydd sydd wedi teimlo effeithiau cryfaf problem COVID-19. Tybed a allech ddarparu rhywfaint o wybodaeth ynglŷn â pha gamau rydych yn eu cymryd fel Llywodraeth Cymru i ddiogelu'r gweithwyr hynny, pa ymgysylltiad a gawsoch â'u teuluoedd, ac a oes trefniadau iddynt gael eu dychwelyd i Gymru yn y dyfodol agos?
Rydym mewn cysylltiad cyson, yn amlwg, â'r 21 swyddfa sydd gan Lywodraeth Cymru ym mhob rhan o'r byd. Mae'r cynrychiolwyr sydd wedi'u lleoli yn y tair dinas yn Tsieina wedi bod yn gweithio gartref ers amser hir bellach. Mae'r rhan fwyaf o'n swyddfeydd wedi'u lleoli yn adrannau'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad, felly, ynghyd â Llywodraeth y DU, yn amlwg, maent yn dilyn eu cyngor hwy, ond rydym yn cyfathrebu'n gyson â hwy. Mewn gwirionedd, roedd grŵp ohonynt i fod i ddod yn ôl yr wythnos diwethaf i gael math o ôl-drafodaeth flynyddol; yn amlwg, cafodd honno ei chanslo. Ond mae'r cyfathrebu hwnnw'n rhywbeth sy'n mynd rhagddo'n barhaus, ac yn amlwg, mae lles ein staff ein hunain yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i ni.
Yn amlwg, Weinidog, rydym yn cydymdeimlo â hwy ar hyn o bryd mewn amgylchiadau a allai fod yn heriol iawn yn yr ardaloedd lleol y maent wedi'u haseinio iddynt.
Weinidog, yn y strategaeth ryngwladol, yn amlwg, fe nodoch fod gan Gymru lawer o gysylltiadau pwysig, o ran masnach, â llawer o wahanol genhedloedd a rhanbarthau ledled y byd, gan gynnwys ein partneriaid pwysicaf ar garreg ein drws yn yr Undeb Ewropeaidd, Gogledd America, ac yn wir, yn Asia—gan gynnwys dwyrain Asia, sydd wrth gwrs wedi dioddef baich y coronafeirws. Credaf ei bod yn deg dweud ein bod mewn cyfnod ansicr iawn yn economaidd, ac mae'n ddigon posibl y bydd y cysylltiadau hynny'n dod dan fwy o straen o gofio effaith llawer o'r cyfyngiadau sydd bellach yn effeithio ar fusnesau ym mhob rhan o'r byd.
Nawr, mae'r busnesau sy'n dibynnu'n fawr ar fasnach allforio a mewnforio yn debygol o gael eu heffeithio'n fwy o lawer na llawer o fusnesau eraill yng Nghymru. Tybed pa drafodaethau y gallech fod wedi'u cael gyda'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet ac yn uniongyrchol gyda'r busnesau mewnforio-allforio hynny i benderfynu pa gefnogaeth y gallai fod ei hangen arnynt wrth symud ymlaen? Oherwydd o gofio bod gennych rywfaint o hyblygrwydd yn awr o ganlyniad i adnoddau ychwanegol gan Lywodraeth y DU i gefnogi busnesau, credaf fod angen gwell dealltwriaeth o'r effaith ar y mewnforwyr a'r allforwyr hynny oherwydd natur eu gwaith ar sail fyd-eang.
Diolch. Rydych yn llygad eich lle yn nodi pwysigrwydd masnach. Mae masnach yn cyfrannu oddeutu 22 y cant o'r cynnyrch domestig gros i economi Cymru, felly mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni fod yn gyfan gwbl o ddifrif yn ei gylch. Yn amlwg, rydym yn arbennig o bryderus am y negodiadau masnach a ddylai fod ar y gweill gyda'r Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â Brexit, gan wybod bod y terfyn amser hwnnw ar y ffordd. Wrth gwrs, byddem yn dadlau y dylid ei ohirio, yn ôl pob tebyg, o dan yr amgylchiadau.
Roedd negodiadau masnach i fod i gychwyn yr wythnos nesaf gyda’r Unol Daleithiau, ac yn amlwg, mae bellach yn amhosibl i’r negodwyr masnach hynny gyrraedd yr Unol Daleithiau er mwyn cychwyn y negodiadau hynny. Felly, credaf fod yn rhaid inni fod ychydig yn fwy creadigol yn y ffordd rydym yn mynd ati i wneud y pethau hyn. Yn sicr, mewn perthynas â mewnforio ac allforio, mae cadwyni cyflenwi ar gyfer economi Cymru yn gwbl hanfodol, ac yn sicr, mae hwn yn faes rydym yn cadw llygad arno. Oherwydd yn amlwg, os na all pobl ddod â'r cydrannau sydd eu hangen arnynt i mewn, bydd hynny'n peri problemau mawr, ac yn y pen draw, gallai hynny orfodi ffatrïoedd i gau.
Llefarydd Plaid Cymru, Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Wrth gwrs, gyda chwmwl du enfawr coronavirus, yn naturiol, mae'r rheolau yn newid i gyd. Ac wrth basio—yn dilyn cwestiwn Nick Ramsay, wrth gwrs—mae dinas Abertawe wedi'i gefeillio efo dinas yn China ers rhai blynyddoedd, dinas o'r enw Wuhan. Rôn i'n arfer cael her yn trio esbonio i bobl lle'r oedd Wuhan, ond ddim rhagor.
Ond wrth gwrs, mae'r her hon o'r coronafeirws yn ymestyn ar draws holl adrannau'r Llywodraeth—wrth gwrs, mae yna adrannau allweddol, yn naturiol—gan gynnwys yn benodol eich adran chi, felly. Yn enwedig o ddilyn y cwestiynau ar fasnach ac arbenigedd eich adran chi ar fasnach, allaf i ofyn pa drafodaethau rydych chi'n eu cael ar argaeledd rhyngwladol masnach feddygol? Hynny yw, cyfarpar meddygol yn yr argyfwng meddygol yma sydd gyda ni rŵan. Hynny yw, dwi'n sôn am anadlyddion peiriannol—ventilators—ac ati, a chyfarpar arbenigol rhyngwladol eraill sydd eu hangen ar y wlad yma yn y sefyllfa argyfyngus sydd ohoni.
Diolch yn fawr. Wrth gwrs, mae'n ddiddorol iawn i glywed bod Abertawe wedi'i gefeillio gyda Wuhan. Dyna un o'r rhesymau pam dwi wedi ysgrifennu at y llywodraethau lleol i ffeindio mas yn union pwy sydd wedi gefeillio gyda phwy.
O ran masnach, chi'n eithaf iawn i danlinellu pwysigrwydd trio gweld lle gallwn ni gael y cyfarpar yma. Beth mae'n rhaid i ni nodi, wrth gwrs, yw bod y gwledydd yma i gyd yn awyddus i gadw eu ventilators eu hunain; dyna pam mae'r Llywodraeth ym Mhrydain, a ni yma yng Nghymru hefyd, yn ceisio annog busnesau, yn arbennig y rheini sy'n beirianwyr, i weld os allan nhw addasu beth maen nhw'n ei gynhyrchu fel eu bod nhw yn creu ventilators ar gyfer y drychineb yma sydd o'n blaenau ni.
Diolch yn fawr am hynna. Ac, wrth gwrs, yn dilyn o hynny, ie, dŷn ni mewn sefyllfa argyfyngus ar hyn o bryd, ond mae'r sefyllfa argyfyngus yma yn beryg o bara am rai wythnosau, os nad misoedd. Ac, wrth gwrs, fel y cyfeiriodd Darren Millar, mae gyda ni bobl o Gymru sydd mewn gwahanol wledydd ar draws y byd rŵan yn dilyn eu gwahanol fusnesau, hyd yn oed yn cynrychioli'r wlad yma. Felly, a allaf ofyn i chi pa drafodaethau ydych chi'n eu cael fel Gweinidog, ac fel adran, ynglŷn â chefnogi'r bobl yma, yn ychwanegol i'r gefnogaeth arferol felly, achos, wrth gwrs, byddan nhw'n teimlo'n ynysig nawr achos mae cyfyngiadau ar deithiau rhyngwladol ac ati? Felly, sut ydych chi'n cynnal—? Ar ben y gwaith sy'n mynd ymlaen yn arferol, ond mewn sefyllfa o argyfwng rŵan, pan fo'r cysylltiadau arferol wedi mynd, pa waith cynnal ychwanegol sydd gyda chi yn edrych ar ôl pobl o Gymru sydd allan o Gymru ar hyn o bryd?
Un o'r pethau rŷn ni wedi gwneud, wrth gwrs, yw i sicrhau bod y bobl yna sydd yn gweithio drostyn ni dramor, eu bod nhw ddim yn mynd mewn i gysylltiad gyda gormod o bobl. Mae lot o weithgareddau oedd ar y gweill wedi cael eu canslo; lot o export missions, mae'r rheini i gyd, wrth gwrs, wedi'u canslo; pobl oedd i fod i ddod mewn i Gymru, y rheini hefyd wedi'u canslo. Ac, felly, rŷn ni yn ceisio sicrhau eu bod nhw yn cadw'n saff. Wrth gwrs, maen nhw yn gyffredinol yn cydweithredu gyda'r tîm Prydeinig sydd yna. Felly, dŷn nhw ddim yn gweithredu fel unigolion fel y cyfryw, felly maen nhw yn dilyn y cyfarwyddyd, nid yn unig sy'n dod gennym ni, ond y cyfarwyddyd sy'n dod gan Lywodraeth Prydain. Ond dwi yn meddwl—. Dwi'n cael cyfarfod y prynhawn yma gyda'r person sydd â chyfrifoldeb dros gydweithredu ac edrych ar sut rŷn ni'n gweithredu dramor.
Diolch am hynna, Weinidog. Ac, wrth gwrs, dŷn ni wedi clywed cyhoeddiad Canghellor y Trysorlys yn Llundain yr wythnos yma ynglŷn â'r arian ychwanegol sydd ar gael. Ac, wrth gwrs, yn amlwg, mae yna effaith enfawr yn mynd i fod o achos yr holl gyfyngu ar gysylltiadau, yr holl gyfyngu ar gyfarfodydd, cyfyngu ar deithio, yn ogystal â chyfyngu ar deithio rhyngwladol—yr holl effaith enbydus yna ar fywyd celfyddydol Cymru yn benodol. Dŷn ni wedi gweld beth sydd wedi digwydd i'r Urdd, a chanslo Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd tan y flwyddyn nesaf, a chau'r gwersylloedd, ac ati. Felly, yn nhermau ariannol rŵan, achos, ar ddiwedd y dydd, mae'n rhaid i ni siarad am bethau fel yna hefyd, yn sgil cyhoeddiad Canghellor y Trysorlys, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael i drefnu mesurau lliniarol gogyfer y sector gelfyddydol yma yng Nghymru?
Wel, rŷn ni wedi bod mewn trafodaethau gyda'r sector gelfyddydol, ac, wrth gwrs, y sector sy'n gyfrifol am major events. Ac mae lot fawr o arian yn dod mewn i'r wlad oherwydd major events. Wrth gwrs, dwi wedi bod yn cael trafodaethau eithaf manwl gyda chynrychiolwyr yr Urdd dros y penwythnos, ond mae pob math o weithgareddau eraill a mudiadau eraill sydd yn yr un sefyllfa â nhw. Yn sicr, rŷn ni wedi gweld bod y Big Retreat wedi cael ei ganslo, bod y Machynlleth Comedy Festival wedi'i ganslo, Tafwyl hefyd, ac mae bwrdd Llangollen yn cwrdd heno. Felly, mae yna lot fawr o fudiadau sydd yn mynd i gael eu heffeithio gan hyn, ac felly, rŷn ni mewn trafodaethau gyda nhw i weld os oes rhywbeth gallwn ni ei wneud, ond, wrth gwrs, mae hi'n amser argyfyngus i bawb, a beth mae'n rhaid i ni ei wneud yw gweld beth yw'n blaenoriaethau ni, wrth gwrs.