Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 18 Mawrth 2020.
Rydyn ni'n monitro effaith y feirws corona ar y sector digwyddiadau yn agos iawn, ac yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gymryd camau priodol mewn ymateb i sefyllfa sy'n dal i ddatblygu. Rydyn ni hefyd, wrth gwrs, yn cadw mewn cysylltiad agos â mudiadau fel yr Urdd.