Effaith Coronafeirws ar Ddigwyddiadau Diwylliannol

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 18 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:39, 18 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hateb, ac mae'n amlwg ei bod yn ddyddiau cynnar eto. Ond buaswn yn ddiolchgar pe bai'n gallu rhoi rhywfaint o sicrwydd pellach ei bod hi'n deall yn llawn yr effaith ariannol ar yr Urdd—a chan edrych ymlaen o bosibl at yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr haf hefyd, er na fydd raid, gobethio—a gwyddom fod maint yr elw y mae'r sefydliadau yn gweithredu arno'n eithaf cul beth bynnag, ac mae colli'r gallu i wneud rhywfaint o elw o redeg y canolfannau ac o'r eisteddfod yn ergyd fawr i'r Urdd. Felly, a wnaiff y Gweinidog ein sicrhau y bydd yn cadw'r mater dan ystyriaeth agos iawn, ac na fydd yn diystyru cynnig cymorth ariannol uniongyrchol, os mai dyna'r unig ffordd y gallwn sicrhau bod y sefydliad pwysig hwn—? Rwy'n credu y gallwn i gyd fod yn falch iawn mai gennym ni y mae'r sefydliad ieuenctid mwyaf o ran aelodaeth yn Ewrop, sef yr Urdd. Mae'n amhrisiadwy, nid yn unig oherwydd yr iaith, ond oherwydd yr holl gyfleoedd y mae'n eu rhoi i bobl ifanc a byddai'n drasiedi lwyr pe caniateid i'r sefyllfa ofnadwy hon ddod â'r traddodiad rhyfeddol hwnnw i ben.