Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 18 Mawrth 2020.
Ond rwyf mor rhwystredig nad ydym yn gweithio ar sail consensws, Ddirprwy Lywydd. Dewch, gadewch inni ddod at ein gilydd ar yr adeg hon. Rwy'n mynd i geisio mynd drwy fy nghwestiynau mewn ffordd bwyllog.
Ddoe, Weinidog, cyhoeddodd y Llywodraeth fesurau ychwanegol ar gyfer cymorth i fusnesau. Fe ddywedoch chi y byddwch yn gwneud cyhoeddiad yn ddiweddarach heddiw, rwy'n credu, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr iawn gan fy mod yn credu bod angen i hynny fod mor gyflym ag sy'n bosibl. Rwy'n sylweddoli bod swyddogion yn mynd i orfod gweithio drwy'r symiau canlyniadol a'r manylion hynny, ond yn sicr cyhoeddodd Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr, ni waeth beth yw'r gwerth ardrethol, fod pob busnes—boed yn dafarndai, yn lleoliadau cerddoriaeth neu'n theatrau neu'n fwytai—yn cael rhyddhad ardrethi o 1 Ebrill yn gyfan gwbl. A buaswn yn gobeithio, wrth gwrs, y gall Llywodraeth Cymru wneud yr un peth yma yng Nghymru cyn gynted â phosibl, a chredaf ei bod yn bwysig fod hynny'n digwydd yn gyflym oherwydd os na fydd yn digwydd, bydd ein mewnflychau'n llenwi, a bydd pwysau ychwanegol yn cael ei roi ar Busnes Cymru gyda busnesau'n gofyn y cwestiynau. Felly, mae'n bwysig iawn fod hynny'n digwydd cyn gynted ag y bo modd. Wrth gwrs, mae'r grant a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar gael—nid benthyciad ond grant sydd ar gael i fusnesau, i fyny o £3,000 i £10,000, ac mae'n amlwg y bydd lle yno i Lywodraeth Cymru gyflwyno ei chynllun ei hun. Unwaith eto, rwy'n croesawu'n fawr y ffaith eich bod yn gallu gwneud hynny, ac os ydych chi'n gallu gwneud hynny'n gynt nag y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yn Lloegr ar gyfer busnesau Cymru, mae hynny'n wych ac fe gewch fy nghefnogaeth lwyr yn hynny hefyd.
O ran Busnes Cymru, fe sonioch chi ddoe mai dyna yw'r siop un stop, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr, ac fe ddywedoch chi fod ganddo gapasiti, neu ei fod wedi dynodi hynny. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi bod yn cyfeirio busnesau at y llinell honno ac maent wedi dod yn ôl ataf i ddweud eu bod wedi bod yn ceisio mynd trwodd ers dau ddiwrnod. Rwyf wedi ceisio cysylltu â Busnes Cymru fy hun—roeddwn mewn ciw am 30 munud ac ar y pwynt hwnnw rhoddais y gorau iddi. Nid beirniadaeth yw hynny, dim ond rhoi gwybod i chi beth sy'n digwydd yn y cyfnod digyffelyb hwn, a hefyd, nid wyf yn credu bod yr opsiynau a oedd ar gael yn berthnasol i'r argyfwng presennol a wynebwn. Nid oedd unrhyw sôn am y sefyllfa bresennol. Opsiwn 1, wyddoch chi, yw 'A ydych chi eisiau dechrau busnes newydd? Pwyswch 1.' Pwysais y pumed opsiwn, sef 'arall', felly credaf fod angen edrych ar hynny er mwyn sicrhau bod busnesau'n mynd drwodd i siarad â rhywun cyn gynted â phosibl, gymaint ag y gellir.
O ran ardrethi busnes, mae'n gwestiwn hefyd a yw awdurdodau lleol wedi anfon biliau allan ai peidio. Ond wrth gwrs, os gellir atal hynny neu os gellir dweud wrth fusnesau yn gyffredinol, 'Ni fyddwch yn talu ardrethi busnes', bydd hynny eto'n lleihau'r pwysau. Mater gweinyddol yw hwn i awdurdodau lleol, lle gellid arbed llawer o adnoddau ac amser os gallwn weithio drwy rai o'r problemau hyn cyn gynted â phosibl cyn dechrau'r flwyddyn ariannol newydd.
Ac yn olaf, mae Banc Busnes Prydain hefyd yn darparu cyllid, a hoffwn gael rhywfaint o eglurder, os oes modd—os nad yn awr, drwy ddatganiad, efallai, i'r Aelodau—fod banc datblygu Prydain, er enghraifft, yn darparu cyllid i'r DU gyfan ar gyfer cymorth i fusnesau, a sut y mae hynny'n cydgysylltu â Banc Datblygu Cymru? A all busnesau Cymru fynd drwy'r ddau fanc? A chyda'r swm canlyniadol hwnnw, sut y mae hynny'n gweithio o ran y ffaith nad yw rhai agweddau ar gymorth busnes yn dod drwy Lywodraeth Cymru, ond eu bod yn dod drwy ddulliau eraill hefyd? Byddai'n ddefnyddiol deall hynny er mwyn inni allu rhoi'r wybodaeth gywir i fusnesau. Rwy'n dal i fod yn ymrwymedig i weithio gyda chi ar sail amhleidiol i helpu busnesau ledled Cymru, Weinidog.