3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 18 Mawrth 2020.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ar gymorth i fusnesau a'r economi a wnaed ar 17 Mawrth 2020? 408
Gwnaf wrth gwrs. Roeddwn yn croesawu cyhoeddiad y Canghellor, ond mae'n amlwg fod angen gwneud mwy yn y dyddiau nesaf, yn enwedig i gefnogi busnesau gyda chostau cyflogau a chymorth ariannol i weithwyr sydd wedi cael eu diswyddo. Nawr, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud cyhoeddiad yn ddiweddarach y prynhawn yma ynglŷn â rhoi grantiau i fusnesau bach sy'n cyfateb i'r hyn a roddir yn Lloegr yn ogystal â darparu rhyddhad ardrethi busnes i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Fodd bynnag, Ddirprwy Lywydd, mae diffyg sylweddol o gannoedd o filiynau o bunnoedd rhwng y swm canlyniadol Barnett a gawsom a'r gost o roi arian sy'n cyfateb i bob agwedd ar becyn y Canghellor i fusnesau yn Lloegr, a disgwyliwn i Lywodraeth y DU lenwi'r bwlch hwn.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw, ac rwy'n meddwl bod pob un ohonom yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi deffro i'r argyfwng sy'n wynebu llawer o bobl ledled y wlad. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod dros ddegawd yn awr ers inni achub crwyn y banciau—nawr mae'n bryd cefnogi ein pobl. Mae llawer ohonom yn teimlo bod y Canghellor, yn ei ddatganiad ddoe, wedi methu mewn tair ffordd. Yn gyntaf, nid oedd datganiad y Canghellor yn edrych ar yr effaith y mae hyn yn ei chael ar bobl a theuluoedd. Mae llawer o bobl sy'n hunangyflogedig ac sy'n rhedeg busnesau bach wedi cysylltu â mi, ac mae pob un ohonynt yn ofni oherwydd y feirws sy'n cylchredeg yn ein cymuned, ond hefyd yn ofnus oherwydd mae'n bosibl iawn y byddant yn colli eu swyddi ac yn colli eu busnesau. Mae'n ddyletswydd ar unrhyw Lywodraeth i ymateb yn llawn i'r argyfwng sy'n wynebu pobl yn ein cymunedau heddiw, ac nid yw'r Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig wedi cydnabod yr effaith hon ar fusnesau bach a phobl hunangyflogedig.
Hefyd, Ddirprwy Lywydd, mae wedi methu cydnabod pwysigrwydd busnesau bach i economi Cymru. Mae wedi methu cydnabod pwysigrwydd y busnesau hyn i'n heconomi ehangach ac i'n cymunedau. Mae'r Gweinidog eisoes wedi dweud yn ei ateb na fydd Barnett yn gweithio. Rhaid ei bod yn bryd rhoi Barnett o'r neilltu yn awr a chael fformiwla newydd sy'n seiliedig ar anghenion i ddarparu'r gefnogaeth lawn y mae Cymru ei hangen ac yn ei haeddu.
Yn olaf, Weinidog, a gaf fi ofyn i chi am y ffordd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio ar hyn o bryd? Mae hwn yn argyfwng ledled y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd, ond mae'n ymddangos mai un wlad yn unig yn y Deyrnas Unedig sydd o ddiddordeb i'r Deyrnas Unedig ac nid y pedair gwlad. Rwy'n ymwybodol fod Gweinidogion Cymru wedi cynnig cyfarfodydd preifat i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a chyfleoedd i weithio gyda'n gilydd i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar bob busnes ledled y DU. Onid yw'n bryd i'r DU lywodraethu dros y Deyrnas Unedig gyfan a sicrhau bod y DU gyfan yn cael y gefnogaeth y mae busnesau, yr hunangyflogedig a'n cymunedau ei hangen ac yn ei haeddu?
A gaf fi ddiolch i Alun Davies am ei gwestiynau? Ffurfiwyd y sefydliad hwn i fynd i'r afael â phroblemau Cymreig, ond wrth gwrs, rydym yn byw mewn cyfnod eithriadol. Mae coronafeirws yn broblem fyd-eang ac mae'n galw am ymateb byd-eang ac am ymateb cryf iawn gan y DU hefyd. Mae'n galw am ymateb lle mae'r pedair gwlad yn cyfrannu at yr atebion, ac roeddwn yn falch y bore yma o gymryd rhan yn yr hyn y gobeithiaf y bydd yn gylch wythnosol o drafodaethau pedairochrog â'm cymheiriaid ledled y DU, gan gynnwys Gweinidogion yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.
Rhaid imi ddweud nifer o bethau am y cyhoeddiad a wnaethpwyd ddoe. Mae angen gwneud llawer mwy. Dywedwyd wrthym y bore yma y bydd datganiadau pellach yn cael eu gwneud. Gwn fod y Prif Weinidog wedi gwneud datganiad y prynhawn yma ynglŷn â phobl sy'n rhentu eiddo a oedd, tan heddiw, yn eithriadol o bryderus am y sefyllfa y byddent yn ei hwynebu. Rwy'n gobeithio y rhoddir mwy o gefnogaeth i bobl sy'n wynebu cyflogau is o lawer neu a fydd yn colli eu cyflogau'n gyfan gwbl. I'r perwyl hwn, siaradais â'r Ysgrifennydd Gwladol ddoe yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ac fel rhan o'r trafodaethau pedairochrog heddiw, codasom y posibilrwydd y byddai Llywodraeth y DU yn cyflwyno cynllun cymhorthdal cyflog. Ni fyddai hyn yn ddigynsail. Rydym wedi ei weld yn cael ei fabwysiadu mewn llawer o wledydd eraill ledled y byd, a dywedwyd wrthyf y byddai'r union gynnig hwnnw'n cael ei ystyried. Rwy'n gobeithio y gwneir cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU yn y dyddiau nesaf.
Bydd yn rhaid cynnig pecyn ariannol enfawr o gymorth ochr yn ochr ag ef wrth gwrs. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, yn y 24 awr ddiwethaf, wedi dweud bod yn rhaid i'r Llywodraeth weithredu mewn modd diamwys, ac mae hynny'n golygu, yn hytrach na gwario tua 1.5 y cant o'r cynnyrch domestig gros i gryfhau'r economi, y dylid buddsoddi rhywbeth tebycach i 5 y cant ynddi, a dyna'n union rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ei ystyried wrth iddi ddyfeisio—fel rwy'n gobeithio y bydd yn ei wneud—polisi ymyraethol cryf mewn perthynas â chymorth cyflogau. O ran y £330 biliwn a gyhoeddwyd, roedd hwnnw'n canolbwyntio i raddau helaeth ar fusnesau a allai fforddio benthyca, ond gwyddom fod yna lawer o fusnesau nad ydynt yn y sefyllfa honno ar hyn o bryd ac mae angen cymorth arnynt ar unwaith.
Nawr, rwyf wedi gofyn am eglurder ynglŷn â beth y gallai'r bwlch yn y cynigion ar gyfer Lloegr fod. Mae £20 biliwn wedi'i ddyrannu i'r set honno o gynigion, ond nid ydym yn hollol siŵr a ellir fforddio'r cynigion yn llawn gyda'r £20 biliwn a ddyrannwyd ar eu cyfer. Fy nealltwriaeth i yw na fydd grantiau yn Lloegr ar gael tan fis Ebrill. Awdurdodau lleol fydd yn eu gweinyddu. Rydym yn edrych yma yng Nghymru ar sut y gallwn gael arian drwy'r drws yn gynt, oherwydd mae taer angen cefnogi busnesau bach a chanolig eu maint, a busnesau mwy o faint hefyd yn wir, a hynny ar unwaith.
A gaf fi ddiolch i chi am eich ateb cytbwys, rwy'n meddwl, i Alun Davies? A chwestiwn Alun Davies—rwy'n siomedig iawn gyda thôn ei ymagwedd oherwydd, fel y dywedais ddoe, Weinidog, rwyf am weithio gyda chi a'r Llywodraeth, gan graffu ond hefyd mewn ffordd gytbwys a chyda chydweithrediad, ar yr adeg hon nas gwelwyd ei thebyg o'r blaen. Cawsom y Canghellor ddoe, yn ychwanegol at gyllideb yr wythnos diwethaf, yn cyhoeddi £330 biliwn, swm digynsail, gydag arian canlyniadol Barnett o £1.1 biliwn, gyda mwy o arian—mwy o arian—yn dod yn ôl yr angen hefyd. Felly, gadewch i ni gadw hynny yn y cyd-destun a fwriadwyd. [Torri ar draws.] Os gwelwch yn dda—
Parhewch.
Ond rwyf mor rhwystredig nad ydym yn gweithio ar sail consensws, Ddirprwy Lywydd. Dewch, gadewch inni ddod at ein gilydd ar yr adeg hon. Rwy'n mynd i geisio mynd drwy fy nghwestiynau mewn ffordd bwyllog.
Ddoe, Weinidog, cyhoeddodd y Llywodraeth fesurau ychwanegol ar gyfer cymorth i fusnesau. Fe ddywedoch chi y byddwch yn gwneud cyhoeddiad yn ddiweddarach heddiw, rwy'n credu, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr iawn gan fy mod yn credu bod angen i hynny fod mor gyflym ag sy'n bosibl. Rwy'n sylweddoli bod swyddogion yn mynd i orfod gweithio drwy'r symiau canlyniadol a'r manylion hynny, ond yn sicr cyhoeddodd Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr, ni waeth beth yw'r gwerth ardrethol, fod pob busnes—boed yn dafarndai, yn lleoliadau cerddoriaeth neu'n theatrau neu'n fwytai—yn cael rhyddhad ardrethi o 1 Ebrill yn gyfan gwbl. A buaswn yn gobeithio, wrth gwrs, y gall Llywodraeth Cymru wneud yr un peth yma yng Nghymru cyn gynted â phosibl, a chredaf ei bod yn bwysig fod hynny'n digwydd yn gyflym oherwydd os na fydd yn digwydd, bydd ein mewnflychau'n llenwi, a bydd pwysau ychwanegol yn cael ei roi ar Busnes Cymru gyda busnesau'n gofyn y cwestiynau. Felly, mae'n bwysig iawn fod hynny'n digwydd cyn gynted ag y bo modd. Wrth gwrs, mae'r grant a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar gael—nid benthyciad ond grant sydd ar gael i fusnesau, i fyny o £3,000 i £10,000, ac mae'n amlwg y bydd lle yno i Lywodraeth Cymru gyflwyno ei chynllun ei hun. Unwaith eto, rwy'n croesawu'n fawr y ffaith eich bod yn gallu gwneud hynny, ac os ydych chi'n gallu gwneud hynny'n gynt nag y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yn Lloegr ar gyfer busnesau Cymru, mae hynny'n wych ac fe gewch fy nghefnogaeth lwyr yn hynny hefyd.
O ran Busnes Cymru, fe sonioch chi ddoe mai dyna yw'r siop un stop, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr, ac fe ddywedoch chi fod ganddo gapasiti, neu ei fod wedi dynodi hynny. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi bod yn cyfeirio busnesau at y llinell honno ac maent wedi dod yn ôl ataf i ddweud eu bod wedi bod yn ceisio mynd trwodd ers dau ddiwrnod. Rwyf wedi ceisio cysylltu â Busnes Cymru fy hun—roeddwn mewn ciw am 30 munud ac ar y pwynt hwnnw rhoddais y gorau iddi. Nid beirniadaeth yw hynny, dim ond rhoi gwybod i chi beth sy'n digwydd yn y cyfnod digyffelyb hwn, a hefyd, nid wyf yn credu bod yr opsiynau a oedd ar gael yn berthnasol i'r argyfwng presennol a wynebwn. Nid oedd unrhyw sôn am y sefyllfa bresennol. Opsiwn 1, wyddoch chi, yw 'A ydych chi eisiau dechrau busnes newydd? Pwyswch 1.' Pwysais y pumed opsiwn, sef 'arall', felly credaf fod angen edrych ar hynny er mwyn sicrhau bod busnesau'n mynd drwodd i siarad â rhywun cyn gynted â phosibl, gymaint ag y gellir.
O ran ardrethi busnes, mae'n gwestiwn hefyd a yw awdurdodau lleol wedi anfon biliau allan ai peidio. Ond wrth gwrs, os gellir atal hynny neu os gellir dweud wrth fusnesau yn gyffredinol, 'Ni fyddwch yn talu ardrethi busnes', bydd hynny eto'n lleihau'r pwysau. Mater gweinyddol yw hwn i awdurdodau lleol, lle gellid arbed llawer o adnoddau ac amser os gallwn weithio drwy rai o'r problemau hyn cyn gynted â phosibl cyn dechrau'r flwyddyn ariannol newydd.
Ac yn olaf, mae Banc Busnes Prydain hefyd yn darparu cyllid, a hoffwn gael rhywfaint o eglurder, os oes modd—os nad yn awr, drwy ddatganiad, efallai, i'r Aelodau—fod banc datblygu Prydain, er enghraifft, yn darparu cyllid i'r DU gyfan ar gyfer cymorth i fusnesau, a sut y mae hynny'n cydgysylltu â Banc Datblygu Cymru? A all busnesau Cymru fynd drwy'r ddau fanc? A chyda'r swm canlyniadol hwnnw, sut y mae hynny'n gweithio o ran y ffaith nad yw rhai agweddau ar gymorth busnes yn dod drwy Lywodraeth Cymru, ond eu bod yn dod drwy ddulliau eraill hefyd? Byddai'n ddefnyddiol deall hynny er mwyn inni allu rhoi'r wybodaeth gywir i fusnesau. Rwy'n dal i fod yn ymrwymedig i weithio gyda chi ar sail amhleidiol i helpu busnesau ledled Cymru, Weinidog.
A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau? Mae wedi crybwyll nifer o feysydd a phynciau y prynhawn yma.
Yn gyntaf oll, a gaf fi ddweud ynglŷn â Busnes Cymru—mae'n amlwg fod Busnes Cymru yn cael eu llethu gan alwadau ar hyn o bryd? Cefais wybod y bore yma fod staff ychwanegol wedi'u symud o'u swyddi arferol, eu swyddogaethau arferol, er mwyn ateb y nifer enfawr o alwadau a wneir i'r gwasanaeth penodol hwnnw. Crybwyllais y negeseuon llais a chyfeirio pobl drwy'r system negeseuon llais. Mae hynny'n cael sylw wrth inni siarad. Buaswn yn awgrymu y dylai busnesau, fel cam cyntaf, ymweld â'r wefan a'r wybodaeth a ddarperir arni. Hefyd, mae modd logio galwad yn ôl os na all busnesau aros mwy na phump, 10 neu'n wir, 30 munud, ac rwy'n cydnabod—rwy'n cydnabod—fod pwysau aruthrol yno gyda Busnes Cymru. Rydym yn edrych ar bob cyfle i gryfhau ymhellach nifer y bobl sy'n cynghori busnesau o fewn Busnes Cymru.
O ran hysbysiadau ardrethi busnes, os gellir eu hatal, mae'n amlwg y bydd hynny'n digwydd, ond os na ellir eu hatal a'u bod eisoes wedi cael eu hanfon, bydd hysbysiadau pellach yn mynd allan i roi gwybod i fusnesau na fydd ganddynt ddim i'w dalu. O ran y £330 biliwn a gyhoeddwyd, benthyciadau'n unig ydyw ar hyn o bryd ac rydym angen swm ychwanegol o arian—swm sylweddol iawn yn wir—i fod ar gael i dalu am gostau sefydlog busnesau wrth iddynt geisio brwydro drwy'r cyfnod hwn neu os byddant yn penderfynu gaeafgysgu wrth iddynt roi'r gorau i weithredu am gyfnod dros dro. Dylid defnyddio'r arian hwnnw i sicrhau bod incwm ar gael i bobl y mae coronafeirws yn effeithio arnynt ac sydd mewn gwaith ond hefyd i gadw'r gweithwyr gwerthfawr hynny ar lyfrau'r busnesau yr effeithir arnynt. Mae'n gwbl hanfodol fod camau'n cael eu cymryd yn hynny o beth.
Gwn fod y Gweinidog Cyllid yn siarad y prynhawn yma â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, a bydd Rebecca Evans yn cyflwyno achos grymus iawn dros y bwlch y soniais fod angen ei lenwi. Mae'n gwbl hanfodol os ydym am gyflwyno'n union yr un lefel o gymorth o ran ardrethi annomestig ar gyfer y sectorau a gyhoeddwyd gan y Canghellor ddoe. Mae costau enfawr yn gysylltiedig â chefnogi archfarchnadoedd cadwyn, siopau cadwyn a gwestai cadwyn, ond o leiaf, rydym yn edrych ar y cyfle i ddarparu cymorth yn ôl disgresiwn i gynghorau, gan gydnabod mewn sawl rhan o Gymru fod busnesau mawr annibynnol, fel y gwestai hynny a geir mewn llawer o'n cymunedau, yn gallu rhoi cefnogaeth amhrisiadwy i'r gadwyn gyflenwi.
Diolch i'r Gweinidog am ei ateb i gwestiwn Alun Davies. Credaf ei bod yn sicr yn wir, oherwydd strwythur ein heconomi, y bydd arnom angen lefel uwch o gymorth i fusnesau o bosibl, ac fe'm calonogir gan yr hyn a ddywed y Gweinidog, ei fod yn cael peth ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth y DU i gydnabod hynny. Rwy'n siŵr y gallwn gael pob ffydd yn y Gweinidog cyllid y bydd yn cyflwyno'r achos hwnnw'n rymus tu hwnt, oherwydd mae gennym strwythur gwahanol iawn. Rydym yn dibynnu mwy ar dwristiaeth, er enghraifft, mewn rhai cymunedau. Mae'n dal i fod gennym—diolch byth—fwy o gapasiti gweithgynhyrchu na llawer o rannau eraill o'r DU, ond unwaith eto, mae'n bosibl fod y busnesau hynny dan fygythiad. Ac mae gennym hefyd—a dyma fy nghwestiwn cyntaf i'r Gweinidog—lawer iawn o ficrofusnesau, fel roedd fy nghyd-Aelod, Leanne Wood, yn sôn ddoe, llawer iawn o bobl sy'n sefydliadau un person neu'n sefydliadau un neu ddau o bobl. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, wrth inni symud ymlaen, fod yna fodd o drosglwyddo unrhyw becyn cymorth busnes iddynt yn rhwydd ac yn effeithiol iawn. Nid yw'r ffaith y gellir cael tâl salwch yn gynharach yn mynd i ddatrys y broblem i bobl sy'n hunanynysu nid oherwydd eu bod hwy'n sâl ond oherwydd bod rhywun arall yn sâl, ac yn sicr nid yw'n mynd i ddatrys y broblem i rywun nad yw'n hunanynysu ond nad ydynt yn cael unrhyw fusnes, er enghraifft, os ydynt yn adeiladwyr ac y byddent fel arfer yn mynd i mewn i gartrefi pobl ac nid ydynt yn cael unrhyw fusnes.
Felly, hoffwn glywed ychydig mwy gan y Gweinidog heddiw ynglŷn â beth yw ei argymhellion i sicrhau y gall y microfusnesau hynny gael cymorth. Roeddwn yn mynd i nodi'r pwyntiau ynglŷn â mynediad at y llinell gymorth y mae Russell George eisoes wedi'u crybwyll, ond nid oes angen ailadrodd hynny. Ond rwy'n credu ei bod yn arbennig—. I'r busnesau hynny mae'n arbennig o bwysig fod mynediad at gymorth yn hawdd a bod gwybodaeth yn hawdd ei chael, oherwydd nid oes ganddynt adrannau gweinyddol mawr i'w cefnogi gyda hynny.
Fe'm calonogwyd wrth glywed yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am ryddhad ardrethi i rai o'n busnesau twristiaeth mwy o faint. Rwy'n meddwl am sefydliadau fel Gwesty'r Harbourmaster yn fy rhanbarth i ac etholaeth y Llywydd, sy'n fusnes annibynnol Cymreig, ond fel y dywedodd y Gweinidog, mae'n gwbl hanfodol yn y gadwyn gyflenwi yn yr ardal honno. Mae'n fusnes cyrchfan y daw pobl i'r dref honno i ymweld ag ef, i aros ynddo, i ddefnyddio'r bwyty ardderchog, a gwyddom fod gennym gannoedd o'r rheini ar hyd a lled Cymru. Felly, os caf ofyn i'r Gweinidog gadw'r rhyddhad ardrethi busnes dan ystyriaeth ac edrych eto i weld a oes modd inni wahaniaethu, o bosibl, rhwng y busnesau sydd mewn perchnogaeth leol y byddem am roi cymhorthdal iddynt, os mynnwch, a'r cadwyni mawr y byddem neu na fyddem eisiau eu cefnogi. Oherwydd yn sicr nid wyf yn credu y byddai unrhyw fwriad ar ran y Gweinidog i'r busnesau hynny beidio â chael eu cefnogi.
Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd—rwy'n cymryd nad oes angen dweud hyn—yn y darlun hwn sy'n symud yn gyflym iawn, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bawb ohonom am yr hyn sy'n digwydd ynghylch yr ymateb gan Lywodraeth San Steffan. Gobeithio y bydd cyd-Aelodau ar y meinciau gyferbyn hefyd yn cefnogi unrhyw sylwadau sy'n cael eu cyflwyno i Weinidogion ar ben arall yr M4, oherwydd rwy'n siŵr eu bod yn deall strwythur gwahanol ein busnes. Ond po fwyaf y caiff pawb ohonom ei wybod ynglŷn â beth sy'n digwydd, y mwyaf y gallwn rannu'r wybodaeth honno gydag etholwyr pryderus, a'r mwyaf y gallwn weithredu fel Tîm Cymru cyn belled ag y bo modd. Gŵyr y Gweinidog y byddwn ni ar y meinciau hyn a gweddill y gwrthbleidiau bob amser yn craffu'n drwyadl ar ei waith, ond yn yr amgylchiadau hyn, byddwn am weithio gyda'n gilydd lle gallwn wneud hynny.
Wel, a gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones? Roedd hi'n anhygoel o adeiladol a chymwynasgar ddoe, ac mae hi felly heddiw hefyd. Er nad wyf am ychwanegu at faich fy swyddogion, yng ngoleuni'r hyn a awgrymodd Helen Mary Jones, credaf y byddai'n ddefnyddiol i mi ddarparu datganiad ysgrifenedig wythnosol ynghylch ein hymwneud â Llywodraeth y DU a'r gwledydd datganoledig eraill, a'r diweddaraf ynghylch ymyriadau'n ymwneud â'r economi, a byddaf yn ceisio gwneud hynny.
O ran y pwyntiau a godwyd ynghylch unig fasnachwyr a microfusnesau, fel y dywedais, yn ddiweddarach heddiw, rydym yn disgwyl gallu cyhoeddi y byddwn yn cynnig grantiau o £10,000 i bob busnes bach. Bydd hynny'n cynnwys unig fasnachwyr. Os nad oes gan unig fasnachwyr a microfusnesau safleoedd, bydd angen iddynt ddibynnu ar gynllun cymhorthdal cyflog. Dyna pam rwy'n credu ei bod mor bwysig, cyn gynted ag y bo modd, i Lywodraeth y DU allu datblygu cynllun cymhorthdal cyflog teg ar gyfer busnesau o bob maint er mwyn sicrhau y gall busnesau naill ai aeafgysgu neu ymladd drwy'r argyfwng penodol hwn.
Ac yna, yn drydydd, cododd Helen Mary Jones y pwynt pwysig ynglŷn â pha mor arwyddocaol y gall gwestai annibynnol fod i lawer o'n cymunedau—siopau mawr annibynnol hefyd mewn sawl rhan o Gymru. Buaswn yn dweud y gallai rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn fod ar gael i gefnogi nifer ohonynt, ond os ydym o ddifrif yn dymuno rhoi'r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi ei gynnig i Loegr, ac os ydym am sicrhau bod cynifer o fusnesau ag y bo modd yn elwa o hyn, mae angen i Lywodraeth y DU lenwi'r bwlch enfawr o gannoedd o filiynau o bunnau.
Diolch. Joyce Watson.
Weinidog, rwy'n falch iawn fod y cwestiwn hwn wedi'i gyflwyno—a diolch i Alun Davies am wneud hynny—i roi cyfle i ni, a chyfle i chi, gynrychioli ein hardaloedd. Mae economi Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dibynnu'n helaeth ar dwristiaeth a busnesau bach, ond mae gan hynny, yn ei dro, ganran uchel o weithlu rhan-amser a dim oriau i'w gefnogi. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad am gymorth Llywodraeth y DU i'r graddau y mae wedi mynd, ond rwy'n bryderus, ac rydych wedi'i ailadrodd yma sawl gwaith, ei fod wedi'i anelu at y busnesau mwy o faint ac nad yw o anghenraid yn mynd i gefnogi'r llu o fusnesau bach a chanolig sydd gennym yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.
Ond yr hyn rwyf am ganolbwyntio arno go iawn heddiw yw'r gweithlu, ac yn enwedig tâl salwch statudol. A fyddech cystal â dweud wrthyf pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch swyddog cyfatebol yn y DU i sicrhau bod y gweithwyr rhan-amser a dim oriau nad ydynt yn gymwys ar hyn o bryd ar gyfer tâl salwch statudol yn cael y cymorth hwnnw? Ac a wnewch chi bwyso ar Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU i'w dalu'n gyflym i'r rhai sy'n sâl neu sy'n gorfod hunanynysu ar gyfradd sy'n cyfateb i'r cyflog byw go iawn? Bydd hynny, yn ei dro, yn helpu'r teuluoedd a'r unigolion i oroesi'r argyfwng hwn, oherwydd mae'n sicr yn argyfwng iddynt, ac nid hwy a'i creodd.
Ac rwy'n gobeithio y byddwch yn annog Llywodraeth y DU i gael gwared ar yr angen i aros am bum wythnos i gael credyd cynhwysol. Cefais fy nghalonogi wrth glywed o feinciau'r Torïaid yma eu bod am weithio gyda ni a'n cefnogi, a gobeithio y byddant yn dechrau ysgrifennu at y Gweinidogion yn eu Llywodraeth i ofyn iddynt am y tâl salwch statudol hwnnw, ac edrychaf ymlaen at gael copïau o'r llythyrau hynny.
Fe wyddom fod y Pasg yn dod. Fe wyddom, yn anffodus, na fydd o anghenraid yn ddathliad hapus fel roeddem i gyd yn ei obeithio, ond serch hynny, rwy'n siŵr y gwnaiff pawb yma ymuno â mi i obeithio y caiff pawb Basg mor ddigynnwrf ac mor dda ag y gallant ei gael.
A gaf fi ddiolch i Joyce Watson am ei chwestiynau, ac am hyrwyddo'r angen i gefnogi pobl a busnesau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, ac yn wir, ledled y wlad? Codwyd cwestiwn tâl salwch statudol heddiw mewn cyfarfod pedairochrog. Fe'i codwyd gan y Prif Weinidog hefyd yn ei lythyr at y Canghellor dyddiedig 17 Mawrth, a gwn ei fod wedi'i ddosbarthu i'r Aelodau. Gobeithiwn y bydd y Llywodraeth yn cymryd camau yn y modd y mae'r Aelod wedi'i amlinellu.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig, Ddirprwy Lywydd, fy mod yn rhoi sylw i anawsterau eraill y mae unigolion a busnesau bach yn eu hwynebu ar hyn o bryd, yn enwedig yn y rhanbarth y mae'r Aelod yn ei gynrychioli. Mae'r rheini'n cynnwys y costau sefydlog a all fod yn symiau enfawr, gan gynnwys costau cyfleustodau. Rwy'n galw ar gwmnïau cyfleustodau i gyflwyno cynnig sylweddol i unigolion a busnesau o ran gwyliau talu, gan adlewyrchu'r hyn y mae banciau wedi'i wneud yn gyfrifol o ran cynnig gwyliau ad-dalu morgais. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol i bawb gyfrannu at yr ymdrech i weld pobl a busnesau yn dod drwy'r cyfnod hynod anodd hwn. Ac mae hynny'n cynnwys cwmnïau cyfleustodau yn gwneud yr hyn y gallant ei wneud hefyd.
Un pwynt olaf, Ddirprwy Lywydd, ac mae'n ymwneud â chwestiwn a ofynnwyd gan Russell George. Roeddwn i fod i gyfarfod â banc datblygu Prydain yn gynharach yr wythnos hon. Yn anffodus, oherwydd yr argyfwng, ni fu modd iddynt gyfarfod. Mae trafodaeth gyda hwy yn cael ei rhoi yn fy nyddiadur, a byddaf yn adrodd yn ôl i'r Aelodau cyn gynted ag y gallaf.
Ni allaf weld, Weinidog, sut y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi disgrifio'r pecyn ariannol a roddwyd yn ei le hyd yn hyn fel un 'hollol annigonol'. Ar draws y Siambr hon ddoe, safodd Aelodau ysgwydd wrth ysgwydd yn wyneb y feirws sy'n ein hwynebu. Mae £430 biliwn wedi'i chwistrellu i mewn i'r economi ac yn mynd i gael ei chwistrellu i'r economi—15 y cant o'r cynnyrch domestig gros, dyna ydyw. Nid 1.5 y cant, nid 5 y cant, ond 15 y cant o'r cynnyrch domestig gros.
A dim ond—[Torri ar draws.] Ddoe ddiwethaf, nodais ddau beth i chi, Weinidog: (1), yn eich datganiad, ni wnaethoch dynnu sylw at y £100 biliwn o fenthyca ychwanegol roedd y Canghellor wedi'i chwistrellu i'r gyllideb yr wythnos diwethaf, ac roedd y Llywodraeth yn sefyll wrth 80 y cant o'r benthyciadau a gafodd eu tanysgrifennu gan y £100 biliwn hwnnw. Yn ail, gofynnais i chi'n benodol ynglŷn ag adnoddau Busnes Cymru—a fyddent yn gallu ymdrin ag ymholiadau. Nid beirniadaeth oedd hynny ond ymgais i gael sicrwydd o ystyried y don o ymholiadau—a hynny'n briodol—a fydd yn dod o'r byd busnes.
Heddiw, rydym wedi clywed gan fy llefarydd yma a ddywedodd fod negeseuon ar y system yn dal i fethu mynd i'r afael â'r pryderon hyn, ac mae pobl yn rhwystredig, a dweud y lleiaf, ac yn ddig ar y gwaethaf. A allwch roi sicrwydd inni fod yr adnoddau'n cael eu darparu? Rydych wedi cyfeirio at y ffaith honno, ond a allwch roi syniad inni faint yn fwy o adnoddau a ryddhawyd i Busnes Cymru o ran nifer y gweithredwyr a fydd ar gael a'r math o wybodaeth y byddant yn gallu ei rhoi i fusnesau sy'n holi, a hynny'n gyfiawn, lle mae angen iddynt fynd i ofyn am yr help hwn? Rwy'n sylweddoli ein bod mewn argyfwng, ond os ydych yn cyfeirio pobl i rywle, mae angen inni eu cyfeirio i'r cyfeiriad iawn er mwyn iddynt gael y cymorth y gallant ei gael.
Pan fyddwch yn rhyddhau'r datganiadau i'r wasg, rwy'n erfyn arnoch i sicrhau bod y datganiadau'n gywir. Roedd y datganiad i'r wasg a aeth allan am gymorth ariannol Llywodraeth y DU neithiwr yn gwbl anghywir gan Lywodraeth Cymru.
Y rheswm pam rwy'n credu ei fod wedi'i ddisgrifio fel cymorth 'hollol annigonol' yw oherwydd bod bwlch o gannoedd o filiynau o bunnau. Mae'n ffaith na ellir ei gwadu. Ac nid wyf yn golygu hyn fel beirniadaeth; mae'n ddigon posibl mai'r rheswm oedd na wnaeth Llywodraeth y DU ymgysylltu â ni i gynllunio'r ymyrraeth. Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n cael sylw wrth inni weithio drwy'r argyfwng, oherwydd rwy'n awyddus i gydweithio â Llywodraeth y DU hefyd, fel y credaf fy mod wedi gwneud dros flynyddoedd lawer.
Ond y rheswm pam y mae'n annigonol yw oherwydd bod siâp economi Cymru'n wahanol i un Lloegr, ac ni chafodd hynny ei gydnabod yn fformiwla Barnett, fel y mae Alun Davies eisoes wedi nodi. Mae angen mynd i'r afael â hynny ar frys, oherwydd yr hyn na allwn ei gael—. Edrychwch, rhowch y wleidyddiaeth o'r neilltu—yr hyn na allwn ei gael yw cyhoeddiad yn Lloegr ynglŷn â chynlluniau na ellir eu fforddio o fewn cwmpas penodol, a bod gofyn inni wneud yn union yr un peth yma heb yr arian i'w wneud mewn gwirionedd. Dyna'r her a wynebwn os na chydnabyddir y gwahaniaeth rhwng economïau Cymru a Lloegr. Ac yn wir, mae'r Alban a Gogledd Iwerddon yn wynebu problemau hefyd, nid ni'n unig. Dyma oedd diben y drafodaeth heddiw, a rhaid imi ddweud bod y drafodaeth honno'n golegaidd iawn. Credaf i'r her gael ei chydnabod gan gydweithwyr yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.
Nawr, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw sicrhau bod yr her honno'n cael sylw, a bod yr adnodd digonol y galwn amdano'n dod i Gymru fel y gallwn gefnogi busnesau Cymru yn yr un modd. Oherwydd yr hyn rwyf wedi bod yn ei ddweud wrth fusnesau, a'r hyn y mae busnesau wedi bod yn ei ddweud wrthyf fi yw, os gallwn osgoi ymwahanu o gwbl, yna gadewch i ni osgoi ymwahanu. P'un a ydych wedi'ch lleoli yn Llundain neu Landaf, rydych am wybod yn y termau cliriaf pa gefnogaeth sydd ar gael, a dylai fod yn gyson yn fy marn i. Dyna pam rwy'n benderfynol o wneud yn siŵr, fel y Gweinidog Cyllid ac eraill, fod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda ni i fynd i'r afael â'r diffygion yn y trefniadau ariannol presennol.
Rwy'n derbyn y pwynt hefyd am argaeledd adnoddau dynol o fewn Busnes Cymru. Mae'r rhain yn adegau eithriadol ac rydym yn ceisio llywio cynifer o aelodau staff â phosibl at wasanaethau rheng flaen. Byddaf yn rhoi diweddariadau pellach i'r Aelodau mewn perthynas â gwasanaeth Busnes Cymru, oherwydd yn fy marn i, bydd yn rhaid inni dynnu adnoddau dynol ychwanegol i mewn yn awr o asiantaethau eraill i gefnogi Busnes Cymru, a hynny oherwydd y galw eithriadol am gymorth. Rwyf hefyd yn benderfynol o sicrhau bod llywodraeth leol yn cynorthwyo Busnes Cymru drwy gynnig gwasanaeth cynghori di-dor a chyson sy'n llywio busnesau ac yn cyfeirio busnesau os oes angen at asiantaethau a gwasanaethau cymorth Llywodraeth y DU hefyd. Oherwydd yr hyn y mae busnes ei eisiau yn fwy nag unrhyw beth arall yw gwybodaeth a negeseuon clir, syml a chyson y gellir cael gafael arnynt drwy un pwynt cyswllt, a dyna'n union y ceisiwn ei gyflawni gyda Busnes Cymru.
Mae'n sicr yn wir fod y rhain yn adegau sy'n peri pryder gwirioneddol i deuluoedd nad oes yr un ohonom wedi gweld ei debyg erioed yn ystod ein hoes. Edrychaf ymlaen yn fawr at glywed manylion y datganiad y dywedoch chi y byddwch yn ei gyhoeddi yn ddiweddarach.
Roeddwn am ofyn yn benodol, fodd bynnag, am y sector modurol. Fel y gwyddoch, mae gennyf lawer o bobl wedi'u cyflogi yn y sector modurol yn Nhorfaen. Mae cryn nifer o gwmnïau ar draws y byd modurol wedi rhoi'r gorau i weithio yn y bôn, ac mae hynny'n bryder enfawr i'r cyflogwyr mawr yn Nhorfaen. A gaf fi ofyn pa drafodaethau a gawsoch gyda'r sector modurol ac a wnewch chi edrych yn benodol iawn ar eu hanghenion?
Yn amlwg, nid pobl sy'n gallu gweithio o gartref yw'r rhain. Maent yn ddiwydiannau cystadleuol iawn, ac os ydym yn eu colli mae risg sylweddol iawn na fydd modd dod â hynny'n ôl o ymyl y dibyn. Felly, a gaf fi ofyn i chi pa fesurau penodol rydych yn edrych arnynt i roi sylw i bryderon yr holl aelodau o staff sy'n gweithio yn y sector modurol yn Nhorfaen?
A gaf fi ddiolch i Lynne Neagle am ei chwestiwn? Buaswn yn cytuno'n llwyr â hi. Nid wyf erioed wedi profi cyfnod mor ddifrifol ac ansicr i deuluoedd a busnesau ym mhob cwr o'n gwlad, ac ym mhob cwr o'r byd yn wir. Mae'n dangos pam fod angen inni fachu ar bob cyfle i weithio mor agos â phosibl fel Llywodraethau, fel pleidiau gwleidyddol hefyd, i oresgyn yr heriau sy'n ein hwynebu.
Mae Lynne Neagle yn nodi un rhan benodol o'r economi sy'n wynebu anawsterau difrifol iawn ar hyn o bryd: y sector modurol. Roedd eisoes yn wynebu heriau o ganlyniad i'r newid cyflymach tuag at allyriadau sero a dyfodiad cerbydau hunan-yrru. Mae hyn yn awr, ac ar ben ansicrwydd Brexit wrth gwrs, yn her aruthrol y bydd yn anodd ei goresgyn, ond rwy'n credu bod y sector yn gryf ac yn gadarn ac y bydd yn ei oresgyn, ond bydd arno angen cymorth.
Bydd llawer o'r Aelodau wedi gweld y newyddion yn ystod y 24 awr diwethaf ynglŷn â'r penderfyniad a wnaed gan Toyota, sy'n debyg iawn i'r rhai a nodwyd gan Lynne Neagle yn ei chwestiwn. Daw hyn yn sgil y penderfyniad a wnaed ynghylch gweithgarwch Vauxhall yn y DU, ac mae 400 neu fwy o bobl yn byw yng Nghymru sy'n cael eu cyflogi ar safle Ellesmere Port. Felly, bydd nifer helaeth o bobl yng ngweithlu Cymru yn cael eu heffeithio gan benderfyniadau a wneir yn y sector modurol.
Rydym yn trafod yn feunyddiol â fforwm modurol Cymru, sef corff cynrychioliadol y sector modurol, a'r neges a gawn ganddynt yw na all y sector modurol, fel llawer o'r sectorau busnes yn economi Cymru, barhau os oes angen iddynt gael llawer iawn o bobl yn gweithio o adref. Rhaid i chi fod ar y safle yn gwneud pethau, ac felly efallai mai gaeafgysgu yw'r unig ddewis.
Er mwyn sicrhau bod busnesau'n dod allan o gyfnod o aeafgysgu cyn gynted â phosibl a chael pobl yn ôl i'r gwaith, yn hytrach na methu yn ystod y cyfnod hwn, mae angen cynllun cymhorthdal cyflog. Ac nid ar gyfer y busnesau eu hunain yn unig y mae ei angen, mae ei angen hefyd ar unigolion i allu gwarantu eu lles drwy'r cyfnod hwn.
Diolch yn fawr, Weinidog.