Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 18 Mawrth 2020.
A gaf fi ddiolch i Alun Davies am ei gwestiynau? Ffurfiwyd y sefydliad hwn i fynd i'r afael â phroblemau Cymreig, ond wrth gwrs, rydym yn byw mewn cyfnod eithriadol. Mae coronafeirws yn broblem fyd-eang ac mae'n galw am ymateb byd-eang ac am ymateb cryf iawn gan y DU hefyd. Mae'n galw am ymateb lle mae'r pedair gwlad yn cyfrannu at yr atebion, ac roeddwn yn falch y bore yma o gymryd rhan yn yr hyn y gobeithiaf y bydd yn gylch wythnosol o drafodaethau pedairochrog â'm cymheiriaid ledled y DU, gan gynnwys Gweinidogion yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.
Rhaid imi ddweud nifer o bethau am y cyhoeddiad a wnaethpwyd ddoe. Mae angen gwneud llawer mwy. Dywedwyd wrthym y bore yma y bydd datganiadau pellach yn cael eu gwneud. Gwn fod y Prif Weinidog wedi gwneud datganiad y prynhawn yma ynglŷn â phobl sy'n rhentu eiddo a oedd, tan heddiw, yn eithriadol o bryderus am y sefyllfa y byddent yn ei hwynebu. Rwy'n gobeithio y rhoddir mwy o gefnogaeth i bobl sy'n wynebu cyflogau is o lawer neu a fydd yn colli eu cyflogau'n gyfan gwbl. I'r perwyl hwn, siaradais â'r Ysgrifennydd Gwladol ddoe yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ac fel rhan o'r trafodaethau pedairochrog heddiw, codasom y posibilrwydd y byddai Llywodraeth y DU yn cyflwyno cynllun cymhorthdal cyflog. Ni fyddai hyn yn ddigynsail. Rydym wedi ei weld yn cael ei fabwysiadu mewn llawer o wledydd eraill ledled y byd, a dywedwyd wrthyf y byddai'r union gynnig hwnnw'n cael ei ystyried. Rwy'n gobeithio y gwneir cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU yn y dyddiau nesaf.
Bydd yn rhaid cynnig pecyn ariannol enfawr o gymorth ochr yn ochr ag ef wrth gwrs. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, yn y 24 awr ddiwethaf, wedi dweud bod yn rhaid i'r Llywodraeth weithredu mewn modd diamwys, ac mae hynny'n golygu, yn hytrach na gwario tua 1.5 y cant o'r cynnyrch domestig gros i gryfhau'r economi, y dylid buddsoddi rhywbeth tebycach i 5 y cant ynddi, a dyna'n union rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ei ystyried wrth iddi ddyfeisio—fel rwy'n gobeithio y bydd yn ei wneud—polisi ymyraethol cryf mewn perthynas â chymorth cyflogau. O ran y £330 biliwn a gyhoeddwyd, roedd hwnnw'n canolbwyntio i raddau helaeth ar fusnesau a allai fforddio benthyca, ond gwyddom fod yna lawer o fusnesau nad ydynt yn y sefyllfa honno ar hyn o bryd ac mae angen cymorth arnynt ar unwaith.
Nawr, rwyf wedi gofyn am eglurder ynglŷn â beth y gallai'r bwlch yn y cynigion ar gyfer Lloegr fod. Mae £20 biliwn wedi'i ddyrannu i'r set honno o gynigion, ond nid ydym yn hollol siŵr a ellir fforddio'r cynigion yn llawn gyda'r £20 biliwn a ddyrannwyd ar eu cyfer. Fy nealltwriaeth i yw na fydd grantiau yn Lloegr ar gael tan fis Ebrill. Awdurdodau lleol fydd yn eu gweinyddu. Rydym yn edrych yma yng Nghymru ar sut y gallwn gael arian drwy'r drws yn gynt, oherwydd mae taer angen cefnogi busnesau bach a chanolig eu maint, a busnesau mwy o faint hefyd yn wir, a hynny ar unwaith.