– Senedd Cymru am 3:21 pm ar 18 Mawrth 2020.
Eitem 5 ar yr agenda yw'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: newidiadau sy'n deillio o newid enw'r sefydliad. Galwaf eto ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Lywydd.
Cynnig NNDM7310 Elin Jones
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau sy’n deillio o newid enw’r sefydliad’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2020.
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i diwygiadau i’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad A i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar 6 Mai 2020.
Ffurfiol.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.