7. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 18 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:25, 18 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Y busnes a gyflwynwyd ar gyfer dydd Mawrth nesaf—mae'n cynnwys amryw o ddatganiadau ac os cofiaf yn iawn, mae datganiad gan Weinidog yr amgylchedd yn un o'r rheini yng nghyd-destun coronafeirws—caiff yr holl ddatganiadau hynny eu cynnal a byddant yn digwydd ar y dydd Mercher. Felly, ni fydd dim wedi newid o'r datganiad busnes rydych wedi cyfeirio ato. Rydych wedi cael cyfle i godi rhai materion ychwanegol yno; nid ydynt yn faterion uniongyrchol i mi fel Llywydd, ond yn ffodus, mae rheolwr busnes y Llywodraeth a'r Trefnydd wedi clywed y pwynt.