Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 18 Mawrth 2020.
Rydych yn gwybod y rheolau'n well na fi. O ran y pwyllgorau, mae gennym Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yfory lle mae'r Gweinidog addysg yn rhoi tystiolaeth, ac rwy'n ystyried hynny'n ddefnyddiol iawn. Beth yw'r cynlluniau mwy hirdymor ar gyfer pwyllgorau? Nid wyf yn credu eich bod wedi sôn am bwyllgorau yn eich datganiad.