Part of the debate – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 24 Mawrth 2020.
A allaf bwyso arnoch ynghylch yr archfarchnadoedd? Rwy'n credu bod llawer ohonom yn bryderus am weithwyr hefyd. Mae nifer o bobl wedi cysylltu â mi yn eithaf siomedig, dros nos, sydd wedi cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw fynd i'r gwaith. Mae'n amlwg nad yw eu gwaith yn hanfodol mewn unrhyw ffordd realistig ar hyn o bryd. A oes pwerau, neu a oes pwerau yn bodoli, i alluogi naill ai'r Llywodraeth hon neu Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu a diogelu'r gweithwyr hynny rhag gweithredoedd yn y dyfodol gan gyflogwyr diegwyddor?