Mawrth, 24 Mawrth 2020
Cyfarfu’r Cynulliad am 10:00 gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.
A'r eitem gyntaf ar yr agenda yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog, a galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig y cynnig hwnnw. Mark Drakeford.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf, sef cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiynau wedi eu trosglwyddo i'w hateb yn ysgrifenedig.
Prif Weinidog—datganiad a chyhoeddiad busnes.
Fel y dywedodd y Prif Weinidog, mae eitemau 4, 5 a 6 wedi eu—. Wel, mae 4 a 5 wedi eu trosglwyddo ar gyfer atebion ysgrifenedig, ac eitem 6—nid oes unrhyw gwestiynau amserol.
Felly, Prif Weinidog—datganiad gan y Prif Weinidog ar coronafeirws.
Symudwn yn awr at eitem 8, sef datganiad y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y coronafeirws, COVID-19. Y Gweinidog Iechyd.
Mae eitem 9, eitem 10, eitem 11, eitem 12 ac eitem 13 ar yr agenda, sydd i gyd yn ddatganiadau gan Weinidogion y Cabinet, i gyd wedi eu hatgyfeirio ar gyfer datganiadau ysgrifenedig.
Felly, symudwn yn awr at y ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil y coronafeirws, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig hwnnw, Vaughan Gething.
Mae eitem 15 ac eitem 16 ar ein hagenda wedi'u tynnu'n ôl.
Mae eitem 17 yn gynnig i atal y Rheolau Sefydlog. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i gynnig y cynnig.
Mae eitem 18 yn gynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog ac, unwaith eto, galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i gynnig y cynnig. Unrhyw aelod?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch rhoi cymorth i landlordiaid a thenantiaid ym mhob sector yng ngoleuni'r achosion o coronafeirws?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia