7. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 10:05 am ar 24 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 10:05, 24 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Nawr, Dirprwy Lywydd, trwy gydol y cyfnod hwn, mae COBRA wedi cyfarfod yn rheolaidd ac wedi cael cyngor gan bedwar prif swyddog meddygol y DU a chan y grŵp gwyddonol ar gyfer argyfyngau. Wrth i'r cyngor hwnnw esblygu, rydym ni wedi tynhau'n raddol y mesurau y mae angen i ni eu cymryd. Ers cyfarfod diwethaf y Senedd, rydym ni wedi cau ysgolion, cau tafarndai, clybiau, bariau a bwytai. Ddoe, cymerodd Llywodraeth Cymru fesurau i gau meysydd carafanau, safleoedd gwersylla, mannau poblogaidd i dwristiaid a mannau prydferth i atgyfnerthu'r canllawiau ynghylch pobl ddim yn ymgynnull mewn niferoedd mawr a chadw eu pellter oddi wrth ei gilydd. Cyhoeddwyd gennym hefyd bod awdurdodau lleol yn gorfodi'r cam o gau tafarndai a bariau yn llym, gyda'r perygl y byddai trwyddedigion yn colli eu trwyddedau pe bydden nhw'n cael eu dal yn anwybyddu'r gwaharddiad.

Ychydig oriau yn ddiweddarach, ddiwedd prynhawn ddoe, cyfarfu COBRA eto i ystyried mesurau llymach fyth. Fel y byddwch wedi gweld o'r datganiadau a gyhoeddwyd gennyf i, Prif Weinidog y DU, a Phrif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae'r hyn a oedd yn gyngor yn flaenorol yn ofyniad erbyn hyn. Am y tair wythnos nesaf o leiaf, bydd holl siopau'r stryd fawr a mannau cymunedol ar gau. Bydd siopau bwyd, gwasanaethau GIG lleol, fferyllfeydd, banciau a swyddfeydd post a gorsafoedd petrol yn parhau i fod ar agor, ond ni chaniateir unrhyw gynulliad o fwy na dau o bobl yn gyhoeddus.

Mae'n rhaid i ni aros gartref, gan adael am resymau cyfyngedig iawn yn unig. A dyma'r pedwar rheswm: yn gyntaf, siopa am angenrheidiau sylfaenol—er enghraifft, bwyd a moddion—ond mae angen i'r teithiau hyn fod mor anaml ag y gallwn ni eu gwneud. Yn ail, caniateir un math o ymarfer corff bob dydd, er enghraifft, rhedeg, mynd am dro, neu feicio—ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o'ch aelwyd. Yn drydydd, rydym ni'n cael gadael ein cartrefi ar gyfer unrhyw angen meddygol, neu i ddarparu gofal neu i helpu person agored i niwed. Ac, yn olaf, cawn deithio i'r gwaith ac yn ôl, ond dim ond pan nad oes unrhyw ffordd o gwbl y gellir gwneud hyn o gartref.

Nawr, Dirprwy Lywydd, mae'r rhain yn fesurau eithriadol. Ond, fel y dywedais, maen nhw'n angenrheidiol i leihau lledaeniad coronafeirws ac i ganiatáu i'r GIG achub bywydau. Wrth i bob un ohonom ni ddilyn y rheolau newydd hyn, byddan nhw'n lleihau ein cysylltiad o ddydd i ddydd gyda phobl eraill a chyflymder a throsglwyddiad y feirws. Mae'r rhain yn rheolau i bawb—nid oes yr un ohonom ni'n eithriad. Mae bywydau pob un ohonom ni wedi newid, ac mae hynny'n cynnwys y ffordd y bydd y Senedd hon yn gweithio. Daeth y mesurau yr wyf i wedi eu hamlinellu yn y fan yma i rym am hanner nos neithiwr. Byddan nhw'n para am dair wythnos, pan fyddan nhw'n cael eu hadolygu. Bydd Llywodraeth y DU yn rhoi'r pwerau angenrheidiol i'r heddlu orfodi'r mesurau hyn, ond, wrth gwrs, rwy'n gobeithio'n fawr iawn na fyddwn ni'n cyrraedd y pwynt hwnnw.

Mae ymateb i'r pandemig hwn yn waith i Lywodraeth Cymru gyfan. Neithiwr, rhoddodd y Gweinidog addysg ganllawiau ychwanegol i rieni ac ysgolion yng ngoleuni'r gofynion newydd hyn. Mae Gweinidog yr economi wedi cyflwyno cyngor i fusnesau, ac mae Gweinidog yr amgylchedd yn cael trafodaethau dyddiol gyda'r diwydiannau bwyd a ffermio. Mae'r Cabinet cyfan yn canolbwyntio ar yr argyfwng iechyd cyhoeddus sydd o'n blaenau. Heddiw, byddai Gweinidogion wedi darparu datganiadau llafar yma am y gwaith y maen nhw'n ei wneud, a byddwn yn sicrhau, wrth gwrs, bod y datganiadau hynny ar gael i Aelodau yn y fan yma ac i'r cyhoedd.  

Mae'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gallu gweithio mor agos gyda'n partneriaid mewn llywodraeth leol, gyda'r undebau llafur, gyda'r sector gwirfoddol, gyda chyflogwyr a busnesau, yn hanfodol i'r ffordd yr ydym ni'n ymateb i'r pandemig hwn, ac yn gryfder gwirioneddol o'r ffordd yr ydym ni'n gallu gwneud pethau yma yng Nghymru.  

Dirprwy Lywydd, a gaf i gloi drwy ddiolch i bawb am eu cymorth ac am eu cefnogaeth wrth i ni wynebu'r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn gyda'n gilydd? Mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i deuluoedd a chymunedau ledled ein gwlad, a gwn y bydd gan bobl lawer iawn o gwestiynau, yn enwedig ar ôl y cyhoeddiad neithiwr, a byddwn yn gwneud ein gorau i ymateb i bob un ohonyn nhw.  

Rydym ni wedi gofyn llawer iawn gan y cyhoedd, ond yn enwedig ein staff iechyd a gofal cymdeithasol, ein gwasanaethau cyhoeddus a'r bobl niferus hynny sydd wedi dod ymlaen i wirfoddoli. Mae'r ymateb yng Nghymru wedi bod yn wirioneddol eithriadol. Ac i bob un o'r rheini, dywedaf eto, diolch yn fawr iawn—diolch o galon i chi gyd.