Part of the debate – Senedd Cymru am 11:06 am ar 24 Mawrth 2020.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Byddaf mor gyflym ag y gallaf yn holi fy nghwestiynau. Ac a gaf i yn gyntaf ddweud, Prif Weinidog, fy mod yn hapus iawn i weithio'n adeiladol iawn gyda'ch Gweinidogion cyllid a busnes ac economi mewn ffordd adeiladol i helpu i gefnogi economi busnes Cymru? Ac rwy'n mawr obeithio bod eich cyd-Aelodau yn gwrando—rwy'n siŵr eu bod—ar y materion yr wyf yn eu codi heddiw, oherwydd os na allwch chi ateb y cwestiynau a mynd i'r afael â nhw, yr wyf yn deall ac yn derbyn yn llwyr, yna gobeithiaf y gallan nhw roi sylw i'r rhain, efallai mewn datganiad ysgrifenedig.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at Busnes Cymru fel siop un stop yr wythnos diwethaf, ac roeddwn yn falch iawn o glywed eich ateb i Paul Davies yn gynharach fod 21 o staff ychwanegol wedi'u rhoi ar y llinell ffôn honno bellach. A gaf i ofyn, Prif Weinidog, o ran y wefan, a ydych yn gwbl sicr mai dyna'r wybodaeth ddiweddaraf? Sylweddolaf y bydd rhywfaint o oedi wrth roi gwybodaeth Llywodraeth y DU arni, efallai, ond a ydych chi'n sicr o hynny? Oherwydd, os yw hynny'n hen, mewn unrhyw ffordd, mae hynny'n rhoi pwysau, wrth gwrs, ar y llinell ffôn ac ar swyddfeydd Aelodau'r Cynulliad, ac ati. Felly, byddai cadarnhad o hynny yn cael ei werthfawrogi.
Ac a gaf i ofyn hefyd, o ran y grantiau sydd ar gael i fusnesau bach? Grant £10,000 i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o dan £12,000 ac yna £25,000 rhwng £12,000 a £51,000 yn fras; a gaf i ofyn pwy sy'n gweinyddu hynny, pryd y maen nhw yn ei weinyddu a sut y maen nhw yn ei weinyddu? Ai'r awdurdodau lleol sy'n gwneud? Rwy'n tybio hynny, ond efallai y gallech chi roi rhywfaint o eglurder ynghylch hynny.
Ddoe, byddai llawer o fusnesau wedi cael cais am ardrethi busnes. Rwy'n siŵr y byddai'n ddefnyddiol pe baech chi'n dweud ar goedd y byddant, yn aml, wedi eu dosbarthu cyn i'r penderfyniadau hyn gael eu gwneud, a bydd hynny'n cynnig rhywfaint o dawelwch meddwl i fusnesau. Ond mae mwy o fanylion am hynny, megis, er enghraifft, safleoedd sydd wedi bod yn wag am chwe mis neu 12 mis. A fydd yn rhaid iddyn nhw dalu'r dreth? Byddai rhywfaint o eglurder ynghylch hynny, efallai, yn ddefnyddiol.
Hefyd, o ran ardrethi busnes, y rhyddhad, ac o ran y grantiau sydd ar gael, beth sy'n cyfrif fel busnes adwerthu neu fusnes hamdden neu letygarwch? Gwnaeth eich Gweinidog Cyllid ddatganiad yr wythnos diwethaf. A yw hynny'n cynnwys llety gwely a brecwast neu dai llety neu westai, er enghraifft? Felly, sut gall busnes ddarganfod ym mha ddosbarthiad y mae ynddo, o ran p'un a yw'n fusnes manwerthu ai peidio? Rwy'n siŵr bod hynny'n amrywio, ond pe gellid rhoi manylion gwefan ynghylch hynny, byddai'n ddefnyddiol iawn.
Ac, ar hyn o bryd, dim ond i safleoedd busnes sydd â gwerth ardrethol o £51,000 y mae rhyddhad cymorth busnes yn berthnasol. Dydw i ddim yn meddwl bod hynny'n ddigon o bell ffordd. Credaf o ddifrif fod angen i hynny fod yn uwch, oherwydd ceir llawer o fusnesau bach a busnesau sy'n cael eu rhedeg gan deuluoedd sydd â gwerth ardrethol o dros £51,000. Felly, efallai y gallech chi roi sylw i'r mater hwnnw. Efallai y gwnaiff y Gweinidog busnes neu gyllid roi sylw i hynny yn y datganiad yn ddiweddarach heddiw, ond pe gellid mynd i'r afael â hynny—.
Hefyd, o ran yr hyn sy'n 'fusnes hanfodol', rwy'n siŵr bod pob Aelod Cynulliad o bob rhan o'r Siambr hon wedi cael negeseuon e-bost yn eu mewnflychau yn gofyn am gyngor. Credaf fod busnesau eisiau dilyn cyngor y Llywodraeth, ac maen nhw eisiau eglurder gennym ni, felly mae'r dehongliad hwnnw—sylweddolaf y gellid darllen datganiad, ond credaf fod angen rhestr, yn benodol, o beth yw busnes hanfodol. Er enghraifft, a yw busnes gweithgynhyrchu yn un? Mae'n dibynnu beth mae'n ei weithgynhyrchu. Ydy gweithiwr adeiladu sy'n gweithio ar ei ben ei hun, er enghraifft yn un?
A hefyd, a gaf i ofyn a oes gennych chi unrhyw fanylion ynghylch sut y caiff cynllun Llywodraeth y DU o ran y cynllun cadw swyddi ei ariannu? Sut y caiff hynny ei weinyddu, a sut y caiff hynny ei gyflwyno? Rwy'n sylweddoli nad yw hynny yn gyfrifoldeb i chi yn llwyr, ond byddai manylion am hynny o gymorth.
Hefyd, o ran cyngor a chraffu ar Weinidogion, ond mwy o ran cyngor, a fyddech yn fodlon bod Aelodau'r Cynulliad yn cael sgyrsiau ffôn gyda Gweinidogion, efallai gyda gweision sifil ar ffurf cynadledda, oherwydd credaf fod angen inni gael cyngor—nid craffu, ond cyngor. A hefyd, a wnewch chi ystyried rhoi rhifau ffôn gweision sifil yn uniongyrchol i Aelodau'r Cynulliad yn yr amser penodol hwn, i dynnu'r pwysau oddi ar Weinidogion i gael atebion i gwestiynau y gwyddom sy'n dod ger ein bron?
Yn olaf, ynghylch mater cysylltiedig, aeth cwmni Laura Ashley yn fy etholaeth i i ddwylo'r gweinyddwyr yr wythnos diwethaf. Fel arfer, byddai hyn yn bennawd newyddion blaenllaw, ond yn amlwg nid yw, mae pethau pwysicach, ond, mae rhwng 500 a 600 o bobl wedi eu cyflogi yn y Drenewydd a'r ardal. Yn amlwg, mae llawer o deuluoedd yn cael eu cyflogi gan Laura Ashley gyda'i gilydd—cyflogir y teulu cyfan weithiau—a tybed pa drafodaethau ydych chi efallai wedi'u cael gyda'r cwmni. A ydych chi wedi bod yn rhan o'r broses, a yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn gysylltiedig â dod o hyd i brynwr? A pha gymorth fydd ar gael i'r staff hynny yr effeithir arnyn nhw? Diolch yn fawr, Llywydd.