Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 1 Ebrill 2020.
Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gynlluniau datblygedig ar ystod o safleoedd, gan gynnwys Parc y Scarlets—fel y gwelsom ar newyddion ITV Cymru neithiwr—ystod o ganolfannau hamdden ledled Sir Gaerfyrddin, a Bluestone yn Sir Benfro. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gyda'i ddau awdurdod lleol, wedi nodi canolfannau hamdden a Bay Studios yn Llandarcy. Mae'r rhain oll yn ychwanegol at y 350 o welyau a fydd ar gael yn Ysbyty Athrofaol y Grange o fis Ebrill ymlaen. A gwyddom fod gogledd Cymru eisoes wedi nodi Venue Cymru fel un o'i safleoedd, gyda mwy i'w cadarnhau yn y dyddiau nesaf. Felly, mae pob bwrdd iechyd yn datblygu manylebau a chynlluniau capasiti cyfatebol ar gyfer model gwasgaredig o gapasiti gwelyau ychwanegol ledled Cymru.
Ar ofal critigol, rydym eisoes wedi mwy na dyblu nifer y gwelyau yng Nghymru i 313. Ddoe, roedd y defnydd o unedau gofal critigol oddeutu 40 y cant. Mae 69 y cant o'r bobl mewn gwelyau naill ai'n achosion posibl neu'n achosion a gadarnhawyd o COVID-19. Byddwn yn parhau i gynyddu niferoedd gwelyau gofal critigol yn gyflym, a chefnogir hynny drwy brynu dros 965 o beiriannau anadlu ychwanegol, gydag opsiynau pellach i brynu neu weithgynhyrchu peiriannau anadlu'n cael eu harchwilio ar frys.
Gwn fod pryderon parhaus, yn hollol ddealladwy, ynghylch argaeledd cyfarpar diogelu personol. Dros y penwythnos, darparwyd mwy na 600,000 o fasgiau anadlu FFP3 ychwanegol i fyrddau iechyd i'w trosglwyddo ymlaen i safleoedd gofal sylfaenol, cymunedol ac ysbytai, yn ogystal â gwasanaethau a gomisiynwyd, megis ysbytai iechyd meddwl annibynnol a hosbisau. Darparwyd rhagor o gyfarpar diogelu personol ddydd Llun a dydd Mawrth yr wythnos hon i storfeydd cyfarpar cymunedol ar y cyd awdurdodau lleol i gyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol eu dosbarthu yn y sector gofal cymdeithasol. Rydym bellach wedi darparu, o stociau pandemig Llywodraeth Cymru, mwy na phum miliwn o eitemau cyfarpar diogelu personol i'w defnyddio yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'r hyn a ddarparwyd i'r storfeydd ar y cyd yn ddigonol i ddarparu digon o gyfarpar diogelu personol i alluogi pob un o’r 600 a mwy o gartrefi gofal yng Nghymru i gyflawni 200 o ymyriadau unigol. Mae cyswllt ffôn ac e-bost wedi'i sefydlu i'r GIG a'r gwasanaethau cymdeithasol ei ddefnyddio mewn argyfwng os terfir ar gyflenwadau cyfarpar diogelu personol, neu os bydd cynnydd nas rhagwelwyd neu nas cynlluniwyd yn eu defnydd. Dyma'r pwynt y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato mewn cwestiynau yn gynharach.
Er ein bod yn wynebu amser digyffelyb a galw cynyddol ar ein gwasanaethau iechyd a gofal, mae'r ymateb gan ein gweithlu wedi bod yn aruthrol. Rydym wedi, a byddwn yn parhau i arloesi wrth fynd ati i ddiwallu’r galwadau arnom yn y frwydr yn erbyn COVID-19. Wythnos yn ôl, gofynasom i'n nyrsys a'n meddygon sydd newydd ymddeol ddychwelyd i'r GIG, ac maent wedi ymateb yn eu heidiau. Eisoes, mae dros 1,300 o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol wedi ymateb i'r alwad i ddychwelyd ac i wasanaethu'r wlad.
Mae ein myfyrwyr hefyd yn awyddus i'n cefnogi. Rydym yn archwilio ffyrdd o harneisio egni ac ymrwymiad hyd at 3,760 o fyfyrwyr meddygol, nyrsio, bydwreigiaeth, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, parafeddygol a gwyddonwyr iechyd hefyd. Gan weithio'n agos gyda Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru, rydym wedi gallu gwneud cynnydd yn yr amser digyffelyb hwn. A bydd pob un o'r myfyrwyr sy'n ymgymryd â chynnig yn cael eu talu yn unol â'u hamser—ni fyddwn yn chwilio am wasanaeth gwirfoddol gan y bobl hynny.
Mae gennym fwy na 1,200 o feddygon teulu ar ein cofrestr locwm yng Nghymru, a byddwn yn gofyn i bob meddyg teulu ystyried pa amser a chapasiti pellach sydd ganddynt i'w gynnig. Dyna pam rydym yn gofyn i bob meddyg teulu locwm ystyried contract dros dro gyda'u bwrdd iechyd. Gall eu harbenigedd helpu mewn cymaint o ffyrdd ym maes gofal cymunedol a sylfaenol.
Mae hwn yn amser anghyffredin sydd wedi galw am fesurau anghyffredin, ond mae ein dull unigryw yng Nghymru o weithio mewn partneriaeth yn ein helpu i wneud gwahaniaeth. Bydd hyb COVID Cymru yn cael ei ryddhau yn ddiweddarach yr wythnos hon i gefnogi ein hatebion recriwtio estynedig ac esblygol ar draws y gwasanaeth iechyd.
Er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau gofal sylfaenol yn parhau i fod mor wydn â phosibl drwy'r galw cynyddol arnynt, rydym wedi gwneud newidiadau sylweddol i'r ffordd y mae meddygon teulu a'u timau aml-broffesiynol, timau fferylliaeth, deintyddion ac optometryddion yn darparu gofal i gleifion ledled Cymru. Mae'r newidiadau rwyf wedi cytuno arnynt wedi'u cynllunio i ymateb i bobl sydd â'r anghenion mwyaf taer, p'un a ydynt yn gysylltiedig â COVID-19 ai peidio, ac wrth gwrs, i leihau lledaeniad COVID-19.
Rydym yn gofyn i ddarparwyr weithio'n gyfunol yn eu cymunedau i ymdrin â'r sefyllfa hon, ac rwy'n falch fod ein rhanddeiliaid yn cefnogi'r dull hwn o weithredu. Rwy’n annog pawb i ddilyn y cyngor a gyhoeddwyd ar sut i gael mynediad at wasanaethau yn ystod y cyfnod hwn. Rwy'n ddiolchgar i'n darparwyr gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol am eu hymdrechion parhaus yn ystod y sefyllfa hon.
Nodwyd bod oddeutu 81,000 o bobl yng Nghymru yn wynebu risg uchel iawn o salwch difrifol yn sgil COVID-19. Yr wythnos hon, bydd pob unigolyn wedi cael llythyr gan brif swyddog meddygol Cymru. Efallai na fydd wedi cyrraedd eto; rydym yn aros tan ddiwedd yr wythnos i'r holl lythyrau hynny gyrraedd. Mae'r llythyr yn cynnwys cyngor clir i aros gartref am o leiaf 12 wythnos. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £15 miliwn arall i sicrhau y bydd pobl yng Nghymru nad ydynt yn gallu gadael eu cartrefi yn cael bwyd ac eitemau hanfodol eraill wedi’u danfon yn uniongyrchol at eu drysau, ac roedd hwnnw'n bwynt a grybwyllwyd yn natganiad y Prif Weinidog a’r cwestiynau dilynol.
Mae fy nghyd-Aelod o’r Cabinet, Lesley Griffiths, wedi arwain ein sgyrsiau ag archfarchnadoedd a chyflenwyr cyfanwerthol i gytuno ar drefniadau cyflenwi a danfon ar gyfer y grŵp hwn o bobl sy’n cael eu gwarchod mewn cyfnod byr iawn o amser. Mae Julie James, fel y byddech yn ei ddisgwyl, mewn cysylltiad dyddiol â'n hawdurdodau lleol. Ac rwy'n wirioneddol ddiolchgar i'r teulu llywodraeth leol am y ffordd y maent wedi ymateb i arwain a chydgysylltu ymdrechion cymunedol er mwyn cefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain.
Felly, mae cynnydd sylweddol eisoes wedi’i wneud ar draws ein system iechyd a gofal. Byddai'n hawdd anghofio bod hyn oll wedi'i gyflawni o fewn ychydig wythnosau yn unig, a dyddiau'n unig mewn rhai achosion. Mae gwaith ein gweision cyhoeddus a'n gwirfoddolwyr yn wirioneddol ysbrydoledig yn fy marn i. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn defnyddio'r wythnosau i ddod i roi paratoadau pellach ar waith. Ond ni fydd y rhain ond mor effeithiol ag y gallent ac y dylent fod os bydd pob un ohonom yn cadw at y mesurau cadw pellter cymdeithasol rydym wedi'u cyflwyno. Arhoswch gartref, diogelwch ein GIG, ac achubwch fywydau.