Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 1 Ebrill 2020.
Weinidog, diolch am eich datganiad. Mewn gwirionedd, credaf fod hwnnw'n bwynt da iawn i’n hatgoffa amdano ar y diwedd. Ar 1 Mawrth, pwy oedd ag unrhyw syniad y byddem yn y sefyllfa rydym ynddi heddiw? Felly, rwy'n awyddus iawn i ychwanegu fy niolch a fy llongyfarchiadau am y 7,000 o welyau ychwanegol sydd wedi'u creu yn y GIG. Credaf fod hynny'n waith rhagorol ar ran neu gan y GIG a chan yr holl sefydliadau partner hynny, o'r awdurdodau lleol i'r nifer o sefydliadau sydd wedi cefnogi ac wedi cynnig lleoedd. Credaf fod 7,000 yn rhif cyflym a hawdd iawn i'w ddweud, ond brensiach, pan ystyriwch y logisteg y tu ôl i hynny, rwy'n llongyfarch pob un ohonynt yn fawr iawn am lwyddo i wneud hynny.
Yn eich datganiad, Weinidog, rydych yn sôn am gyfarpar diogelu personol, a bydd yn rhaid imi ddychwelyd at y mater hwn, oherwydd mae'n debyg mai hwn yw'r mater—neu un o'r materion—y mae pobl yn cysylltu â mi fwyaf yn ei gylch. Yn y dyddiau cynnar, nid wyf yn credu i ni weld cyfathrebu clir i bobl ynglŷn â phryd a phwy ddylai ddefnyddio cyfarpar diogelu personol, a chredaf fod y sefyllfa bellach yn fwy niwlog byth. Rwy'n deall y cyngor gwyddonol, sef os ydych yn trin rhywun sydd â symptomau COVID-19, rydych yn gwisgo cyfarpar diogelu personol, a bydd y math o gyfarpar diogelu personol y byddwch yn ei wisgo yn dibynnu ar eich lle yn y gadwyn o bobl sy'n trin rhywun sy'n sâl â COVID-19.
Ond credaf mai'r broblem, Weinidog, yw bod hwn yn glefyd brawychus; fod pobl yn barod i roi eu hunain mewn perygl i helpu'r gweddill ohonom; ein bod yn gwybod na fydd 30 y cant o'r bobl sydd â COVID-19 yn dangos unrhyw arwydd o fod â symptomau; a gwyddom y bydd oddeutu 80 y cant o boblogaeth Cymru yn cael COVID-19 ar ryw adeg neu'i gilydd. Felly, rwy’n deall pryderon nyrsys ardal, y bydwragedd, y trefnwyr angladdau, yn ogystal â phryderon y bobl sydd ar y rheng flaen fel rydym yn adnabod y rheng flaen, sef y wardiau acíwt mewn geiriau eraill.
Felly, a allwch ddweud wrthym, efallai, sut rydym am gael gafael ar y cyfarpar diogelu personol hwn? Pryd y bydd ar gael? Pa mor glir yw’r canllawiau y byddwch yn gallu eu darparu fel bod pobl yn deall pwy ddylai ei ddefnyddio? Ac a ydych yn rhagweld sefyllfa lle rydym yn derbyn, os ydych yn ymdrin â'r cyhoedd, y bydd angen i chi gael rhyw fath o gyfarpar diogelu personol, ni waeth ar ba ffurf?
Felly, er enghraifft, gall gweithiwr gofal cartref fod yn gofalu am 10 o bobl fregus iawn, ac wrth iddynt deithio i ofalu am y 10 o bobl hynny, gallent fod yn lledaenu'r afiechyd yn ddiarwybod, gan na wyddom sut y mae'n amlygu ei hun ym mhawb. Felly, ar fater cyfarpar diogelu personol, mae hwn yn fater nad ydym wedi cyrraedd ei wraidd eto. A allwch ddweud wrthym faint o gyfarpar diogelu personol sydd ei angen arnom, faint o gyfarpar diogelu personol sydd gennym, ac a fyddwch yn gallu ei gyrchu ar yr adegau priodol i allu ymdopi â’r sefyllfa hon?
Hoffwn ofyn dau gwestiwn arall hefyd, Lywydd. Y cyntaf yw: gan fod gennym ddull caffael ar gyfer y DU gyfan, a allwch ddweud wrthym pa fath o ddata y mae angen i Lywodraeth Cymru ei fwydo i Lywodraeth y DU? A oes gennych syniad clir o’r angen a ragwelir am offer fel peiriannau anadlu, cyfarpar diogelu personol a chitiau profi? Ac a allwch rannu'r niferoedd clir o ran ein sefyllfa yn awr a’r sefyllfa y mae angen inni ei chyrraedd?
Yn olaf, Weinidog, deallaf fod canllawiau moesegol yn cael eu llunio i helpu meddygon i flaenoriaethu cleifion ar gyfer eu derbyn a'u trin yn yr ysbyty. Rwy'n deall ac yn cydymdeimlo'n fawr â'r meddygon hynny, gan fod y rhain yn benderfyniadau anodd i feddygon eu gwneud wrth weithio mewn amgylchiadau anodd, ond maent yn benderfyniadau sy'n rhaid eu gwneud yn deg. A allwch gadarnhau, Weinidog, pryd y bydd y canllawiau hynny ar gael? Ac a allwch gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi clywed y datganiad hawliau a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Age UK, Age Cymru, Age Northern Ireland, a Chomisiynydd Pobl Hŷn Gogledd Iwerddon, ymhlith pobl eraill?
Oherwydd rwy'n credu o ddifrif na ddylid defnyddio'r ffaith bod rhywun angen gofal a chymorth ac mewn cartref gofal neu yn eu cartref eu hunain ar hyn o bryd fel procsi ar gyfer eu statws iechyd. A ydych yn cytuno y byddai gwneud penderfyniadau o'r fath heb ystyried anghenion pobl hŷn na'u gallu i elwa o driniaeth mewn ysbyty yn wahaniaethol ac yn annheg? Ac a wnewch chi sicrhau bod sgyrsiau hanfodol ynghylch gofal lliniarol diwedd oes a gorchmynion peidiwch â dadebru ac na cheisier dadebru cardio-anadlol yn cael eu cynnal mewn modd parchus, tosturiol a gwybodus?
A wnewch chi ymrwymo i ddarparu arweiniad ar y mater hwn? Oherwydd mae llawer o bobl hŷn a grwpiau anabl wedi cysylltu â mi gan ddweud eu bod yn teimlo dan bwysau aruthrol i gytuno i bethau nad ydynt wedi cael sgyrsiau amdanynt ac nad ydynt am gytuno iddynt. Mae gan bawb hawliau, ac mae pawb am geisio trechu’r afiechyd ofnadwy hwn.