Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 1 Ebrill 2020.
A bod yn deg, Lywydd, credaf fy mod wedi ateb y pwynt ynglŷn â pheiriannau anadlu, o ran cyflenwi a gweithgynhyrchu, mewn ymateb i'r cwestiynau a ofynnodd Adam Price, a hefyd Angela Burns ar y cydweithrediad rhwng swyddogion yn fy adran i, adran Ken Skates, a phobl sy’n eu gwneud ac yn eu cynhyrchu yma yng Nghymru.
Ar y pwynt ynglŷn â gwirfoddoli, rydym wedi cael ymateb sylweddol iawn gan bobl yng Nghymru, felly er y bu rhywfaint o ddryswch ynglŷn â'r prif negeseuon sy'n cael eu cyfleu, mae llawer o bobl yng Nghymru wedi dod o hyd i ffyrdd o allu gwirfoddoli yn eu cymunedau lleol, naill ai mewn grwpiau llai sydd wedi'u sefydlu, ond hefyd drwy borth cenedlaethol Gwirfoddoli Cymru. Felly, mae gennym dros 30,000 o bobl wedi cofrestru fel gwirfoddolwyr, ac yn yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi cael cyfradd o 1,000 o bobl y dydd yn cofrestru i fod yn wirfoddolwyr i gefnogi pobl yn eu cymuned leol. Roedd rhan o'r her, yn fy marn i, yn ymwneud â’r ffaith y bu camddealltwriaeth yn y ffordd y lansiwyd y cynllun ar gyfer Lloegr yn unig. Nid oedd rhai o'n cyd-gynrychiolwyr etholedig yng Nghymru yn deall bod y cynllun yn gynllun ar gyfer Lloegr yn unig, yn hytrach na chynllun a oedd wedi’i lunio a'i gyflenwi gan y pedair Llywodraeth ledled y DU. Felly, rydym wedi cael ymateb da yn barod, ac mae’r trydydd sector a llywodraeth leol yn gweithio gyda'i gilydd i'w roi ar waith.
O safbwynt mynediad meddygon teulu at y rhestr o bobl agored i niwed, rydym wedi bod yn agored iawn wrth ddatblygu'r rhestrau a'r meini prawf ar gyfer y bobl yn y grŵp o 81,000 o bobl sy’n cael eu gwarchod. Felly, rydym wedi gweithio gyda Chymdeithas Feddygol Prydain a choleg brenhinol yr ymarferwyr cyffredinol, ac ers 2 o’r gloch heddiw fan bellaf, bydd y rhestr honno wedi bod ar gael yn y porth meddygon teulu i bob practis meddyg teulu adolygu’r grwpiau o’u cleifion ar y rhestr honno fel y gallant arfer eu barn a'u gwybodaeth am eu grŵp o gleifion os ydynt yn credu bod pobl eraill a ddylai fod yn y grŵp hwnnw o bobl sy’n cael eu gwarchod. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein hymateb yn cefnogi'r grŵp ehangach o bobl agored i niwed dros y dyddiau nesaf, fel rwy'n dweud, gan weithio ar y cyd, rwy'n siŵr, â llywodraeth leol a'r trydydd sector.
Ac ar eich pwyntiau ehangach ynglŷn â phrofi a dysgu gyda gwledydd eraill, wel, mae'n deg dweud bod De Korea, er enghraifft, mewn lle gwahanol oherwydd eu profiad o gael eu heffeithio’n waeth o lawer gan SARS yn y gorffennol. Nawr, bydd gwersi inni eu dysgu yn awr, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn cysylltiad rheolaidd â sefydliadau iechyd y cyhoedd mewn gwledydd yn Ewrop a'r byd ehangach, gan drafod cymorth a chyngor ar yr adeg hon.
Felly, er enghraifft, rydym wedi dysgu gwersi o'r Eidal, yn sicr; dyna pam rydym wedi rhoi cymaint o egni ac ymdrech i greu capasiti ysbytai maes ar y fath gyflymder, gan fod hynny'n ymwneud â symud pobl allan o'r ysbyty pan nad oes angen iddynt fod yno mwyach. Ac mae hynny hyd yn oed yn fwy hanfodol yn awr, gan fod pobl sy'n methu mynd i ysbyty mewn pryd yn bobl a allai fod angen gofal i achub eu bywydau. Felly, dyna un o'r gwersi rydym wedi'u dysgu eisoes, ac rydym yn sôn am wersi wrth iddi ddod i'r amlwg y bydd rhai o'r mesurau cadw pellter cymdeithasol yn dechrau cael eu llacio. Mae hynny'n bwysig iawn i ni o ran ein hymateb i'r pandemig yma yng Nghymru a gweddill y DU. Ond yn yr un modd, bydd y sgwrs honno'n parhau.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn sefyllfa dda iawn yn y gymuned iechyd cyhoeddus yn fyd-eang, ac yn sicr yn rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd, o ran y parch a ddangosir i ni, y gallu sydd gennym i rannu dysgu ar amrywiaeth o bynciau gwahanol, a bydd hynny'n bwysig iawn—edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi digwydd i ddysgu gwersi lle credwn y gallem fod wedi gwneud dewisiadau gwahanol a gwell yn ystod y pandemig hwn, ond hefyd ar gyfer y dyfodol. A bydd honno’n sgwrs ar gyfer y gymdeithas gyfan, oherwydd os ydym am gael capasiti ychwanegol ar waith ar gyfer pandemig yn y dyfodol, mae angen inni ariannu hynny a chreu’r capasiti hwnnw a sicrhau ei fod yn barod ac ar gael. Ac mae hwnnw'n fath gwahanol o ddewis inni ei wneud am y ffordd rydym yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus.