Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 1 Ebrill 2020.
Diolch, Lywydd. Mae'r mwyafrif o fy nghwestiynau wedi'u hateb gan y Gweinidog, ac rwy'n falch iawn o glywed am y capasiti ychwanegol o 965 ar gyfer peiriannau anadlu a bod y pum miliwn a mwy o eitemau cyfarpar diogelu personol wedi'u dosbarthu. Ond mae'n rhaid imi gytuno bod cryn bryder o hyd ynghylch faint o gyfarpar diogelu personol sydd ar gael, yn enwedig ar gyfer y rheng flaen mewn ysbytai a hefyd i'r gweithwyr gofal cymdeithasol hynny. Mae gennyf lawer o etholwyr sydd wedi mynegi cryn bryder ynghylch gofalwyr yn dod i'w cartrefi, pan fyddant hwy eu hunain yn agored i niwed neu pan fydd eu partneriaid yn agored i niwed, ac efallai'n dod â'r afiechyd i'w cartrefi. Felly, credaf fod hwnnw’n faes rydym eto i fynd i'r afael ag ef.
Nawr, gwn i chi sôn am y canllawiau newydd, ac fe’ch cofiaf yn dweud ar y penwythnos eich bod yn disgwyl i hynny ddigwydd ddydd Llun. Ddoe, yn eich cynhadledd i’r wasg, fe ddywedoch chi eich bod yn gobeithio y byddent ar gael ddoe. Heddiw, fe ddywedoch ei fod yn esblygu'n gyflym. Credaf ei bod yn bwysig fod gennym amserlen o ran pryd y bydd y canllawiau newydd hynny ar waith, fel ein bod yn gwybod pa gyfarpar diogelu personol fydd yn briodol ar gyfer pwy ac ym mha sefyllfa, fel y gallwn sicrhau bod y cyfarpar diogelu personol yn cyrraedd y bobl iawn yn y lle iawn ar yr amser iawn. Mae yna gryn bryder, yn y proffesiynau eu hunain ac ymhlith yr etholwyr sy'n derbyn y gofal, ynghylch argaeledd cyfarpar diogelu personol.
A gaf fi ofyn hefyd—? Rwy’n cefnogi cwestiwn Paul Davies ar ganser, gan fod llawer o etholwyr yn poeni’n fawr am yr oedi. Mae eu hapwyntiadau ar gyfer llawdriniaethau wedi cael eu canslo oherwydd sefyllfa'r coronafeirws. Mae pob un ohonom yn deall y gofynion sy’n wynebu’r GIG, ond pan fyddwch yn wynebu sefyllfa lle mae gennych ganser y fron ac mae gennych apwyntiad i gael llawdriniaeth a'i bod yn cael ei chanslo wedyn, mae'n amlwg fod yna bryderon mawr. Felly, mae angen inni edrych ar fyrddau iechyd a sut y maent yn amserlennu llawdriniaethau o'r fath i sicrhau nad yw pobl â chyflyrau eraill sy'n peryglu eu bywydau yn mynd i fod dan anfantais drwy beidio â chael y llawdriniaethau pan fydd eu hangen. Felly, a wnewch chi edrych ar yr agwedd honno a sicrhau bod byrddau iechyd yn cyflwyno'r mathau hynny o fanylion i Lywodraeth Cymru ac i ninnau er mwyn gwybod hynny?
O ran yr ysbytai maes, dywedwyd heddiw y gallai NHS Nightingale alw am 16,000 o staff i gyflawni hynny. Nawr, os oes gennych 7,000 o welyau ychwanegol, a oes gennych gapasiti i staffio'r math hwnnw o nifer ychwanegol o welyau? Oherwydd rydym eisoes yn deall y gallai fod rhywfaint o leihad mewn capasiti gan y gall y staff eu hunain gael y feirws. Beth yw ein sefyllfa o ran sicrhau, os ydym yn creu'r ysbytai maes hyn, y bydd digon o staff ac adnoddau i ddarparu'r gofal yn yr ysbytai maes hynny?
Ac yn olaf, efallai eich bod yn ymwybodol o lythyr a anfonwyd gan feddyg teulu, nid yn fy etholaeth i, ond mae rhai o fy etholwyr wedi derbyn y llythyr hwnnw, yn gofyn iddynt a oeddent am gael eu hystyried yn gleifion 'peidiwch â dadebru' pe byddent yn cael y feirws. Byddaf yn cysylltu â phob bwrdd iechyd ar frys i sicrhau nad oes unrhyw lythyr o'r fath yn cael ei anfon eto gan bractis meddyg teulu arall, gan fod bywyd pob claf yn werthfawr iawn. Nid yw'n rhywbeth y dylent fod yn gofyn: 'A ydych am i nodyn 'peidiwch â dadebru' gael ei roi ar eich nodiadau?' A allwch ddychmygu claf yn cael y llythyr hwnnw, sy’n dweud, 'Os ydych yn cael y feirws, arhoswch gartref. Byddwn yn gofalu amdanoch, ond ni fyddwn yn eich nodi fel rhywun y mae angen eu dadebru. Ni fyddwn yn mynd â chi i'r ysbyty fel claf brys'? Nid yw'n dderbyniol—rwy’n siŵr eich bod yn cytuno â hynny. A wnewch chi sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn dweud wrth eu meddygfeydd nad dyna'r ffordd ymlaen? Diolch.