Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 1 Ebrill 2020.
Diolch. Rwyf bellach yn disgwyl i'r canllawiau ar gyfarpar diogelu personol gael eu darparu yfory. Rwy'n darparu'r holl amserlenni hyn yn ddidwyll, ond maent yn amserlenni nad wyf yn eu rheoli, gan fod y canllawiau’n cael eu darparu gan ystod o wahanol gynghorwyr arbenigol—mae’r prif swyddogion meddygol yn gweithio gyda'i gilydd ac rydym yn edrych ar y dystiolaeth wyddonol. Gallaf ddweud yn onest, 'Gorau po gyntaf,' fodd bynnag, gan y gwn y byddaf yn parhau i wynebu cwestiynau hyd yn oed ar ôl i'r canllawiau gael eu cynhyrchu. Ond pan fydd mwy o sicrwydd ac eglurder ynglŷn â phwy sydd angen cyfarpar diogelu personol a phwy na fydd ei angen, bydd hynny'n helpu i wella'r sefyllfa ac yna gallwn sicrhau ein bod yn caffael y cyfarpar diogelu personol hwnnw yn unol â'r canllawiau. Felly, rwy’n cydnabod y pryder a’r rhwystredigaeth y byddwch chi ac Aelodau eraill sydd yma, ac a fydd yn gwylio’r recordiad diweddarach, yn ei nodi, gan fod hynny’n bryder i staff rheng flaen hefyd.
O ran canser a chyflyrau eraill sy'n peryglu bywydau, fel y nodais wrth Paul Davies, byddwn yn edrych ar sut y mae'r gwasanaeth iechyd yn parhau i ddarparu gofal i'r bobl hynny wrth gwrs. Ond ni allwch osgoi'r gwirionedd na all y gwasanaeth iechyd gwladol esgus y gall barhau fel arfer ym mhob agwedd arall gyda'r her sylweddol y mae COVID-19 yn ei chreu. Bydd y ffordd rwyf eisoes wedi cau rhannau sylweddol o weithgarwch y GIG i ganiatáu i bobl baratoi ar ei gyfer yn arwain at rai canlyniadau i'r ffordd rydym yn darparu mathau eraill o driniaethau.
Y pwynt pwysig yw bod pobl yn cael sgyrsiau â’r clinigwyr sy'n eu trin ynglŷn â’r hyn sy'n digwydd, ac os yw llawdriniaeth yn cael ei gohirio neu ei symud ymlaen, fod ganddynt ffordd o ddeall pam fod hynny wedi digwydd a beth y mae hynny'n ei olygu. Oherwydd mae nifer o'n cleifion, er enghraifft, yn awyddus i beidio â chael triniaeth os oes posibilrwydd y byddant yn mynd i ardal glinigol lle gallai fod pobl â COVID-19. Felly, mae rhai pobl yn awyddus i ohirio eu triniaeth beth bynnag. Gwn fod galwadau’n digwydd rhwng clinigwyr, eu timau, a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt.
Ac mae'r pwynt hwnnw am beidio â pharhau fel arfer yn gysylltiedig â'ch pwynt ynglŷn â'r 7,000 o welyau ychwanegol a'r gallu i'w staffio. Dyna pam rydym yn chwilio am bobl i ddychwelyd i’r gwasanaeth; dyna pam ein bod yn ceisio recriwtio pobl i'r gwasanaeth; dyna pam hefyd ein bod yn llwyddo i berswadio rhai o'r dros 3,700 o israddedigion sy'n astudio ar gyfer graddau meddygol a graddau iechyd proffesiynol eraill i weithio yn y gwasanaeth.
Bydd yn ffordd wahanol o weithio, ac fel rwyf wedi’i ddweud sawl tro eisoes, bydd y ffordd rydym yn gweithio ar hyn o bryd, neu'r ffordd y byddem wedi gweithio, dyweder ar 1 Mawrth, yn wahanol iawn i'r ffordd y byddwn yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd ac yn darparu gofal am gyfnod o amser i ddod. Ond rwy'n deall, mae'n fater a godais heddiw yn fy ngalwad â phrif weithredwyr a chadeiryddion sefydliadau’r gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru i sicrhau nad gwelyau mewn ystafelloedd sy'n cael eu hanghofio yw'r capasiti gwelyau ychwanegol rydym yn ei greu, ond y gallwn eu staffio'n ddigonol. Felly, rwy’n fwy na pharod nid yn unig i fynd ar drywydd hynny ond i sicrhau fy mod yn gallu rhoi mwy o sicrwydd i'r cyhoedd ar y mater staffio.
Ac o ran y llythyr meddyg teulu, rwy'n ymwybodol o'r mater. Dywedodd yr Aelod etholaeth Huw Irranca-Davies wrthyf am yr her a'r sgyrsiau roedd eisoes yn eu cael gyda'r practis a'r bwrdd iechyd. Ac rwyf wedi cael sicrwydd, cyn y bore yma, fod sgwrs wedi digwydd am y llythyr ei hun; mae'r practis meddyg teulu yn cysylltu â phobl i geisio gwella'r sefyllfa; a gwn eu bod wedi cyhoeddi ymddiheuriad.
Mae'n anodd cael sgwrs am rybudd 'peidiwch â dadebru' ar unrhyw adeg, mae trafod gofal diwedd oes bob amser yn anodd yn y parth cyhoeddus, ac mae'n sgwrs sy'n galw am sensitifrwydd. Rwy'n hyderus, ar ôl y digwyddiad hwn, na welwn lythyrau tebyg gan feddygfeydd i'w cleifion, ac y bydd gwir sensitifrwydd ac urddas yn y sgwrs rhwng meddygon teulu a'u cleifion. A chan ystyried pwynt cynharach Angela Burns am y ffordd y mae pobl yn gwneud dewisiadau anodd iawn, bydd fframwaith moesegol ar gyfer gwneud hynny ar gael i gynorthwyo ein staff i roi'r gofal gorau posibl i bawb, ni waeth beth yw eu hoedran, ledled y wlad.