Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 1 Ebrill 2020.
Gwych. A gaf fi ddiolch i Nick Ramsay am y sylwadau caredig iawn a wnaeth ar y dechrau ac am ei gwestiynau? A gaf fi hefyd gofnodi fy niolch am ymdrechion rhyfeddol gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr y GIG a gweithwyr allweddol eraill, am y ffordd y maent wedi ymateb i COVID-19, a dweud, Lywydd, ei bod yn dda eich gweld chi'n gwella mor dda o'r feirws hwn? Mae yna ofn a phryder mawr iawn ym mhobman ar hyn o bryd, felly bydd gweld rhywun yn eich sefyllfa chi yn gwella ohono yn rhoi rhywfaint o obaith ac optimistiaeth i bobl.
Mae Nick Ramsay yn codi nifer o bwyntiau pwysig yn ei gyfraniad, yn gyntaf ac yn bennaf, addasu arian Llywodraeth Cymru a chronfeydd yr UE at ddibenion gwahanol. Mae'n iawn, mater i'r Gweinidog cyllid yw hwn, ond mae her COVID-19 yn broblem y mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn ei chydnabod. Mae'n fwy na dim a wynebwyd gennym yn y degawdau diwethaf, ers yr ail ryfel byd mae'n debyg, ac felly caniateir hyblygrwydd o ran sut rydym yn cyflwyno'r arian hwnnw i'w ddefnyddio er mwyn cynnal cyflogaeth.
O ran y fframwaith a ddatblygwyd gennym, rwy'n credu ein bod bellach wedi llenwi pob bwlch fwy neu lai ac wedi darparu rhwyd ddiogelwch ar gyfer bron bob busnes a'r hunangyflogedig. Dywedais yn gynharach os oedd gennych fusnes da yn 2019, y byddwn yno i'ch cynorthwyo i gael busnes da yn 2021. Mae'r meini prawf ar gyfer busnes da wedi'u nodi'n glir yn y contract economaidd sydd gennym: mae gennych botensial i dyfu, rydych yn gofalu am eich gweithlu drwy gymhwyso egwyddorion gwaith teg, drwy wella iechyd ac iechyd meddwl gweithwyr, rydych hefyd yn sicrhau eich bod yn cyfrannu at yr ymdrech ddatgarboneiddio sydd gennym. Felly, rwy'n credu ein bod ni bellach wedi creu'r fframwaith hwnnw i gefnogi pob busnes da.
Gwefan Busnes Cymru yw'r pwynt cyswllt cyntaf y byddwn yn annog busnesau i fynd iddo; mae gwefan Busnes Cymru bellach wedi'i haddasu i ddarparu gwybodaeth gynhwysfawr am gymorth i fusnesau drwy gydol y cyfnod hwn. Mae'n cynnwys dolenni i gymorth a noddir gan Lywodraeth y DU, i Fanc Lloegr, Banc Datblygu Cymru, Banc Busnes Prydain ac awdurdodau lleol, gan sicrhau mai dyna yw'r siop un stop ar gyfer pob ymholiad busnes.
O ran archfarchnadoedd, trafododd fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, y materion a gododd Nick Ramsay. Credaf iddynt gael eu trafod ddoe gyda'r holl archfarchnadoedd. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ysgrifennu at yr Aelodau yn fuan neu'n darparu datganiad ysgrifenedig ynglŷn â'r trafodaethau sydd wedi'u cynnal. Ond hoffwn ddweud un peth: gwelais weithwyr siopau'n wynebu camdriniaeth â fy llygaid fy hun. Mae'n gwbl annerbyniol ar yr adegau gorau, ac mae'n gyfan gwbl waradwyddus ar yr adeg hon, ac rwyf am annog holl gwsmeriaid pob siop i fod yn amyneddgar ac i ddangos parch at weithwyr siopau. Maent yn gwneud swyddi hanfodol ar hyn o bryd ac maent yn haeddu ein diolch.
O ran y cwestiwn a ofynnodd Nick Ramsay ynglŷn â chymorth i fysiau a 75 y cant o werth y contract, mae'n rhaid i mi ddweud hyn: ni fyddwn yn ymateb yn hapus o gwbl pe bai awdurdodau lleol yn dewis peidio â chefnogi gwasanaethau bws hanfodol a chwmnïau bysiau ar yr adeg hon. Mae'r grant cymorth i wasanaethau bysiau a ffrydiau ariannu eraill wedi'u cynllunio i gefnogi gwasanaethau bysiau a dylid eu defnyddio i gynnal gwasanaethau bws—hyd yn oed os yw'n wasanaeth sgerbwd ar hyn o bryd—nes gallwn gyflwyno atebion ar gyfer y tymor canolig a'r tymor hir. Ac rydym yn trafod y posibilrwydd o gymorth pellach gan yr Adran Drafnidiaeth. Yn amlwg, byddwn yn awyddus i sicrhau y gellid defnyddio unrhyw gymorth ychwanegol i wella ac ymestyn trafnidiaeth gyhoeddus yn y tymor canolig ac yn fwy hirdymor, a deallaf y gallai cyhoeddiad ddod yn fuan iawn gan yr Adran Drafnidiaeth.
O ran maes awyr rhyngwladol Caerdydd, bydd y maes awyr yn aros ar agor. Rhaid iddo aros yn agored i fodloni gofynion rheoliadol, fel y gall gyflymu gweithgarwch yn syth ar ôl inni fynd drwy'r cyfnod anodd hwn. O ran y gwasanaeth rhwng y gogledd a'r de, rwy'n credu fy mod wedi cyhoeddi datganiad a oedd yn tynnu sylw at y gostyngiad o 90 y cant yn nifer y teithwyr. Nid oedd y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio. Nid oedd yn gwneud unrhyw synnwyr i barhau gwasanaeth a oedd yn llyncu refeniw y gellid ei ddefnyddio mewn mannau eraill. Ond wrth gwrs, ar ôl i ni fynd heibio i'r cyfnod anodd hwn, byddwn yn adfer y gwasanaeth cyn gynted ag y gallwn. Bûm mewn trafodaethau hefyd gyda nifer o Weinidogion Llywodraeth y DU a chyda Gweinidogion o weinyddiaethau datganoledig eraill ynglŷn â chefnogaeth nid yn unig i feysydd awyr, ond i'n porthladdoedd hefyd. Yn fwyaf diweddar, siaradais â fy swyddog cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon ddoe am y sefyllfa y mae busnesau fferi a phorthladdoedd yn ei hwynebu.
Ac yn olaf, mewn perthynas â'r £40 miliwn a fydd ar gael i gefnogi'r fasnachfraint reilffyrdd, bydd y cymorth refeniw hwn yn cadw trenau i redeg yn y tymor byr tra byddwn yn trafod atebion mwy hirdymor ar gyfer y fasnachfraint a'r rhwydwaith rheilffyrdd. Dylwn ddweud hefyd ein bod wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd ag undebau'r rheilffyrdd ynghylch yr amodau gwaith anodd y mae rhai o'u haelodau'n eu hwynebu. Ac unwaith eto, clywsom adroddiadau am aelodau o undebau sy'n gweithio, yn enwedig mewn gorsafoedd, yn dioddef amodau na fyddai'n briodol ar unrhyw adeg, lle mae cwsmeriaid yn camu i'w gofod personol ac yn methu dangos parch. Felly, unwaith eto, Lywydd, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i annog pawb sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i barchu'r bobl sy'n cynnal gwasanaethau hanfodol ar yr adeg hon.