– Senedd Cymru am 3:58 pm ar 1 Ebrill 2020.
Symudwn ymlaen yn awr at yr eitem olaf, y datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar yr ymateb economaidd i COVID-19, a galwaf ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Ken Skates.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i gyd-Aelodau ar draws y Siambr am eu cefnogaeth, eu syniadau a'u cyngor dros yr wythnosau diwethaf. Mae wedi bod yn un o'r cyfnodau mwyaf heriol y gall unrhyw un ohonom ei gofio, ac wrth fynd i’r afael â’r cwymp economaidd yn sgil COVID-19, rwyf wedi gwerthfawrogi'r nifer o sgyrsiau a gefais gydag Aelodau o bob plaid ynglŷn â'r ffordd orau inni gefnogi economi Cymru a'n gwasanaethau cyhoeddus drwy'r cyfnod aruthrol o anodd hwn.
Mae'r ysbryd dwybleidiol hwnnw yn rhywbeth sydd wedi bod yn nodwedd o’n hymagwedd drwy gydol yr argyfwng hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n adeiladol gyda phartneriaid yn Llywodraethau’r DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon i helpu holl economïau’r DU drwy’r heriau sy’n ein hwynebu yn sgil COVID-19. Er bod llawer iawn i'w wneud o hyd, rwy'n gobeithio y gall Aelodau ddechrau gweld fframwaith sylfaenol o gefnogaeth yn dod i'r amlwg a all helpu busnesau, sefydliadau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i ganfod ffordd drwy'r heriau sy'n eu hwynebu.
Mae cynllun cadw swyddi drwy gyfnod coronafeirws Llywodraeth y DU yn helpu i gryfhau cymorth i fusnesau drwy liniaru pwysau sylweddol ar gostau sefydlog, ac mae'r cynllun cymhorthdal incwm i'r hunangyflogedig yn galluogi llawer o unig fasnachwyr a gweithwyr llawrydd i ymdopi â'r argyfwng gyda'r cymorth ariannol sydd ei angen arnynt yn ddirfawr. Dim ond Llywodraeth y DU, gyda'i hadnoddau, a allai fod wedi chwarae'r rôl hon, ac rwy'n croesawu'r hyn y maent wedi'i wneud. Nawr, gyda'r cynlluniau hynny wedi'u cyhoeddi, mae wedi caniatáu i ni, fel Llywodraeth Cymru, dargedu'r cyllid mwy cyfyngedig sydd gennym i gefnogi'r busnesau hynny yng Nghymru sy'n disgyn drwy'r bylchau.
Cyhoeddwyd elfen gyntaf ein cymorth gyda phecyn llawn yn ôl ar ddechrau mis Mawrth, ar 18 Mawrth. Roedd y cyhoeddiad hwnnw'n cynnwys mwy na £350 miliwn i helpu busnesau gyda'u biliau ardrethi annomestig, ac rwy'n falch o ddweud wrth yr Aelodau y bydd y rhyddhad ardrethi newydd ar gael o heddiw ymlaen. Roedd hefyd yn cynnwys grantiau busnesau bach awtomatig o £10,000 i fusnesau ar draws pob sector sy'n meddiannu eiddo â gwerth ardrethol o £12,000 a llai, a £25,000 ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden sy'n meddiannu safleoedd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000. Rwy'n hynod ddiolchgar i awdurdodau lleol a fydd yn dosbarthu'r grantiau hyn ar ein rhan. Rydym yn gobeithio y bydd busnesau'n dechrau derbyn y grantiau hyn yr wythnos hon.
Ddydd Llun, fe wnaethom gyhoeddi ein cronfa cydnerthedd economaidd £500 miliwn newydd, sy'n ceisio llenwi'r bylchau yn y cynlluniau cymorth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU. Bydd y gronfa hon sydd ar gyfer Cymru'n unig yn cefnogi cwmnïau o bob maint, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, gyda ffocws ar y rheini nad ydynt wedi elwa ar y grantiau coronafeirws a gyhoeddwyd eisoes gan Lywodraeth Cymru. Nawr, mae'r gronfa'n cynnwys dwy brif elfen. Yn gyntaf, cynllun benthyciadau busnes newydd Banc Datblygu Cymru sy'n werth £100 miliwn. Ac yn ail, pot grantiau argyfwng sy'n werth £400 miliwn. Gyda'i gilydd, rydym wedi ymrwymo mwy na £1.7 biliwn tuag at liniaru effaith COVID-19 ar ein heconomi.
Nawr, mae Banc Datblygu Cymru eisoes wedi derbyn dros 500 o geisiadau am fenthyciadau. Byddaf yn cyfarfod â banciau'r stryd fawr eto yfory, a byddaf yn tynnu eu sylw at yr angen i fod yn fwy hyblyg ac yn fwy ystyriol wrth ymateb i gleientiaid, yn enwedig i'r rheini sy'n hunangyflogedig neu sydd angen cymorth pontio rhwng nawr a mis Mehefin.
Ar y pwynt hwn hoffwn dalu teyrnged i staff Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru, a hefyd fy swyddogion sydd wedi bod yn gweithio ddydd a nos i ddatblygu'r cynlluniau. Mae llinell gymorth Busnes Cymru bellach wedi ymdrin â bron 4,000 o ymholiadau ers 9 Mawrth. Hoffwn hefyd roi teyrnged i'r nifer fawr o gwmnïau a phrifysgolion yng Nghymru sydd bellach yn mynd ati'n uniongyrchol i ateb heriau penodol. Mae hyn yn cynnwys cryn weithgarwch yn cynhyrchu peiriannau anadlu, sgriniau wyneb, cyfarpar diogelu personol, gwelyau, matresi a gorchuddion. Nid dibynnu ar lwybrau cyflenwi presennol yn unig a wnawn, ond adeiladu atebion amgen lle na ellir diwallu'r galw.
Hoffwn gyfeirio'n fyr at ein hymateb ar wasanaethau trên, bws ac awyr. Uchelgais Llywodraeth Cymru o hyd yw creu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig gynaliadwy, gan gynnwys trafnidiaeth gymunedol ledled Cymru, ac rwyf wedi gwneud cyfres o benderfyniadau i helpu i ddiogelu trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru. Cyhoeddwyd y rhain yn fy natganiad ysgrifenedig ddoe ddiwethaf. Rwyf wedi cytuno i becyn cymorth gwerth hyd at £40 miliwn ar gyfer Trafnidiaeth Cymru dros y misoedd nesaf er mwyn inni allu rhoi sicrwydd i deithwyr rheilffyrdd yng Nghymru. Yn ogystal ag argymell bod awdurdodau lleol yn parhau i dalu o leiaf 75 y cant o werth y contract ar gyfer gwasanaethau ysgol a gwasanaethau contract i deithwyr lleol eraill, rwyf bellach wedi chwistrellu £29 miliwn o grantiau i helpu gweithredwyr bysiau drwy ansicrwydd anochel y tri mis nesaf. Ac yn olaf, ar ôl trafodaethau gydag Eastern Airways, rwyf wedi atal y gwasanaeth awyr rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus rhwng Caerdydd ac Ynys Môn am gyfnod cychwynnol o dri mis.
Felly, i gloi, mae fy neges allweddol i fusnesau ac i weithwyr yn glir iawn: os oedd gennych fusnes da yn 2019, rydym am eich cynorthwyo i gael busnes da yn 2021; ac os oedd gennych swydd dda yn 2019, rydym am eich cynorthwyo i gael swydd dda yn 2021. Rhaid inni weithio gyda'n gilydd gyda thosturi, brys a gofal i oresgyn yr heriau sylweddol sy'n ein hwynebu a dod allan ar y pen arall i'r economi decach, fwy cyfartal a mwy caredig y credaf fod pawb ohonom am ei gweld.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Credaf fod ei eiriau olaf, ynglŷn â thosturi, brys a gofal, yn rhai da. Weinidog, rydych wedi cydnabod y rhai sy'n rhedeg ein busnesau bach, a chredaf, yn yr un modd ag y canmolwn y rhai sydd wedi bod yn gweithio yn y GIG a'r diwydiant gofal, y dylem hefyd roi teyrnged i'r rheini sy'n rhedeg ein busnesau ar hyn o bryd ac sy'n ceisio parhau mewn cyfnod anodd iawn.
Os caf yn gyntaf grybwyll mater a godwyd gan arweinydd yr wrthblaid mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog yn gynharach, mae'n fater i'r Gweinidog cyllid mewn gwirionedd, ond mae'n cyffwrdd â'ch briff chi hefyd, sef yr arian ychwanegol hwn. Rwy'n credu mai tua £1 biliwn a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar gyfer swyddi a chefnogi swyddi. Rwy'n deall bod cyfran dda o'r arian hwnnw'n dod o'r UE, o gronfeydd yr UE a glustnodwyd yn wreiddiol ar gyfer cefnogi swyddi presennol, ond mae hwnnw yn awr yn mynd i gael ei ailgyfeirio i—. Mae'n ddrwg gennyf, roedd hwnnw'n cefnogi swyddi newydd yn wreiddiol; mae'n mynd i gael ei ailgyfeirio yn awr i gefnogi swyddi sy'n bodoli'n barod. Roeddwn yn meddwl tybed—. Rwy'n credu bod hwnnw'n syniad da, gyda llaw. Rwy'n meddwl tybed, yn nes ymlaen, beth fydd y sefyllfa o ran naill ai talu'r arian hwnnw yn ôl neu ddadlau'n llwyddiannus o blaid ei ddefnyddio yn y ffordd gywir, felly mae'n debyg fod honno'n drafodaeth y bydd yn rhaid i chi ei chael gyda'r Gweinidog cyllid. Mae'n ymddangos i mi ar hyn o bryd ei bod yn ddoeth ailgyfeirio cyllid gymaint â phosibl i gynnal cyflogaeth, fel y bydd swyddi yno pan ddown allan o hyn a busnesau bach a chanolig sy'n gallu cyflawni'r gwaith o ailadeiladu'r economi.
Fe sonioch chi am gefnogaeth, fframwaith ar gyfer cefnogi busnesau. Yn amlwg, mae hynny'n hynod o bwysig. Nid yn unig y mae'n bwysig fod gennym fframwaith ar gyfer cefnogi busnesau, mae hefyd yn bwysig fod gennym fframwaith y mae busnesau'n ymwybodol ohono ac yn gallu ei ddefnyddio'n hawdd. Rwy'n siŵr nad wyf ar fy mhen fy hun—gydag Aelodau Cynulliad eraill, a gallaf eu gweld yn ysgwyd eu pennau, Weinidog—nid wyf ar fy mhen fy hun yn meddwl hynny. Mae nifer o fusnesau wedi cysylltu â mi ac nid ydynt wedi bod yn ymwybodol yn y lle cyntaf o ble y gellir dod o hyd i'r cymorth hwnnw. Yn y sefyllfa hon yn fwy na'r un arall, mae'n sefyllfa sy'n newid yn gyflym iawn, felly mae angen iddynt wybod yn union ble mae'r llwybrau cymorth hynny mor gyflym â phosibl, felly os gallwch ddweud wrthym beth rydych chi'n ei wneud i sicrhau bod y fframwaith hwnnw'n cael ei gyfleu i fusnesau a'u bod yn gwybod yn union ble mae'r pwyntiau cyswllt hynny ar y cyfle cyntaf, fel bod modd cael gafael ar y cymorth.
Rydych chi wedi sôn—wel, soniwyd am archfarchnadoedd wrth y Gweinidog iechyd, ond rwy'n tybio ei fod yn rhan o'ch cylch gorchwyl chi hefyd. Cefais ddau e-bost gan etholwyr heddiw yn holi am sefyllfa unigolion sy'n cael eu gwarchod a'r ffaith nad oes cofrestr debyg yng Nghymru i'r un sydd ar gael ar lefel y DU ar gyfer cofrestru gydag archfarchnadoedd i wneud yn siŵr fod nwyddau'n cael eu darparu i'w cartrefi. Mae pobl yn poeni am hynny. Gwn fod y Prif Weinidog wedi sôn amdano'n gynharach a bod y Gweinidog iechyd wedi sôn amdano, felly tybed a hoffech chi ddweud rhywbeth hefyd am unrhyw drafodaethau a gawsoch gydag archfarchnadoedd—maent yn rhan fawr o'n heconomi—am yr hyn y gellir ei wneud i sicrhau bod unigolion sy'n cael eu gwarchod a theuluoedd sy'n cael eu gwarchod yn cael gofal yn y ffordd orau sy'n bosibl.
Os caf droi at ail ran eich datganiad, roedd yr ail ran yn ymwneud â thrafnidiaeth. Mae gennyf gwestiynau i chi am y diwydiant bysiau. Rydych wedi gofyn i awdurdodau lleol barhau i dalu o leiaf 75 y cant o werth y contract ar gyfer gwasanaethau ysgol a gwasanaethau contract eraill i deithwyr lleol. A allwch gadarnhau nad oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol ar awdurdodau lleol i wneud hynny? Ac a ydych chi'n ymwybodol o unrhyw rai nad ydynt yn bwriadu dilyn eich cyngor a'ch arweiniad? Rwy'n credu mai'r hyn sydd angen i ni ei osgoi yw loteri cod post ledled Cymru, ac rwy'n deall nad yw rhai awdurdodau lleol o leiaf yn chwarae eu rhan yn hyn o beth a'u bod yn dweud, pan fo'n anodd, os nad yw'n ddyletswydd statudol i ddarparu'r cymorth hwnnw ar y cychwyn, a oes angen iddynt wneud hynny?
Rydych chi'n gofyn i'r diwydiant bysiau, yn rhesymol, i adrodd yn wythnosol, gan ddangos sut y mae pob bws wedi cyflawni ei rwymedigaethau o ran terfynau ar nifer teithwyr, cadw pellter cymdeithasol ac yn y blaen. Rwy'n deall hynny'n llwyr ac yn meddwl bod hwnnw'n syniad da. Fodd bynnag, unwaith eto, deallaf fod rhai awdurdodau lleol yn gofyn am fanylion personol ymlaen llaw cyn i'r cyllid gael ei ryddhau. Nid wyf yn credu bod hynny yn ysbryd y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gennych ddoe, felly tybed a allech roi rhywfaint o eglurhad ynglŷn â sut yn union y bwriadwch i'r broses adrodd honno ddigwydd.
Yn olaf, gyda bysiau, mae'n ymddangos bod yr Adran Drafnidiaeth yn Lloegr yn mynd i ddarparu cymorth ychwanegol i'r diwydiant bysiau yno—o leiaf dyna fy nealltwriaeth i. A ydych wedi cael unrhyw drafodaethau neu a allech gael unrhyw drafodaethau gyda'ch cymheiriaid yn Lloegr, ac yn wir y Gweinidog cyllid, i weld a fydd unrhyw symiau canlyniadol dan fformiwla Barnett i Gymru os yw'r arian hwnnw ar gael yn Lloegr. Mae honno'n elfen bwysig inni ei deall yma. Hefyd, a fyddech yn bwriadu i hynny fynd tuag at drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru?
Yn olaf un, fe sonioch chi ar ddiwedd eich datganiad, Weinidog, ein bod mewn cyfnod digynsail, ac fe sonioch chi am hedfan a maes awyr Caerdydd. Felly, os caf wisgo fy het Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am ychydig, roedd eich datganiad ysgrifenedig ddoe yn cyfeirio at atal y cyswllt awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn. Beth yw eich asesiad o'r effaith ar deithwyr a Maes Awyr Caerdydd, o ystyried bod y rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus wedi'i hatal am dri mis? Rwy'n meddwl yn arbennig am deithwyr y soniwn amdanynt sydd angen teithio o'r gogledd i'r de i wneud gwaith hanfodol. Tybed a oes gennych unrhyw ffigurau mewn perthynas â'r rheini? Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y byddwn yn amlwg yn edrych arno yn y tymor hwy, a chyda'r diwydiant awyrennau yn y sefyllfa y mae ynddi, efallai fod hyn yn is i lawr ar eich rhestr o flaenoriaethau ar hyn o bryd. Ond fel rwy'n dweud, gan fod hyn yn rhywbeth rydym wedi edrych arno yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod beth yw'r sefyllfa gyda Maes Awyr Caerdydd a pha asesiad a wnaethoch.
Yn olaf oll, fe sonioch chi am y £40 miliwn ar gyfer y diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru, ac mae hynny i'w groesawu. A ydych wedi cael unrhyw drafodaethau gyda darparwr y fasnachfraint reilffyrdd ynglŷn â ble y gallai'r arian hwnnw fynd i gefnogi'r diwydiant yn y tymor byr? Yn amlwg, nid yw cadw pellter cymdeithasol yn rhywbeth y gellir ei wneud yn hawdd ar drafnidiaeth gyhoeddus, felly rwy'n credu ein bod i gyd yn deall bod anawsterau ar hyn o bryd gyda thrafnidiaeth gyhoeddus. Ond rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno â chi, pan ddown allan o'r argyfwng hwn, ein bod am sicrhau bod ein sector trafnidiaeth gyhoeddus, a'n heconomi ehangach yn wir, ar y sail orau bosibl i oresgyn yr heriau a dod allan o hyn, fel bod yr economi ar sylfaen gadarnach o lawer nag y mae i'w gweld arni heddiw oherwydd yr holl bwysau dealladwy sydd arni.
Weinidog. Weinidog, nid wyf yn eich clywed ar hyn o bryd.
A allwch chi fy nghlywed yn awr, Lywydd?
Gallaf, parhewch.
Gwych. A gaf fi ddiolch i Nick Ramsay am y sylwadau caredig iawn a wnaeth ar y dechrau ac am ei gwestiynau? A gaf fi hefyd gofnodi fy niolch am ymdrechion rhyfeddol gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr y GIG a gweithwyr allweddol eraill, am y ffordd y maent wedi ymateb i COVID-19, a dweud, Lywydd, ei bod yn dda eich gweld chi'n gwella mor dda o'r feirws hwn? Mae yna ofn a phryder mawr iawn ym mhobman ar hyn o bryd, felly bydd gweld rhywun yn eich sefyllfa chi yn gwella ohono yn rhoi rhywfaint o obaith ac optimistiaeth i bobl.
Mae Nick Ramsay yn codi nifer o bwyntiau pwysig yn ei gyfraniad, yn gyntaf ac yn bennaf, addasu arian Llywodraeth Cymru a chronfeydd yr UE at ddibenion gwahanol. Mae'n iawn, mater i'r Gweinidog cyllid yw hwn, ond mae her COVID-19 yn broblem y mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn ei chydnabod. Mae'n fwy na dim a wynebwyd gennym yn y degawdau diwethaf, ers yr ail ryfel byd mae'n debyg, ac felly caniateir hyblygrwydd o ran sut rydym yn cyflwyno'r arian hwnnw i'w ddefnyddio er mwyn cynnal cyflogaeth.
O ran y fframwaith a ddatblygwyd gennym, rwy'n credu ein bod bellach wedi llenwi pob bwlch fwy neu lai ac wedi darparu rhwyd ddiogelwch ar gyfer bron bob busnes a'r hunangyflogedig. Dywedais yn gynharach os oedd gennych fusnes da yn 2019, y byddwn yno i'ch cynorthwyo i gael busnes da yn 2021. Mae'r meini prawf ar gyfer busnes da wedi'u nodi'n glir yn y contract economaidd sydd gennym: mae gennych botensial i dyfu, rydych yn gofalu am eich gweithlu drwy gymhwyso egwyddorion gwaith teg, drwy wella iechyd ac iechyd meddwl gweithwyr, rydych hefyd yn sicrhau eich bod yn cyfrannu at yr ymdrech ddatgarboneiddio sydd gennym. Felly, rwy'n credu ein bod ni bellach wedi creu'r fframwaith hwnnw i gefnogi pob busnes da.
Gwefan Busnes Cymru yw'r pwynt cyswllt cyntaf y byddwn yn annog busnesau i fynd iddo; mae gwefan Busnes Cymru bellach wedi'i haddasu i ddarparu gwybodaeth gynhwysfawr am gymorth i fusnesau drwy gydol y cyfnod hwn. Mae'n cynnwys dolenni i gymorth a noddir gan Lywodraeth y DU, i Fanc Lloegr, Banc Datblygu Cymru, Banc Busnes Prydain ac awdurdodau lleol, gan sicrhau mai dyna yw'r siop un stop ar gyfer pob ymholiad busnes.
O ran archfarchnadoedd, trafododd fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, y materion a gododd Nick Ramsay. Credaf iddynt gael eu trafod ddoe gyda'r holl archfarchnadoedd. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ysgrifennu at yr Aelodau yn fuan neu'n darparu datganiad ysgrifenedig ynglŷn â'r trafodaethau sydd wedi'u cynnal. Ond hoffwn ddweud un peth: gwelais weithwyr siopau'n wynebu camdriniaeth â fy llygaid fy hun. Mae'n gwbl annerbyniol ar yr adegau gorau, ac mae'n gyfan gwbl waradwyddus ar yr adeg hon, ac rwyf am annog holl gwsmeriaid pob siop i fod yn amyneddgar ac i ddangos parch at weithwyr siopau. Maent yn gwneud swyddi hanfodol ar hyn o bryd ac maent yn haeddu ein diolch.
O ran y cwestiwn a ofynnodd Nick Ramsay ynglŷn â chymorth i fysiau a 75 y cant o werth y contract, mae'n rhaid i mi ddweud hyn: ni fyddwn yn ymateb yn hapus o gwbl pe bai awdurdodau lleol yn dewis peidio â chefnogi gwasanaethau bws hanfodol a chwmnïau bysiau ar yr adeg hon. Mae'r grant cymorth i wasanaethau bysiau a ffrydiau ariannu eraill wedi'u cynllunio i gefnogi gwasanaethau bysiau a dylid eu defnyddio i gynnal gwasanaethau bws—hyd yn oed os yw'n wasanaeth sgerbwd ar hyn o bryd—nes gallwn gyflwyno atebion ar gyfer y tymor canolig a'r tymor hir. Ac rydym yn trafod y posibilrwydd o gymorth pellach gan yr Adran Drafnidiaeth. Yn amlwg, byddwn yn awyddus i sicrhau y gellid defnyddio unrhyw gymorth ychwanegol i wella ac ymestyn trafnidiaeth gyhoeddus yn y tymor canolig ac yn fwy hirdymor, a deallaf y gallai cyhoeddiad ddod yn fuan iawn gan yr Adran Drafnidiaeth.
O ran maes awyr rhyngwladol Caerdydd, bydd y maes awyr yn aros ar agor. Rhaid iddo aros yn agored i fodloni gofynion rheoliadol, fel y gall gyflymu gweithgarwch yn syth ar ôl inni fynd drwy'r cyfnod anodd hwn. O ran y gwasanaeth rhwng y gogledd a'r de, rwy'n credu fy mod wedi cyhoeddi datganiad a oedd yn tynnu sylw at y gostyngiad o 90 y cant yn nifer y teithwyr. Nid oedd y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio. Nid oedd yn gwneud unrhyw synnwyr i barhau gwasanaeth a oedd yn llyncu refeniw y gellid ei ddefnyddio mewn mannau eraill. Ond wrth gwrs, ar ôl i ni fynd heibio i'r cyfnod anodd hwn, byddwn yn adfer y gwasanaeth cyn gynted ag y gallwn. Bûm mewn trafodaethau hefyd gyda nifer o Weinidogion Llywodraeth y DU a chyda Gweinidogion o weinyddiaethau datganoledig eraill ynglŷn â chefnogaeth nid yn unig i feysydd awyr, ond i'n porthladdoedd hefyd. Yn fwyaf diweddar, siaradais â fy swyddog cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon ddoe am y sefyllfa y mae busnesau fferi a phorthladdoedd yn ei hwynebu.
Ac yn olaf, mewn perthynas â'r £40 miliwn a fydd ar gael i gefnogi'r fasnachfraint reilffyrdd, bydd y cymorth refeniw hwn yn cadw trenau i redeg yn y tymor byr tra byddwn yn trafod atebion mwy hirdymor ar gyfer y fasnachfraint a'r rhwydwaith rheilffyrdd. Dylwn ddweud hefyd ein bod wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd ag undebau'r rheilffyrdd ynghylch yr amodau gwaith anodd y mae rhai o'u haelodau'n eu hwynebu. Ac unwaith eto, clywsom adroddiadau am aelodau o undebau sy'n gweithio, yn enwedig mewn gorsafoedd, yn dioddef amodau na fyddai'n briodol ar unrhyw adeg, lle mae cwsmeriaid yn camu i'w gofod personol ac yn methu dangos parch. Felly, unwaith eto, Lywydd, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i annog pawb sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i barchu'r bobl sy'n cynnal gwasanaethau hanfodol ar yr adeg hon.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw, a hefyd am ei gynnig o sgwrs wythnosol gyda phrif lefarwyr y pleidiau, lle cawn gyfle pellach ar sail barhaus i dynnu ei sylw at ein pryderon. Dywedodd yn ei ddatganiad gymaint y mae'n gwerthfawrogi'r agwedd amhleidiol honno a gwn ein bod yn dymuno gweithio gydag ef i sicrhau, yn y cyfnod hynod anodd hwn, fod bywydau'n cael eu hachub a bywoliaethau'n cael eu cynnal.
Mae gennyf nifer o gwestiynau penodol. I ddechrau, yn sgil ymateb y Gweinidog i Nick Ramsay ynglŷn â gwybodaeth am gymorth i fusnesau, rwy'n sicr y bydd y Gweinidog yn cydnabod ei fod yn ddarlun eithaf cymhleth o hyd i fusnesau ddeall yr hyn a allai fod yn gymorth priodol ar eu cyfer.
Wrth i'r set o becynnau ddod at ei gilydd, pecynnau'r DU a phecynnau Llywodraeth Cymru, tybed a allai'r Gweinidog ystyried cysylltu â busnesau'n uniongyrchol—yn union fel y mae'r Llywodraeth wedi gwneud ymdrech eithriadol o galed i gysylltu â'r 81,000 o bobl y credwn eu bod yn agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod yn diogelu eu hunain, a fyddai'n ystyried cysylltu'n uniongyrchol â busnesau. Oherwydd mae busnesau'n sicr yn cysylltu â mi i ddweud, 'Nid wyf yn hollol siŵr os yw hyn neu'r llall yn berthnasol i ni.' Felly, pan fyddwn yn gwybod beth yn union sy'n digwydd—ac efallai y bydd yn cymryd ychydig ddyddiau eto i hynny ddigwydd—rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn pe bai'r Gweinidog yn ystyried ysgrifennu at fusnesau'n uniongyrchol, oherwydd efallai y bydd nifer ohonynt yn rhagdybio nad ydynt yn gymwys i gael cymorth, er ei bod yn ddigon posibl eu bod.
Mae busnesau'n dweud wrthyf hefyd y byddent yn gwerthfawrogi rhagor o ganllawiau—a chyfarwyddyd mewn rhai achosion—ynghylch yr hyn y dylid ei ystyried yn waith hanfodol neu beidio. Soniodd Adam Price wrth y Prif Weinidog am waith adeiladu nad yw'n hanfodol, ac rwyf wedi crybwyll hyn o'r blaen, fod hwn yn faes anodd iawn i bobl gadw pellter cymdeithasol priodol, er enghraifft. Felly, a wnaiff y Gweinidog roi ystyriaeth bellach i edrych ar y pwerau sydd ganddo, gan fod y ddeddfwriaeth frys yn ei lle bellach, i ystyried rhoi cyfarwyddiadau clir, lle bo hynny'n briodol, i fusnesau ynghylch yr hyn sy'n hanfodol neu fel arall? Er enghraifft, gallai alluogi gwaith adeiladu nad yw'n hanfodol i ddod i ben os cânt gyfarwyddyd i roi'r gorau iddi, ond os mai dewis gwneud hynny y maent, gallai olygu eu bod yn torri rhwymedigaethau cytundebol ac arwain at anawsterau ariannol iddynt. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog hynny.
Tybed a allai hefyd gael sgyrsiau pellach gyda'r Gweinidog iechyd am y canllawiau sydd ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Daeth un busnes i gysylltiad â mi i ddweud eu bod yn chwilio am gyngor ac nad oeddent yn teimlo bod digon yno i ddweud wrthynt sut y dylent gadw pellter cymdeithasol yn ddiogel. Nawr, fy nealltwriaeth i yw bod cyngor llawer mwy manwl ar gael ar wefan Public Health England, ac mae'n bosibl ein bod ni yn y broses o ddal i fyny â hynny. Ond os ydym yn disgwyl i'n busnesau weithredu'n gyfrifol yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae angen inni sicrhau—rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi—fod y cyngor a'r cymorth priodol ar gael iddynt fel eu bod yn gwybod yn union beth i'w wneud yn yr hyn sydd, wrth gwrs, fel y dywedodd y Gweinidog, yn gyfnod digyffelyb.
Nawr, rydym hefyd yn gwybod, Lywydd, fod yna lawer o fusnesau sy'n ymddwyn mewn ffordd gwbl ragorol ar yr adeg hon, busnesau sy'n rhoi pobl o flaen elw ac sy'n darparu gwasanaeth cwbl ragorol ac yn cefnogi eu staff. Ond yn anffodus, rydym hefyd yn gwybod bod yna rai busnesau nad ydynt yn gwneud hynny. Mae gennyf nifer o enghreifftiau o fusnesau, er enghraifft, sy'n pwyso ar staff i weithio pan ddylent fod yn ynysu'n gymdeithasol, er enghraifft, os nad ydynt yn anhwylus eu hunain ond bod aelod o'r teulu'n sâl neu'n agored i niwed; busnesau lle disgwylir i bobl weithio mewn amgylchiadau lle nad oes unrhyw gamau i gadw pellter cymdeithasol priodol, lle na allant wisgo a dadwisgo iwnifform yn effeithiol. Nawr, dylwn bwysleisio, Lywydd, mai lleiafrif o fusnesau yw'r rhain, ond mae'r hyn y maent yn ei wneud—rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi—yn gwbl annerbyniol.
Fel dinasyddion unigol, gofynnwyd inni ildio llawer o'n rhyddid personol ar yr adeg hon, ac rydym wedi gwneud hynny'n falch o chwarae ein rhan. Ond lle mae busnesau'n gwrthod ymateb i gyngor ac arweiniad, a wnaiff y Gweinidog ystyried pa bwerau sydd ganddo i orfodi cydymffurfiaeth ac a wnaiff ystyried defnyddio'r pwerau hynny? Os daw i'r casgliad nad oes ganddo'r pwerau hynny ei hun, a allai gael trafodaethau pellach gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod cosbau i fusnesau sy'n gwrthod cydymffurfio? Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi ein bod ni, fel cymuned wleidyddol yng Nghymru, ac yn bwysicach, y cyhoedd yng Nghymru, yn gwylio perfformiad busnesau a diwydiant ar hyn o bryd, a byddwn yn cofio'r cwmnïau rhagorol sydd wedi ymddwyn yn dda iawn a byddwn hefyd yn cofio am y rhai sydd heb wneud hynny.
O ran busnesau gwledig, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi eu bod yn wynebu heriau ac anawsterau penodol. Mae cwestiynau'n codi ynghylch yr hyn sy'n deithio hanfodol a'r hyn nad yw'n deithio hanfodol, er enghraifft. Nawr, rwy'n ymwybodol fod ei gyd-Aelod, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi datganiad o ryw fath—nid wyf yn gwybod a yw'n ddatganiad i'r wasg neu'n ddatganiad ysgrifenedig i'r Cynulliad—am gefnogaeth i'r diwydiant ffermio, ond tybed a wnaiff y Gweinidog ystyried gyda'i gyd-Aelod y posibilrwydd o gyflwyno datganiad ar yr adeg briodol i'r Senedd rithwir hon fel y gallwn graffu ar y cymorth y mae'r Llywodraeth yn ei ddarparu i fusnesau gwledig yn fwy eang, ond yn benodol i fusnesau ffermio? Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi mai'r busnesau yw asgwrn cefn ein cymunedau llai, ac mae angen i ni sicrhau eu bod yn cael eu diogelu.
Yn olaf, mae'r Gweinidog yn ei ddatganiad yn cyfeirio at y grantiau brys a allai fod ar y ffordd, ac mae hwn yn fater a godwyd gan David Rees yn ei gwestiynau i'r Prif Weinidog. Gwyddom nad yw rhai o'r pecynnau cymorth yn cynnwys pob un o'r rheini yr effeithir arnynt. Rwy'n credu bod David Rees wedi sôn, ac rwyf am ailadrodd hyn, am y bobl hunangyflogedig hynny, er enghraifft, nad ydynt wedi bod yn hunangyflogedig ers dros flwyddyn, ac felly nid oes ganddynt y gwaith papur sydd ei angen ar gyfer cynllun Llywodraeth y DU. A wnaiff y Gweinidog ystyried pa gymorth pellach y gellir ei roi i'r dinasyddion hynny, ac yn y tymor byr a wnaiff ystyried cyflwyno cynllun incwm sylfaenol brys i bobl yng Nghymru sy'n syrthio drwy'r bylchau? Yn yr ysbryd amhleidiol hwnnw, rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi gwneud rhywfaint o ymchwil ynglŷn â sut y gallai cynllun o'r fath weithredu yn y tymor byr, a byddwn yn hapus iawn i rannu'r gwaith rhagarweiniol hwnnw gyda'r Gweinidog a'i swyddogion, oherwydd rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â mi yn yr amser anodd hwn ein bod am sicrhau nad oes unrhyw ddinesydd yn cael ei adael ar ôl.
A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ymateb mewn ffordd mor adeiladol a chydweithredol, fel sydd bob amser yn wir mewn gwirionedd gyda llefarydd Plaid Cymru ar yr economi? Mae'r awgrymiadau y mae Helen Mary Jones wedi'u gwneud yn rhai i'w croesawu'n fawr, a byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai modd trosglwyddo'r darn hwnnw o ymchwil ynglŷn â'r posibilrwydd o gael cynllun incwm sylfaenol brys. Rydym wedi rhedeg rhai ffigurau ein hunain ac wedi canfod y byddai'n sylweddol iawn yn wir a byddai'n rhywbeth y byddai'n rhaid i Lywodraeth y DU ei weithredu. Yn wir, rydym wedi galw am gyflwyno cynllun incwm sylfaenol cyffredinol ar gyfer y cyfnod hwn. Credaf y byddai'n brawf priodol ar gynllun o'r fath hefyd, er mwyn iddo allu cael ei gyflwyno ar gyfer y tymor hir.
Yn wir, yn achos unigolion nad ydynt ond wedi bod yn hunangyflogedig am gyfnod byr, mae yna gryn bryder, ac mae pob un o'r meddyliau mawr yn y Trysorlys, Llywodraeth Cymru, rydym oll wedi ystyried sut y gallem gefnogi unigolion sydd wedi'u cynnwys yn y garfan benodol hon. Rydym yn edrych ar opsiynau amrywiol, gan gynnwys y posibilrwydd o ddefnyddio'r gronfa cymorth dewisol fel ffordd o allu eu cefnogi dros y tri mis nesaf. Rydym yn cydnabod bod angen gwneud rhagor o waith, ac rydym yn gweithio gyda Thrysorlys y DU, ac yn wir gyda'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, i geisio dod o hyd i ddull cyson o weithredu ar gyfer grŵp allweddol o unigolion o fewn y gweithlu.
Gwnaeth Helen Mary Jones nifer o bwyntiau pwysig am ddarparu gwybodaeth a hygyrchedd gwybodaeth bwysig. Rydym eisoes wedi dechrau cyfathrebu'n uniongyrchol â degau o filoedd o fusnesau sydd wedi'u cynnwys yng nghronfa ddata Busnes Cymru, a byddwn yn annog pob busnes i gofrestru ar y gronfa ddata honno. Mae rheolwyr datblygu busnes yn Llywodraeth Cymru yn cysylltu'n rheolaidd iawn â chwmnïau mwy o faint—cwmnïau angori fel y'u gelwir—ac mae ein timau ymateb rhanbarthol hefyd mewn cysylltiad â hwy'n rheolaidd iawn hefyd. Byddwn hefyd yn annog unrhyw fusnesau sydd ag unrhyw syniadau—. Fe wnaethom siarad yn gynharach—siaradodd Vaughan Gething yn arbennig ag Aelodau yn gynharach—am yr ymdrech genedlaethol i gynhyrchu peiriannau anadlu ac offer pwysig arall. Mae cyfeiriad e-bost penodol ar gael bellach i fusnesau allu rhannu syniadau gyda ni ar sut y gallwn ddod atom ein hunain, sut y gallwn wella'r ymdrech genedlaethol, sef business.covid-19@gov.wales.
Ac o ran egluro'r hyn y mae 'gwaith hanfodol' yn ei olygu mewn gwirionedd, cafodd hyn ei drafod heddiw yn ein cyfarfod pedairochrog â'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a Gweinidogion economi eraill ledled y DU. Roeddem i gyd yn awyddus iawn i ddweud bod angen gweithredu mewn ffordd mor gyson â phosibl, o gofio bod y swm helaeth o wybodaeth sy'n llifo i fusnesau yng Nghymru yn dod o gyfryngau'r DU mewn gwirionedd. Felly, byddai'n ddefnyddiol iawn yn wir os gallwn gael dull gweithredu cyson ledled y DU. Rwyf fi a'r Gweinidog Hepburn o'r Alban hefyd wedi pwysleisio'r angen i wneud hyn yn gyflym, ar frys.
Rwy'n sicr yn derbyn y pwynt a wnaeth Helen Mary Jones am y cyngor a geir ar ein llwyfannau digidol. Ceir cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru, a cheir cyngor coronafeirws Llyw.Cymru i fusnesau hefyd. Fe af oddi yma heddiw ac edrych ar y cyngor a gafwyd ar y ddau blatfform i weld a yw'n gyson, ac i weld a allwn ychwanegu gwybodaeth at y naill neu'r llall, neu'r ddau, yn wir.
O ran arferion busnes gwael, nid oes amheuaeth o gwbl fod y mwyafrif helaeth o fusnesau Cymru'n ymddwyn yn gyfrifol iawn—yn cefnogi gweithwyr, yn cyfathrebu â gweithwyr, ac mae llawer yn camu i'r adwy i helpu'r GIG a chartrefi gofal hefyd—ond nid oes amheuaeth fod yna rai busnesau lle na welir arferion da'n cael eu harddangos, ac mae Helen Mary Jones yn llygad ei lle y bydd gennym gof hir am y cyfnod hwn.
Mewn perthynas â gorfodaeth, rydym yn edrych ar y cwestiynau y mae Helen Mary Jones wedi eu codi gyda Llywodraeth y DU a chydag awdurdodau lleol hefyd, ond gallaf ddweud wrth yr Aelodau heddiw y bydd y meini prawf ar gyfer cymorth gan Lywodraeth Cymru—y grantiau rydym wedi'u cyhoeddi y byddwn yn eu gweinyddu ac y bydd Busnes Cymru yn eu gweinyddu—yn cynnwys llinell ychwanegol i'r contract economaidd. Mae'r contract economaidd yn syml iawn, dim ond pedwar pwynt sydd iddo: datgarboneiddio; gwaith teg; ymrwymiad i sgiliau, iechyd ac iechyd meddwl yn y gweithle; a photensial i dyfu. Byddwn yn cynnwys elfen coronafeirws benodol yn y contract yn awr, a bydd unrhyw fusnes y canfyddir ei fod wedi methu cydymffurfio â chadw pellter cymdeithasol yn cael ei eithrio rhag cael ein cymorth, neu bydd cymorth yn cael ei hawlio'n ôl. Felly, byddwn yn defnyddio'r offeryn pwysig hwnnw i sicrhau bod cynifer o fusnesau ag sy'n bosibl yn ymddwyn yn gyfrifol.
O ran busnesau gwledig a'r diwydiant ffermio yn arbennig, cefais drafodaeth dda iawn gyda llywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, ynghyd â Lesley Griffiths, yr wythnos diwethaf i sôn am y pwysau y mae'r gymuned ffermio yn ei wynebu. Rwy'n credu bod datganiad gan Lesley Griffiths yn yr arfaeth o bosibl ar gyfer y Cyfarfod Llawn rhithwir yr wythnos nesaf. Felly, rwy'n siŵr y bydd hi'n ymdrin â'r holl faterion rydych wedi tynnu sylw atynt pan fydd hi'n rhoi'r datganiad hwnnw.
Mike Hedges.
Rwyf newydd gael fy nad-dawelu. Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi hefyd ategu fy niolch i'r bobl sy'n gweithio yn y rhan hanfodol o'n heconomi? Soniwn yn aml am ran sylfaen ein heconomi; rydym yn awr yn darganfod beth yw'r rhan hanfodol o'n heconomi. Gobeithio y byddwn yn defnyddio'r term hwnnw'n amlach o lawer.
Mae etholwyr wedi dwyn llawer o faterion i fy sylw yr hoffwn eu codi gyda'r Gweinidog. Mae'r un cyntaf yn ymwneud â bragdai bach. Gall y bragwyr mawr symud o gynhyrchu casgenni i ganiau a photeli i'w hanfon i fannau manwerthu. Nid yw'n bosibl i gynhyrchwyr llai, sydd wedi arfer cyflenwi i dafarndai, clybiau a bwytai, wneud yr un peth yn union. Nid oes ganddynt y capasiti i newid popeth ar gyfer caniau a photeli. Mae'r sector hwn, fel y gŵyr y Gweinidog, yn sector twf yn economi Cymru, yn enwedig yn Abertawe. Pa gyngor neu gymorth y gall y Gweinidog ei roi iddynt?
Mae'r ail bwynt yn ymwneud ag unedau gweithgynhyrchu bach a chanolig eu maint a chanolfannau galwadau sy'n aros ar agor lle nad yw cadw pellter cymdeithasol yn bosibl a lle mae cyfleusterau'n cael eu rhannu. A oes bwriad i gau cyfleusterau gweithgynhyrchu a chanolfannau galwadau nad ydynt yn hanfodol? Oherwydd gan nad ydynt wedi gorfod cau'n swyddogol, mae nifer ohonynt yn aros ar agor.
Dau bwynt olaf. Beth yw clwb rygbi? A yw'n dafarn, a yw'n gyfleuster hamdden, ynteu a yw'n fenter gymdeithasol? Bydd yn cael ei ddehongli'n wahanol yn ôl y deddfau cyffredinol sy'n ei ddiffinio. Mae yna lawer iawn o glybiau rygbi yng Nghymru a oedd yn dymuno gwerthu llawer o gwrw yn ystod y gêm rygbi ryngwladol ddiwethaf na wnaeth hynny, ac nid ydynt yn siŵr iawn ble maent yn sefyll yn y sefyllfa hon.
Yn olaf, rhywbeth sydd wedi dod i fy sylw y prynhawn yma. Mae rhai siopau bellach yn dweud wrth bobl na allant fynd â'u plant i mewn i'r siopau gyda hwy. Nawr, i famau sengl, os na allant fynd â'u plant i mewn i siopa am fwyd, nid ydynt yn gallu siopa am fwyd. Felly, a ydych yn ymwybodol o hynny? Fel rwy'n dweud, dim ond y prynhawn yma y tynnwyd fy sylw at hyn. Os ydych, a ydych chi'n gwneud rhywbeth? Os nad ydych, a allwch chi wneud rhywbeth felly? Oherwydd ni fydd y bobl hyn yn gallu cael gafael ar fwyd os nad ydynt yn gallu mynd i'r archfarchnadoedd a siopau eraill sy'n dweud wrthynt bellach, 'ni chewch ddod i mewn gyda'ch plant.' Wel, os yw eu plant yn bedair neu'n bump oed, nid oes unrhyw ddewis arall ganddynt.
A gaf fi ddiolch i Mike Hedges am ei gwestiynau? O ran bragwyr bach, rwyf wedi bod mewn cysylltiad â nifer o fragwyr bach sy'n wynebu nifer o heriau. Rydych chi'n iawn, un ohonynt yw na allant gystadlu â'r bragdai mwy sy'n gallu troi'n sydyn at botelu neu ganio eu cynnyrch. Yr ail her sy'n eu hwynebu yw bod llawer iawn o dafarndai annibynnol sydd â bragdai annibynnol ynghlwm wrthynt, bragdai gyda chyfleusterau ffatri, ac felly mewn rhai ardaloedd maent wedi cael eu heithrio o'r cymorth busnes a gyhoeddwyd gennym yn ystod camau cychwynnol ein hymdrech i frwydro yn erbyn COVID-19, ond maent wedi cael eu cynnwys ers hynny yng nghyhoeddiad dydd Llun.
Rwy'n credu bod cwestiwn i'w ofyn ynghylch a allwn ni helpu bragwyr llai i gyflenwi archfarchnadoedd dros y misoedd nesaf, a pha mor gyflym y gellid trefnu rhyw fath o gonsortiwm. Byddwn yn sicr yn edrych ar hyn. Nid yw wedi bod yn flaenoriaeth frys yn ystod wythnosau cyntaf ein hymdrechion, fel y gallwch ddychmygu, ond mae'n sicr yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod. Yr hyn yr hoffem ei weld yn digwydd wrth i ni ddod trwy argyfwng coronafeirws yw i'r sector bragdai gael ei hybu, nid ei niweidio. Byddem yn dymuno gweld mwy o ficrofragdai'n cael eu sefydlu. Hoffem weld mwy o dafarndai annibynnol yn datblygu. Nid ydym yn dymuno gweld colli tafarnau neu fragdai annibynnol o safon o gwbl, felly byddwn yn sicr yn eu cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn.
Mae'r pwynt a wnaeth Mike Hedges am gyfleusterau gweithgynhyrchu a chanolfannau galwadau nad ydynt yn hanfodol yn mynd yn ôl at y diffiniad a'r pwyntiau a godwyd gan Helen Mary Jones. Ond byddwn yn dweud un peth: mae'n bwysig i fusnes ofyn dau gwestiwn. Yn gyntaf oll, a ydynt yn rhan o'r ymdrech hanfodol i frwydro yn erbyn COVID-19? Os nad ydynt, a allant weithio mewn ffordd sy'n caniatáu ar gyfer cadw pellter cymdeithasol bob amser? Os mai 'gallant' yw'r ateb, yna gall y gwaith barhau, ond os mai 'na allant' yw'r ateb, yna mae'n amlwg na ddylid peryglu eu gweithwyr. Ac os yw hynny'n golygu gaeafgysgu dros gyfnod y coronafeirws, boed hynny fel y bo. Rydym wedi rhoi'r mecanweithiau cymorth ar waith, a Llywodraeth y DU yn yr un modd, i alluogi gaeafgysgu lle nad oes unrhyw ddewis arall.
O ran clybiau rygbi, nid wyf yn credu y dylai clybiau rygbi fod ar agor ar hyn o bryd. Nid yw cyfleusterau chwaraeon eraill ar agor ar hyn o bryd, a beth bynnag yw'r diffiniad o glwb rygbi, os yw'n lleoliad lle gall pobl ymgynnull yn agos, nid wyf yn credu y dylai hynny ddigwydd. Gallaf weld Mike Hedges yn ysgwyd ei ben. Os yw'r cwestiwn wedi ei gamddehongli mewn unrhyw ffordd, yna rwy'n sicr yn hapus i ymateb iddo yn ysgrifenedig. Fe wnaf hynny, a byddaf yn cylchlythyru fy ymateb i'r holl Aelodau hefyd fel y gellir dosbarthu unrhyw ganllawiau i bob clwb rygbi yng Nghymru.
Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw archfarchnadoedd sy'n dweud wrth gwsmeriaid na chaniateir iddynt ddod i mewn i'r safle gyda phlant. Yn sicr, ni fyddai hynny'n dderbyniol o gwbl. Fodd bynnag, os yw plant yn cael eu hebrwng i unrhyw siop, afraid dweud ei bod yn bwysig i rieni allu cadw eu plant mor agos atynt ag y bo modd, oherwydd mae bron bob archfarchnad, o'r hyn a welaf bellach, wedi cyflwyno mesurau cadw pellter cymdeithasol y mae'n rhaid cadw atynt.
Cyn i mi alw ar y siaradwr nesaf, a gaf fi atgoffa'r Aelodau mai sesiwn ffurfiol o'r Cynulliad Cenedlaethol yw hon ac na chaniateir i chi dderbyn galwadau ffôn yn ystod sesiwn ffurfiol? Felly, nid yw i ddigwydd eto. Neil Hamilton.
Amcan pennaf yr holl gyfyngiadau ar weithgarwch economaidd, wrth gwrs, yw achub bywydau, ac rydym i gyd yn cytuno â'r amcan hwnnw, ond a yw'r Gweinidog yn cytuno na ddylem gael gwared yn llwyr ar gwestiynau ynghylch cymesuredd yr ymateb? Caniateir i archfarchnadoedd aros ar agor oherwydd, yn amlwg, mae dosbarthu bwyd yn wasanaeth hanfodol, ond ceir busnesau eraill o fathau tebyg sy'n gweithredu yn yr awyr agored nad ydynt ar agor oherwydd cyfyngiadau'r Llywodraeth. Rwy'n meddwl yn benodol am yr anawsterau y mae meithrinfeydd planhigion, canolfannau garddio ac ati yn eu hwynebu ar hyn o bryd, ac rwy'n meddwl tybed a fyddai'n bosibl cadw llygad ar hyn er mwyn codi'r cyfyngiadau cyn gynted â phosibl. Oherwydd, ar yr adeg hon o'r flwyddyn, gydag eginblanhigion ac ati, sy'n cael eu hystyried yn nwyddau darfodus, bydd busnesau'n colli symiau sylweddol iawn o arian drwy beidio â gallu masnachu. Os yw cadw pellter cymdeithasol yn bosibl o dan yr amgylchiadau hyn, ni allaf weld unrhyw reswm pam na ddylent barhau i fasnachu. Felly, tybed a fyddai'r Gweinidog yn cytuno—yn amlwg, ar y cyfnod hwn yn y pandemig, mae'n bosibl fod cwestiynau ynghylch cymesuredd yn llai pwysig—wrth i ni symud trwy'r argyfwng hwn, y dylid codi'r cyfyngiadau hyn cyn gynted ag y bo modd?
Byddwn yn cytuno â Neil Hamilton y dylid codi'r cyfyngiadau cyn gynted ag y gallwn eu codi. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw nad ydym eisiau lladd yr economi, nid ydym am wneud hynny o gwbl; yr hyn rydym eisiau ei wneud yw ei diogelu ar gyfer y tymor hir. Y neges roeddwn yn ei rhoi i'r sector twristiaeth pan welwyd bod llawer o bobl yn dod i Gymru ac yn dod o rannau o Gymru i'r rhannau mwy anghysbell o'r wlad gwta bythefnos yn ôl oedd: 'Os ydych chi'n ceisio achub y tymor twristiaeth yn 2020, rydych chi'n peryglu tymor twristiaeth 2021.' Ni allwn fforddio gweld coronafeirws yn dychwelyd ac felly, er y byddem yn dymuno gweld y cyfyngiadau'n cael eu codi cyn gynted â phosibl, mae'n hanfodol mai dim ond pan fydd hi'n ddiogel i wneud hynny y dylai hynny ddigwydd.
Byddwn yn cytuno bod canolfannau garddio yn aml yn fannau lle gellir cadw pellter cymdeithasol. Wrth gwrs, byddem yn barod i ystyried a ellid eu hagor. Ond mewn gwirionedd, mae nifer dda o ganolfannau garddio eisoes yn arloesi yn y sefyllfa sydd ohoni ac yn gwerthu mwy ar-lein. Byddem yn eu hannog i wneud hynny'n gyntaf oll yn ystod y cyfnod hwn. Ond gallaf sicrhau canolfannau garddio y byddwn yn gwneud hynny cyn gynted ag y gallwn eu hailagor mewn ffordd ddiogel ac ymarferol.
Diolch, Weinidog, a diolch i'r holl Aelodau a'r Gweinidogion. Rwy'n mynd i ddirwyn y cyfarfod pur eithriadol hwn o'n Senedd i ben yn awr a diolch i'r holl Aelodau a'r Gweinidogion am gymryd rhan. Yn anarferol, hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle heddiw i ddiolch i'r swyddogion sydd wedi gweithio y tu ôl i'r llenni i wneud y cyfarfod hwn yn bosibl dan yr amgylchiadau mwyaf anghyffredin, a hynny mewn cyfnod byr iawn. Mae atebolrwydd democrataidd yn bwysig, ac mae'n parhau'n bwysig hyd yn oed yn y cyfnod hynod anodd hwn. Felly, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan heddiw i sicrhau bod democratiaeth yn fyw ac yn iach yng Nghymru, a byddwn yn ceisio ailadrodd hyn cyhyd ag y bydd angen i ni wneud hynny. Diolch i bawb ohonoch, a chadwch yn ddiogel. Daw hyn â'n trafodion i ben.