Part of the debate – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 8 Ebrill 2020.
Diolch yn fawr, Llywydd. Heddiw, byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y gwaith sy’n gyrru ymlaen ar draws Cymru mewn ymateb i coronafeirws. Mae pob rhan o Lywodraeth Cymru, llywodraeth leol, y gwasanaeth iechyd, y gwasanaethau brys, y sector wirfoddol a busnes yn rhan o’r ymdrech enfawr hon. Mae pawb yn cydweithio i baratoi gwasanaethau ac i gefnogi busnesau a phobl fregus. Mae pob unigolyn yng Nghymru yn gwneud cyfraniad pwysig drwy ddilyn y cyngor i aros gartref. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth yn barod. Rhaid i ni ddal ati er lles pawb.