Part of the debate – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 8 Ebrill 2020.
Diolch, Llywydd. Rydym ni'n wynebu pandemig byd-eang, nad ydym ni wedi gweld ei debyg o'r blaen. Mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i bob teulu ledled Cymru, gan gynnwys y rheini yn ein cymunedau gwledig, arfordirol ac amaethyddol. Rwy'n cydymdeimlo â phawb y mae hwn wedi effeithio arnyn nhw.
Cyn ac ers fy natganiad llafar arfaethedig ar 24 Mawrth, a ohiriwyd drwy gytundeb y Pwyllgor Busnes, mae fy swyddogion a minnau wedi bod yn gweithio'n galed i gefnogi ac ymgysylltu â'r rheini sy'n gweithio yn ein sectorau bwyd ynghylch diogelu ein hamgylchedd ac i sicrhau bod seilwaith hanfodol ar waith ac y parheir i reoli heintiau er mwyn pobl Cymru.
Ar 16 Mawrth, cynhaliais gyfarfod bord gron a oedd yn dwyn ynghyd farn ffermwyr, pysgotwyr, coedwigwyr a chynhyrchwyr bwyd a diod Cymru. Bu hyn yn hollbwysig o ran cynllunio a mynd i'r afael â'r heriau uniongyrchol ar draws fy mhortffolio. Ers hynny, rwyf wedi bod yn gweithio i sicrhau parhad cyflenwadau bwyd, gan weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU, fforwm manwerthwyr y DU, y grŵp cyswllt argyfyngau bwyd wrth gefn a Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, ymhlith eraill.
Yn ogystal â hynny, rwyf wedi bod yn gweithio gyda'r grŵp cydnerthedd amaethyddol—fe wnes i gyfarfod â nhw yr wythnos diwethaf a bydd trafodaeth bord gron arall yr wythnos nesaf. Mae fy swyddogion mewn cysylltiad dyddiol â rhanddeiliaid. Mae'r wybodaeth a'r allbynnau o'r Grŵp Cydnerthedd Amaethyddol yn cyfrannu at feddylfryd Llywodraeth Cymru ynghylch y ffordd orau o ymdrin ag effaith y mesurau cynyddol i reoli haint COVID-19.
Gallaf sicrhau Aelodau bod manwerthwyr a chadwyni cyflenwi yn ateb yr her. Mae ein storfeydd bwyd yn cael eu cyflenwi waeth beth fo'u lleoliad. Hoffwn ddiolch o galon i'r gweithlu manwerthu am eu gwaith caled.
Mae dros 85,000 o bobl yng Nghymru wedi cael llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru am fod ganddyn nhw eisoes gyflwr iechyd tymor hir penodol, sy'n golygu eu bod mewn perygl mawr o fod yn ddifrifol wael o achos y coronafeirws oherwydd problem iechyd ddifrifol sy'n bodoli eisoes. Gofynnwyd iddyn nhw ymgymryd â chyfres o fesurau gwarchod, gan gynnwys aros gartref am 12 wythnos.
Ar 3 Ebrill, ar y cyd â'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, cyhoeddais fod y bocsys bwyd cyntaf yn cael eu dosbarthu i riniogydd pobl gymwys na allan nhw ddibynnu ar deulu na ffrindiau i'w helpu. Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £15 miliwn ar gael ar gyfer y cynllun danfon bwyd uniongyrchol. Mae'r pecynnau bwyd, y mae pobl yn gofyn amdanyn nhw gan eu hawdurdod lleol, yn darparu gwerth wythnos o fwydydd hanfodol mewn pecynnau a thuniau ar gyfer un unigolyn a warchodir. Hefyd, rydym ni bellach wedi cytuno â'r archfarchnadoedd y byddant yn rhoi blaenoriaeth i archebion ar-lein y mae angen eu danfon i gartrefi pobl a warchodir yng Nghymru.
Wrth gwrs, mae ffermwyr wrth wraidd ein cadwyni bwyd a'n cydnerthedd amgylcheddol, yn fwy fyth yn ystod y pandemig byd-eang hwn, ac mae'n hanfodol ein bod yn eu cefnogi. Ar 1 Ebrill, cyhoeddais fod gan ffermwyr bellach fis ychwanegol i gyflwyno ffurflen y cais sengl, gyda'r dyddiad cau wedi'i ymestyn i 15 Mehefin. Mewn ymateb i bryderon ynghylch y gofynion arallgyfeirio o ran cnydau yn dilyn y llifogydd diweddar a'r pwysau ychwanegol oherwydd y sefyllfa gyda'r coronafeirws, cadarnheais hefyd fod Llywodraeth Cymru yn dileu'r gofynion yn gyfan gwbl ar gyfer Cynllun Taliad Sylfaenol 2020. At hynny, mae £5.5 miliwn ychwanegol wedi'i ddyrannu at Gynllun y Taliad Sylfaenol a chynllun cymorth Glastir 2019, a ailagorodd ar 1 Ebrill i gefnogi'r 800 o'r contractau neu'r hawlwyr hynny nad ydyn nhw wedi cael taliad. Bydd ffermwyr yn gallu gwneud cais am gymorth drwy'r cynllun er mwyn lliniaru problemau llif arian posibl.
Mae mynd i'r afael â llygredd amaethyddol yn flaenoriaeth, a byddaf yn cyhoeddi rheoliadau drafft ar wefan Llywodraeth Cymru, yr wyf yn bwriadu eu cyflwyno ar ôl i'r argyfwng ddod i ben. Wrth inni ddod at ein hunain ar ôl yr argyfwng presennol, rhaid inni wneud popeth a allwn ni i atal niweidio ein hecosystemau bregus a helpu natur i ffynnu.
Mae angen inni gofio hefyd, drwy gydol y cyfnod anodd hwn, fod ein gweithwyr hanfodol yn gweithio'n eithriadol o galed bob awr o'r dydd a'r nos dan amgylchiadau heriol i'n cadw ni a'n hanifeiliaid yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys staff Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, awdurdodau lleol, cwmnïau dŵr, yn ogystal â gweithwyr ym maes coed, olew, nwy a thrydan sy'n sicrhau bod ynni ar gael i'n hysbytai, ein cartrefi a'n diwydiannau. Mae ein milfeddygon yn hollbwysig o ran sicrhau iechyd a lles anifeiliaid ac wrth ymdrin ag achosion lle amheuir bod clefydau ar anifeiliaid.
Mae rheoli lledaeniad TB yn dal yn bwysig, ond dim ond os gellir gwneud hynny'n ddiogel y bydd profion yn parhau. Bydd cyfyngiadau symud gwartheg yn berthnasol ar gyfer profion TB hwyr, ond ni chaiff ceidwaid eu hatgyfeirio bellach am gosbau trawsgydymffurfio. Os oes angen cynnal prawf cyn symud, dim ond os yw'r milfeddyg wedi profi pob un o'r anifeiliaid ac wedi dangos eu bod yn negyddol y gellir eu gwerthu. Rhaid hysbysu APHA am ganlyniad pob prawf ac mae'r canllawiau ar brofion TB yn cael eu hadolygu a'u diweddaru bob dydd.
Mae pysgotwyr yn rhan hanfodol o'n cadwyni bwyd a'n cymunedau arfordirol, ac mae'n hanfodol ein bod yn eu cefnogi hwythau hefyd yn ystod y cyfnod anodd hwn. O ganlyniad i argyfwng y coronafeirws, mae'r fasnach pysgod cregyn i Ewrop, sy'n fwy na 90 y cant o allforion bwyd môr Cymru, wedi dymchwel ac mae masnach o fewn y DU wedi dod i ben i bob pwrpas. Felly, rydym yn gweithio'n galed ar fanylion terfynol grant caledi ar gyfer perchnogion cychod trwydded cymwys yng Nghymru er mwyn cefnogi hyfywedd y sector bwyd môr yng Nghymru.
Yn olaf, Llywydd, bydd yr Aelodau'n ymwybodol y bu'n rhaid gohirio COP26. Fodd bynnag, bydd ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd yn parhau. Mae'r Llywodraeth hon yn parhau i roi pwys mawr ar gyflawni ein targedau lleihau allyriadau a chynhyrchu ein cynllun cyflawni carbon isel nesaf fel y trefnwyd.
Felly, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Ken Skates, yr wythnos diwethaf, mae'n rhaid inni gydweithio gyda thosturi, a hynny ar fyrder a chyda gofal, i wynebu'r heriau sylweddol sy'n ein hwynebu ni a goresgyn hyn. Diolch.