– Senedd Cymru am 5:30 pm ar 8 Ebrill 2020.
A symudaf i'r cyfnod pleidleisio. Fel y nodwyd ar yr agenda, cynhelir y pleidleisiau heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11—[Torri ar draws.] Caiff pob grŵp gwleidyddol enwebu un Aelod o'r grŵp neu'r grwpiad i gario'r un nifer o bleidleisiau ag y sydd o Aelodau'r grŵp. Yn achos grŵp gwleidyddol sydd â swyddogaeth Weithredol, bydd gan yr enwebai yr un—[Torri ar draws.] Cyn imi barhau, a all y swyddogion a'r cyfieithwyr i gyd ddiffodd eu meicroffonau? Bydd Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio drostynt eu hunain a byddaf yn cynnal pleidlais drwy alw'r enwau.
Mae'r bleidlais, felly, yn bleidlais ar y cynigion a gyflwynwyd yn enwau Julie James a Rebecca Evans. Ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, galwaf ar John Griffiths. Sut ydych chi'n bwrw eich 30 o bleidleisiau? John Griffiths, sut ydych chi'n bwrw eich 30 o bleidleisiau? Unwaith eto, John Griffiths.
O blaid.
Diolch. Ar ran grŵp Ceidwadwyr Cymru, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw eich 11 pleidlais?
Yn erbyn.
Ar ran Plaid Cymru, Helen Mary Jones, sut ydych chi'n bwrw eich naw pleidlais?
Yn erbyn.
Yn erbyn.
Ar ran y Blaid Brexit, Caroline Jones, sut ydych chi'n bwrw eich pedair pleidlais?
Yn erbyn.
Neil Hamilton, sut ydych chi'n bwrw eich pleidlais?
Yn erbyn.
Daw hynny â'r bleidlais i ben. Canlyniad y bleidlais: o blaid y cynigion 30, neb yn ymatal, yn erbyn 25, ac, felly, derbynnir y cynigion.
Daw ein trafodion heddiw i ben. Diolch i bawb am gymryd rhan. A hoffwn gloi hefyd wrth ddymuno gwellhad buan i'n cyd-Aelod, Alun Davies. Diolch yn fawr i bawb.