Part of the debate – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 22 Ebrill 2020.
Diolch, Lywydd. Mewn llythyr atoch ddydd Llun, dywedodd Autistic UK Cymru fod rheoliadau Cymru—y rheoliadau diogelu iechyd cyfyngiadau coronafeirws—wedi cael eu hysgrifennu mewn ffordd sy'n drysu pobl awtistig ymhellach. Yn Lloegr, gall pobl ag anghenion meddygol penodol, gan gynnwys pobl ag anableddau dysgu neu awtistiaeth sydd angen ymarfer corff penodol adael eu cartrefi i ymarfer corff mewn man agored ddwy neu dair gwaith y dydd. Mae teuluoedd pryderus ledled Cymru sydd angen yr un ddarpariaeth wedi cysylltu â mi i ofyn pam na allant wneud hynny yng Nghymru. Yn eich sesiwn friffio ddydd Llun, fe ddywedoch bethau cadarnhaol ynglŷn â newidiadau i'r rheoliadau, gan gynnwys y rheini ar gyfer pobl ag anableddau dysgu neu awtistiaeth. A wnewch chi, felly, sicrhau bod unigolion ag anableddau dysgu neu awtistiaeth yng Nghymru sydd angen ymarfer corff penodol yn gallu gwneud hynny mewn ffordd debyg i'w cymheiriaid dros y ffin?
Mae cynghorau lleol ledled Cymru yn wynebu pwysau ariannol enfawr o ganlyniad i'r pandemig, ac amcangyfrifir y bydd y colledion yn fwy na £33 miliwn y mis. Sut y byddwch yn mynd i’r afael â’r pryderon a fynegwyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru gyda lefelau isel o gronfeydd wrth gefn y byddant yn boddi heb gymorth ariannol i dalu’r costau ychwanegol yn sgil darparu gwasanaethau yn ystod y pandemig hwn? A wnewch chi ymrwymo i roi'r £95 miliwn ychwanegol y bydd eich Llywodraeth yn ei gael gan Lywodraeth y DU, fel cyllid canlyniadol yn sgil yr £1.6 biliwn a gyhoeddwyd i gynghorau lleol yn Lloegr ar gyfer ymladd COVID-19, yn uniongyrchol i awdurdodau lleol yng Nghymru i gefnogi'r gwasanaethau allweddol y maent yn eu darparu, ac i'r sector gofal annibynnol am y cymorth y maent yn ei ddarparu yn y frwydr gyfunol yn erbyn y pandemig hwn?
Yn olaf, yn y Cyfarfod Llawn rhithwir bythefnos yn ôl, gofynnais i chi egluro'r ddarpariaeth ar gyfer gweithwyr hanfodol i gael mynediad at ofal plant a lleoliadau addysgol ar gyfer eu plant, ar ôl i staff y GIG yn Sir y Fflint gysylltu i ddweud bod yn rhaid i'r ddau riant fod yn weithwyr hanfodol er mwyn bod yn gymwys. Rwy'n deall bod y rheol wedi bod yr un fath yn y rhan fwyaf o gynghorau, yn yr ystyr y gallai rhieni aros gartref i ofalu am eu plentyn mewn amgylchiadau o'r fath, ond lle nad yw hynny'n bosibl, bydd gofal ar gael. Dysgodd fy nghyd-Aelod Suzy Davies gan y Gweinidog addysg ddydd Gwener diwethaf, yn ôl yr hyn a ddeallwn, mai’r cyfan sydd angen ei ddangos bellach yw bod un rhiant yn weithiwr allweddol. A allech chi egluro felly, a rhoi cyfarwyddiadau clir i awdurdodau lleol ynglŷn â chywirdeb hynny ac a yw hi bellach yn ddigon i un rhiant fod yn weithiwr allweddol pan nad yw'r rhiant arall yn gallu bod gartref am unrhyw ran o'r diwrnod neu’r wythnos?