3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 22 Ebrill 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:40, 22 Ebrill 2020

(Cyfieithwyd)

Yn ogystal â gweithio ar y cyd â Gogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr, rydym wrthi'n ysgogi diwydiant yng Nghymru i ychwanegu at y llwybrau cyflenwi hynny ledled y DU drwy arloesedd a gweithgynhyrchu newydd.

Fel y gwyddoch, galwodd y Prif Weinidog yn ddiweddar ar fusnesau a gwneuthurwyr o Gymru i helpu i gynhyrchu cyflenwad Cymreig o gyfarpar diogelu personol i gefnogi ein staff iechyd a gofal cymdeithasol ar y rheng flaen. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gweithio gyda diwydiant Cymru i ddatblygu, mireinio a chyflwyno'r syniadau hynny. Ac mae ein dull o weithredu yn bwriadu manteisio i'r eithaf ar yr holl gyfleoedd sydd ar gael i ni er mwyn cydnabod maint y galw a'r farchnad fyd-eang heriol iawn rydym yn gweithredu ac yn cystadlu ynddi.  

Fodd bynnag, rydym wedi cael ymateb gwych gan gwmnïau o Gymru hyd yma. Yng ngogledd Cymru, mae gennym Brodwaith ar Ynys Môn, sy'n gwneud 2,000 o wisgoedd i weithwyr ysbytai bob mis. Hefyd mae gennym Worksafe Workwear yn Rhuthun, sy'n cynhyrchu dros 2,000 o wisgoedd i weithwyr ysbytai bob mis. Roedd un o'r cwmnïau hynny'n arfer gwneud pyjamas a'r llall yn arfer gwneud bagiau. Maent yn enghreifftiau da o'r modd y mae cwmnïau wedi addasu eu prosesau mewn ychydig wythnosau i gynhyrchu'r offer rydym ei angen—dillad i weithwyr ysbytai yn yr achos hwn.  

Mae gennym hefyd enghreifftiau amlwg iawn o'r Bathdy Brenhinol a Rototherm Group, sy'n gwneud y feisorau a'r tariannau wyneb sy'n cael eu gwisgo gan staff gofal iechyd. Ac mae distyllfa jin In The Welsh Wind yn gwneud diheintydd llaw a gymeradwywyd gan Sefydliad Iechyd y Byd. Mae lefel yr arloesedd a'r cymorth sydd wedi dod o bob rhan o Gymru wedi gwneud argraff fawr arnaf.

Bydd y galw am gyfarpar diogelu personol yn parhau i fod yn llawer uwch na'r arfer am y dyfodol rhagweladwy. Mae'r holl gamau rydym yn eu cymryd yng Nghymru wedi'u hanelu at sicrhau cyflenwad o gyfarpar diogelu personol i'n staff sydd ei angen i barhau i weithio ac i ofalu am y cyhoedd yn ddiogel. Wrth gwrs, mae'n bwysig fod y canllawiau ar gyfarpar diogelu personol yn cael eu dilyn yn briodol a bod y staff sydd angen y cyfarpar diogelu personol hwnnw, wrth gwrs, yn ei ddefnyddio'n unol â'r canllawiau hynny.

Ar gynnal profion—gwn fod sylwadau wedi cael eu gwneud yn natganiad y Prif Weinidog ac mewn cwestiynau—ar 15 Ebrill, comisiynais adolygiad cyflym a oedd yn canolbwyntio ar elfennau allweddol ein cynllun ar gyfer profi gweithwyr hanfodol. Roedd hwnnw'n cynnwys ein capasiti profi, mynediad at brofion, ynghyd â'r broses atgyfeirio a chanlyniadau. Yn dilyn yr adolygiad, gallaf gadarnhau bod ein capasiti profi yn 1,800 o brofion y dydd bellach. Rwyf wedi sicrhau bod £50 miliwn o arian Llywodraeth Cymru ar gael i gyflwyno rhagor o offer, adweithyddion cemegol ac adnoddau eraill i gynyddu ein capasiti profi. Bellach, mae gennym ganolfannau profi mawr yn weithredol yng Nghaerdydd a Chasnewydd a bwriedir i seilwaith profi newydd ar gyfer gogledd a de Cymru fod ar waith yn fuan—o fewn y pythefnos nesaf, yn ôl yr hyn a ddeallaf heddiw—i roi hwb i'r trefniadau profi presennol sydd eisoes ar waith. Rydym yn treialu platfform archebu ar y we yr wythnos hon, ac rwyf wedi dileu'r terfyn ar atgyfeiriadau gan awdurdodau lleol, ac rwyf hefyd wedi cyhoeddi polisi gweithwyr hanfodol newydd sy'n ymestyn nifer y grwpiau y gellir eu profi yn awr. Rydym bellach yn profi holl breswylwyr cartrefi gofal sy'n dangos symptomau a phob preswylydd cartref gofal sy'n dychwelyd o'r ysbyty. Gellir atgyfeirio pob aelod o staff cartrefi gofal sy'n dangos symptomau i gael profion hefyd yn awr.

Rwy'n parhau i fod yn hyderus, yn dilyn trafodaethau gyda'n prif gynghorydd gwyddonol ar iechyd, fod ein cynllun yn nodi'r dull cywir o sicrhau ein bod yn darparu'r profion cywir ar yr adeg gywir lle mae eu hangen yn y tymor byr a'r tymor hwy. Felly, rwy'n hyderus ar y pwynt hwn ein bod yn profi'r bobl iawn.

Ar bwnc gwahanol, rwy'n deall ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod ac yna'n ceisio deall, ar draws y DU, pam ein bod yn gweld nifer anghymesur o bobl o gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sydd wedi mynd yn ddifrifol wael o ganlyniad i Covid-19.

Ddoe, cadarnheais y byddem ni yng Nghymru yn cyfrannu at yr adolygiad sy'n cael ei arwain gan Public Health England i archwilio rôl cyflyrau meddygol sy'n bodoli eisoes. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i sefydlu a oes unrhyw ffactorau penodol a allai helpu i lywio penderfyniadau ynglŷn â'r angen i ni roi cyngor cyhoeddus gwahanol ynghylch cydafiachedd, ynysu, gwarchod a chyfarpar diogelu personol mewn perthynas â phobl o gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Byddwn yn gweithio gyda chynrychiolwyr o'n cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yma yng Nghymru i helpu i lunio'r gwaith hwnnw wrth symud ymlaen.

Nawr, ar ofal cymdeithasol a diogelu plant, rwy'n gwybod bod pryderon mawr, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru, ond gan randdeiliaid allweddol eraill. Rydym yn deall bod gwasanaethau o dan bwysau, ac ar yr un pryd, gwyddom fod yr argyfwng yn rhoi straen mawr ar bawb sy'n rhan o fywydau plant agored i niwed. Er mwyn cefnogi adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol a'u partneriaid i fynd i'r afael â'r heriau hynny, rwy'n falch o gadarnhau bod Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi canllawiau gweithredol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol plant. Cawsant eu datblygu drwy weithio'n agos gyda rhanddeiliaid ac maent yn nodi mesurau y dylid eu rhoi ar waith i leihau effaith y pandemig; i helpu awdurdodau lleol a'u partneriaid i barhau i ddarparu cymorth effeithiol i blant sy'n agored i niwed, sydd mewn perygl neu sydd wedi cael profiad o ofal, tra'n cynnal eu dyletswyddau statudol.

Mae diogelu yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i bawb. Rwy'n bryderus am y gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau a'r adroddiadau o bryder am oedolion a phlant sydd mewn perygl o gael eu niweidio, eu cam-drin neu eu hesgeuluso yn ystod pandemig y coronafeirws. Felly, rwyf eisiau atgoffa pawb fod adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn gweithredu yn ôl yr arfer a'u bod yn gallu ymateb i bryderon sydd gan bobl. Felly, os ydych yn teimlo y gall unrhyw un, boed yn oedolyn neu'n blentyn, fod mewn perygl o gael ei gam-drin, ei niweidio neu ei esgeuluso, gallwch roi gwybod drwy ffonio 101 neu gysylltu ag adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol. Mae cymorth ar gael drwy linell gymorth Byw Heb Ofn i unrhyw un sydd â phryderon ynglŷn ag unrhyw un a allai fod yn dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol.

Ac yn olaf, rwy'n gofyn i'r cyhoedd beidio â llaesu dwylo. Rydym wedi cynyddu capasiti'r GIG yn sylweddol ac wedi cymryd camau eithriadol i newid y ffordd rydym yn byw ein bywydau. Nid oes amheuaeth fod hynny wedi atal lledaeniad llawer ehangach a mwy ffyrnig o goronafeirws yma yng Nghymru. Mae'r camau rydym i gyd yn eu cymryd yn achub bywydau. Fodd bynnag, mae llawer mwy i bawb ohonom ei wneud am beth amser i ddod.