Part of the debate – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 22 Ebrill 2020.
Prynhawn da, Weinidog. Diolch yn fawr iawn am eich datganiad. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch nid yn unig i'n holl wasanaethau iechyd a'n gwasanaethau cymunedol, ond i bawb sy'n helpu Cymru i geisio rheoli ac ymdopi â'r sefyllfa erchyll hon rydym ynddi. Hoffwn gydymdeimlo hefyd â'r holl bobl sydd wedi colli anwyliaid dros yr wythnosau erchyll diwethaf. Hoffwn gofnodi hefyd fy mod yn ddiolchgar am ein trafodaethau rheolaidd, ac maent wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi allu deall yr hyn sy'n digwydd a gallu craffu ar waith y Llywodraeth.
Gan droi at eich datganiad, rwyf wrth fy modd eich bod yn teimlo bod gwelliant yn cael ei wneud mewn perthynas â chyfarpar diogelu personol a sicrhau ei fod yn y lle iawn, ar yr amser iawn ar gyfer y bobl iawn. A allwch chi gadarnhau, fodd bynnag, faint yn ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei gaffael y tu allan i strategaeth brynu'r pedair gwlad? Rwy'n rhannu'r farn yn llwyr y dylem fod yn rhan o strategaeth brynu'r pedair gwlad. Mae'n amlwg y bydd prinder cyfarpar diogelu personol yn y byd am fisoedd lawer i ddod, ac mae'n gwneud synnwyr i gael y pŵer prynu cyfunol hwnnw, ond wrth gwrs, mae nifer o lwybrau eraill y gallwn fanteisio arnynt. Felly, a ydych mewn sefyllfa i ddweud ychydig mwy wrthym ynglŷn â chaffael cyflenwadau cyfarpar diogelu personol ychwanegol gan ddefnyddio'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a nodwyd gennych yn eich datganiad?
Rwyf hefyd eisiau diolch a chroesawu'r newyddion gwych fod cymaint o gwmnïau o Gymru wedi troi eu llaw at ein helpu yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Nawr, hoffwn droi at y rhan o'ch datganiad sy'n ymwneud â phrofi, Weinidog. Rwy'n pryderu'n fawr am y penderfyniad i roi'r gorau i'r targedau ar gyfer profi. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei gyfraniad ychydig yn gynharach—yn ei ddatganiad—byddwn yn y sefyllfa hon am amser hir, ac rwy'n credu bod hwn yn faes hollbwysig. Ac rwy'n credu y gallwch ddweud ei fod yn faes pwysig am ei fod wedi cael sylw heddiw gan gynifer o bobl eraill. Os ydym eisiau rhoi'r gorau i'r cyfyngiadau symud gan gyfyngu'n helaeth ar y perygl o ail neu drydydd ymchwydd o'r clefyd, rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol inni gael system brofi gref iawn ar waith.
Nodaf eich adolygiad cyflym—mae gennyf gopi ohono yma, rwyf wedi'i ddarllen. A bod yn onest, nid yw'n dweud llawer mwy na'r hyn roeddem i gyd yn ei wybod dros yr wythnosau diwethaf hyn, ond ei bod wedi cymryd amser i'w gynhyrchu. Rwy'n siomedig mai 1,800 prawf y dydd yn unig rydym wedi'i gyrraedd, i lawr o'r 9,000 a addawyd pan ddechreuodd hyn i gyd. Rwy'n croesawu'r platfform archebu ar y we, ond rwyf eisiau ailadrodd fy ngalwad am arweinydd adnabyddadwy a all ddarparu rhaglen brofi i Gymru, nid yn unig heddiw, ond ar gyfer y misoedd sydd i ddod. Rhywun—a thîm—sydd â logisteg, profiad a llwyddiant o ran cyflawni, oherwydd nid yn unig y mae angen profion yn y pwynt gofal a chanolfannau profi rhanbarthol arnom, rydym angen canlyniadau cyflym hefyd. Yng ngorllewin Cymru a gogledd Cymru, rwy'n dal i glywed bod canlyniadau profion yn dod yn ôl yn rhy hwyr. Byddwn yn edrych ar becynnau cartref, bydd angen olrhain cysylltiadau, bydd angen i ni adeiladu meddalwedd, bydd yn rhaid i ni edrych ar y modelu y byddwn angen ei wneud er mwyn ein galluogi i roi'r gorau i'r cyfyngiadau symud, ac mae angen tîm pwrpasol i wneud hynny.
Ychydig ddyddiau'n ôl, fe ddywedoch chi mai profi oedd eich prif flaenoriaeth, y diwrnod wedyn fe ddywedoch chi mai cyfarpar diogelu personol oedd eich prif flaenoriaeth. Rwy'n llwyr gydnabod eich bod yn cael eich tynnu i bob cyfeiriad gyda blaenoriaethau'n cystadlu'n erbyn ei gilydd. Rwy'n erfyn arnoch, Weinidog, i ystyried rhoi'r gwaith hwn i dîm a all ganolbwyntio arno a'i gyflawni, oherwydd bydd yn strategaeth mor hanfodol i ni allu symud ymlaen.
Hoffwn fynd i'r afael â dau faes arall na chafodd eu crybwyll yn eich datganiad er mar ofid i mi. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r ffaith bod ymddiriedolaethau iechyd yn Lloegr, oddeutu tair wythnos yn ôl, wedi cael sicrwydd y gellid dileu eu dyledion presennol er mwyn sicrhau y gallent ganolbwyntio'n llawn ar ymladd COVID-19. Ond yma, nid oes addewid tebyg wedi bod, a sylwais ar yr ymatebion yn y gynhadledd i'r wasg ddoe pan oeddech yn awyddus iawn i ddweud, 'Wel, nid ydym yn gwybod yn iawn pa fath o arian rydym yn ei gael. Nid ydym yn hollol siŵr.' Gallaf fod yn glir—byddwn yn cael cronfa COVID gwerth £2 biliwn eleni; ar ben hynny, mae gennym £1.4 biliwn arall o symiau canlyniadol. Yn eich ateb ysgrifenedig i fy nghwestiwn, sylwais eich bod yn dweud nad ydych yn codi llog ar y ddyled. Yn hollol, ac rydych yn cyfeirio at fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro fel enghraifft o fwrdd iechyd sydd bellach yn rhydd o ddyled, ond gadewch inni fod yn glir iawn, roedd y bwrdd hwnnw'n destun ymyrraeth wedi'i thargedu gan Lywodraeth Cymru am ddwy flynedd a hanner, a chyflawnodd hynny yn y cyfnod cyn-COVID. Rydym mewn sefyllfa wahanol yn awr. Mae gennym fyrddau iechyd sydd mewn dyled rhyngddynt o £100 miliwn i Lywodraeth Cymru, ac maent hwy hefyd yn dal i weithredu ar y rhagdybiaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn talu am yr holl waith y maent yn ei wneud yn awr. A wnewch chi nodi, yn glir iawn, pa gymorth ariannol rydych yn bwriadu ei gynnig i'r byrddau iechyd hyn?
Mae fy set olaf o gwestiynau'n ymwneud â'r data rydym yn ei gasglu ar hyn o bryd. Mae data, wrth gwrs, bob amser yn un o'r pethau y gallwch ei ddehongli mewn llawer iawn o ffyrdd, ac mae gwahanol wledydd yn mesur data mewn ffyrdd gwahanol iawn. Ond rwy'n pryderu bod setiau data diweddar sydd wedi ymddangos yn dangos gwahaniaethau mor enfawr, Weinidog iechyd, rhwng byrddau iechyd o ran nifer y bobl sydd wedi marw yn yr ysbyty, nifer y bobl sydd wedi marw mewn cartrefi gofal, mewn hosbisau, neu hyd yn oed yn eu cartrefi eu hunain. A heb ddeall y data hwnnw'n iawn, nid wyf yn credu y gallwn ddechrau creu darlun sylweddol o sut y mae proses COVID-19 yn gweithio; y math o bobl—pryd, lle, pam, sut—cwestiynau hanfodol i ddeall unrhyw beth cyn y gellir mynd i'r afael o ddifrif â'r hyn sydd wedi digwydd a beth sydd angen inni ei wneud yn y dyfodol. Felly, a wnewch chi adolygu sut rydym yn casglu ein data a sut rydym yn ei ddefnyddio? Felly, un enghraifft gyflym: rydym yn dweud mai tua 10 i 12 o bobl yn unig a fu farw o COVID mewn cartrefi gofal ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan o gymharu â'r bwrdd iechyd cyfagos lle mae'r nifer bron dair gwaith yn uwch. Nawr, efallai eu bod wedi'i ddal mewn cartref gofal, a'u bod wedi cael eu cludo i'r ysbyty, ac mai dyna lle buont farw yn anffodus. Ond mae hwnnw'n ddata pwysig iawn i'w ddeall, oherwydd rydym yn gwybod felly fod y clefyd wedi digwydd yn y cartref gofal mewn gwirionedd a gallwn roi mesurau ar waith yn unol â hynny. Felly, a wnewch chi adolygu hynny, os gwelwch yn dda?
Yn amlwg mae gennyf nifer o gwestiynau, ond gallaf weld y bydd y Llywydd eisiau clywed gan bobl eraill, a hynny'n briodol, ac felly rwyf am roi'r gorau iddi yn y fan honno. Unwaith eto, hoffwn ddiolch yn fawr i chi am y wybodaeth rydych yn ei rhannu'n rheolaidd.