Part of the debate – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 22 Ebrill 2020.
Ie, rwy'n hapus i gadarnhau, ynglŷn â staff sy'n dychwelyd i'r gwasanaeth iechyd, fod dros 10,000 o staff bellach wedi mynd yn ôl ar y gofrestr sydd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, ac mae oddeutu 5 y cant o'r rheini'n staff o Gymru. Mae'n newyddion dda iawn, oherwydd mae hynny ychydig yn fwy na'n cyfran o'r boblogaeth, ac mae'n dangos parodrwydd gwirioneddol gan staff sydd wedi ymddeol yn ddiweddar i fod eisiau dychwelyd. Mae'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, fel y corff rheoleiddio sy'n cadw'r cofnodion, yn ysgrifennu at bobl sydd wedi ymddeol ers mwy o amser i weld a ydynt am ddychwelyd. Mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio'r bobl hynny mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'u sgiliau, ond hefyd i gydnabod y gall fod angen defnyddio rhai ohonynt i ffwrdd o ofal am bobl ar y rheng flaen hefyd, felly rydym yn gwneud defnydd o'u sgiliau heb beryglu eu diogelwch eu hunain.
Ac mae'r un darlun gyda meddygon sy'n dychwelyd hefyd. Mae gan nifer o bobl sydd wedi ymddeol eu cydafiacheddau eu hunain bellach lle mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn eu defnyddio mewn ffordd sy'n gwbl briodol. Byddaf yn gallu rhoi ffigurau dros yr wythnosau nesaf am nifer yr israddedigion sydd wedi derbyn y cynnig i ddychwelyd i'r gwaith a chael eu talu ar amodau'r 'Agenda ar gyfer Newid' a chefnogi'r rhwydwaith sydd gennym. Ac nid oes angen ymestyn hynny i'r graddau y credem y byddai'n rhaid ei wneud hyd yn oed fis yn ôl, oherwydd y ffaith amdani yw nad ydym wedi cael y cynnydd mwy sylweddol yn y nifer a heintiwyd gan y coronafeirws a gynlluniwyd gennym ac y bu'n rhaid paratoi ar eu cyfer. Felly, mae hynny'n newyddion dda—nad ydym wedi gorfod cael yr holl bobl hynny i weithio o fewn ein system. Ond fe fydd yn bwysig wrth inni symud nid yn unig at ailgychwyn rhannau o'n gwasanaeth iechyd gwladol, lle bydd angen inni ddefnyddio'r rhwydwaith hwnnw o ysbytai maes; bydd hefyd yn bwysig o ran ein gallu i ofalu am bobl sydd ag anghenion gofal brys. Ac os gwelwn gynnydd pellach yn y coronafeirws, bydd angen i ni allu galw ar y bobl hynny'n weddol gyflym, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y lefel o hyblygrwydd ac ymrwymiad a ddangoswyd gan yr holl bobl hynny.
O ran defnyddio fideo-gynadledda, rwy'n falch iawn ein bod wedi llwyddo i gyflwyno hyn ledled y wlad. Cafwyd peilot yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan. Felly, cafodd hyn ei dreialu yng Ngwent yn gyntaf a dangoswyd ei fod yn llwyddiannus, ac rydym wedi llwyddo i'w gyflwyno'n llawer mwy cyflym nag y byddem wedi'i wneud fel arfer wrth gyflwyno cynllun yn genedlaethol. Rhan o fy rhwystredigaeth ar adegau arferol yw nad ydym yn gallu symud yn gyflymach ar draws y system. Mae gwir barodrwydd y staff i wneud i bethau ddigwydd ac i gael gwared ar rwystrau wedi bod yn un o'r agweddau gwirioneddol gadarnhaol ar ein hymateb. Mae hynny ar gael yn rhydd ac yn gynhwysfawr mewn gofal sylfaenol mewn ymarfer cyffredinol, ac rydym yn bwriadu ei gyflwyno ymhellach mewn gofal eilaidd hefyd, oherwydd mae gan rai meysydd o'r gwasanaeth hwnnw amrywiaeth o dechnoleg ddigidol a fideo-gynadledda eisoes. Rwyf am weld hynny'n rhan lawer mwy cyson o'r ffordd rydym yn rhedeg ein gwasanaeth. Mae'n angenrheidiol ar gyfer y sefyllfa rydym ynddi, ond wrth gwrs, mae'n fantais wirioneddol ac yn gyfle ar gyfer y dyfodol wrth i ni ddod i arfer â ffyrdd gwahanol o weithio sy'n gwneud gwell defnydd o amser pawb—y cleifion sydd angen gofal, a'n staff sy'n ei ddarparu.