Part of the debate – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 22 Ebrill 2020.
Diolch, Weinidog, am eich datganiad heddiw. Hoffwn, yn gyntaf oll, ofyn i chi a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am nifer y meddygon a'r nyrsys a oedd wedi ymddeol yn flaenorol ac sydd wedi dychwelyd i'r GIG ac efallai unrhyw fyfyrwyr nyrsio a sut y gallant lenwi'r bylchau hynny.
Mae fy ail gwestiwn yn ymwneud â'r cyhoeddiad ynghylch ymgynghoriadau fideo ar-lein gan feddygon teulu. A allwch gadarnhau eu bod ar gael ledled Cymru yn awr, ac a oes unrhyw gynlluniau i ymestyn y rheini i ofal eilaidd?