Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 22 Ebrill 2020.
Felly, ddydd Gwener diwethaf, agorasom y broses ymgeisio ar gyfer y gronfa. Mae cyfradd y ceisiadau yn y dyddiau ers hynny wedi bod yn ddigynsail. Daeth mwy na 6,000 o geisiadau am grant i law o fewn 24 awr i'r lansiad. Erbyn 6 o'r gloch fore heddiw, roedd y gronfa cadernid economaidd wedi cael 5,842 o geisiadau gan ficrofusnesau, cyfanswm o £56.7 miliwn, a 2,267 o geisiadau gan fusnesau bach a chanolig eu maint, cyfanswm o £127.3 miliwn. Mae hynny gyda'i gilydd yn 8,109 o geisiadau, a chyfanswm o £184 miliwn.
Credaf fod y galw hwnnw'n dyst i raddfa'r argyfwng rydym yn ei ganol ar hyn o bryd, a dyna pam roeddwn yn falch ddydd Llun yr wythnos hon i fod wedi ymateb yn gyflym i ryddhau £100 miliwn ychwanegol i gymal cyfredol y gronfa cadernid economaidd. Mae'n werth dweud bod y gwaith hwn yn adeiladu ar y gwerth mwy na £440 miliwn o grantiau ardrethi busnes sydd bellach wedi cyrraedd bron i 35,000 o fusnesau ledled Cymru.
Ddirprwy Lywydd, mae awdurdodau lleol wedi gweithio'n gyflym ac yn ddeheuig i brosesu taliadau ac maent yn gwneud gwaith gwych i drosglwyddo cyllid i fusnesau cyn gynted ag sy'n bosibl. Felly, hoffwn ddiolch i bob un awdurdod lleol sydd wedi chwarae rhan yn y gwaith hwn.
Hoffwn roi teyrnged unwaith eto hefyd i staff Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru, a fy swyddogion, sydd wedi gweithio'n ddiflino, yn aml mewn amgylchiadau personol anodd, i ddatblygu'r pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr i fusnesau yn unrhyw ran o'r DU.
Rydym wedi ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng cefnogi cymaint o fentrau â phosibl a gwneud cyfraniad ystyrlon i oroesiad pob un. Ond wrth wneud hynny, nid ydym yn colli golwg ar ein huchelgeisiau mwy hirdymor: yr angen i ddatgarboneiddio economi Cymru, yr angen i gynyddu gwaith teg a'r angen i godi lefelau sgiliau unigolion ledled Cymru. A dyna pam rydym wedi gofyn i bob un sy'n derbyn ein cymorth ymrwymo i egwyddorion y contract economaidd.
Bydd y gronfa a'r meini prawf yn cael eu hadolygu cyn rhyddhau'r cymal nesaf. Yn ogystal, hoffwn groesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd gyda'r cynllun cadw swyddi sydd bellach ar agor, ac rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod y cynllun wedi'i ymestyn tan ddiwedd mis Mehefin fan lleiaf.
Ddydd Llun, cyhoeddodd Llywodraeth y DU becyn cymorth i gwmnïau arloesol newydd nad ydynt yn gymwys ar gyfer cynlluniau achub coronafeirws sy'n bodoli eisoes. I fod yn gymwys, mae'n rhaid bod cwmni wedi codi £0.25 miliwn neu fwy yn breifat yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae'n bwysig, rwy'n credu, fod Llywodraeth y DU yn monitro cynnydd y cynllun i sicrhau nad yw'r trothwy hwn yn atal busnesau bywiog a hyfyw rhag cael cymorth.
Yng Nghymru, bydd busnesau newydd a sefydlwyd cyn 1 Mawrth eleni yn gallu gwneud cais i'r gronfa cadernid economaidd os ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, wrth gwrs. Mae'r pecyn hwn yn cyd-fynd â'r pecyn cymorth hirsefydlog a safonol ar gyfer busnesau bach o'r cyfnod cyn COVID sydd ar gael trwy Fanc Datblygu Cymru ac wrth gwrs, benthyciadau dechrau busnes a chyngor cynhwysfawr Busnes Cymru.
Felly, er bod llawer wedi'i wneud, dylwn ddweud hefyd fod llawer i'w wneud eto. Mae angen taer i weld mwy o'r benthyca a addawyd ac a warentir gan Lywodraeth y DU yn cyrraedd y rheng flaen. Rhaid i Lywodraeth y DU barhau i gefnogi a phwyso ar fanciau'r stryd fawr i fod yn llawer mwy ymatebol i anghenion ein busnesau ar yr adeg hynod anodd hon. Credaf fod llawer y gallai banciau'r stryd fawr ei ddysgu gan ein Banc Datblygu Cymru ein hunain yn y ffordd y mae wedi addasu i'r cyfnod rydym yn ei ganol ar hyn o bryd—sicrhau ei fod wedi addasu ei bolisïau a'i brosesau ei hun i gael cyllid a chymorth i fusnesau yn ddi-oed.
Felly, Ddirprwy Lywydd, rydym i gyd yn hynod o falch o fusnesau ar hyd a lled Cymru—busnesau sy'n camu i'r adwy i gefnogi'r frwydr yn erbyn COVID ac i gynorthwyo ein GIG. Cafwyd ymateb hynod gadarnhaol gan y gymuned fusnes i'n galwad i weithredu ar gyfarpar diogelu personol. Yn sil hynny, rydym yn awr yn gweld ffyrdd arloesol o weithio wrth i fusnesau newid i greu dyfeisiau a chynnyrch a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'n staff iechyd a gofal cymdeithasol.
Serch hynny, mae angen cymorth ar y gweithwyr sydd ar hyn o bryd ar ffyrlo neu'n ddi-waith. Dyna pam y gwneuthum lansio ein darpariaeth e-ddysgu newydd ddydd Llun gyda'r nod o wella sgiliau a chefnogi llesiant meddyliol trwy helpu unigolion i baratoi'n gadarnhaol ar gyfer y dyfodol, beth bynnag a ddaw. Drwy ein cynnig newydd, rydym wedi darparu ystod o adnoddau dysgu ar-lein o ansawdd uchel am ddim gan ddarparwyr dibynadwy fel y Brifysgol Agored. Cefnogir y ddarpariaeth hon gan gyngor a chanllawiau gyrfaoedd ar-lein sydd ar gael i'w defnyddio gan unigolion ledled Cymru trwy wefan Cymru'n Gweithio.
Edrychaf ymlaen yn awr at ateb cwestiynau gan fy nghyd-Aelodau.