Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 22 Ebrill 2020.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i'r Aelodau ar draws y Siambr am y trafodaethau cadarnhaol a gefais gyda chyd-Aelodau o bob plaid yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae rhai syniadau adeiladol iawn wedi codi o'r trafodaethau hynny, ac rydym wedi defnyddio llawer ohonynt i lunio'r cymorth rydym bellach yn ei roi i fusnesau ledled Cymru, ac i unigolion hefyd. Felly, rwyf am i'r Aelodau wybod pa mor ddiolchgar ydwyf am y cyngor a'r cyfarwyddyd hwnnw.
Nawr, nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â maint yr her economaidd sydd o'n blaenau. Mae senario cyfeirio'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dynodi y bydd cynnyrch domestig gros y DU yn gostwng 35 y cant yn ystod ail chwarter y flwyddyn hon. Felly nid oes modd osgoi dirwasgiad, ond os ydym am osgoi dirwasgiad mawr, mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraethau ledled y DU yn gwneud popeth yn eu gallu i roi cysgod i fusnesau drwy'r storm, a diogelu gweithwyr rhag bygythiad gwirioneddol o golli swyddi.
Nawr, fel Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan yn y gwaith hwnnw. Dyna pam ein bod wedi ailedrych ar ein cyllidebau ac wedi gwneud penderfyniadau anodd ar draws y Llywodraeth i sefydlu cronfa cadernid economaidd newydd gwerth £0.5 biliwn. Mae ein cronfa yn darparu cymorth ariannol sylweddol sy'n ychwanegol at yr hyn a ddarperir gan Lywodraeth y DU. Mae'n cynnig cymorth hanfodol i fusnesau, yn enwedig y cwmnïau bach a chanolig eu maint sydd mor hanfodol i economi Cymru, ac nid yw hynny ar gael i gwmnïau yn Lloegr. Rydym wedi gwneud hyn oherwydd ein bod yn awyddus i gynorthwyo busnesau da yn 2019 i fod yn fusnesau da yn 2021. Rydym am gefnogi pobl a oedd â swydd dda yn 2019 i fod â swydd dda yn 2021.