4. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ymateb Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 22 Ebrill 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:40, 22 Ebrill 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Nick Ramsay am ei gwestiynau? Trof at gwestiynau'r economi yn gyntaf, ac o ran yr ymholiadau y mae wedi'u cael gan gwmni chwarae meddal, rwyf wedi cael nifer anhygoel o ymholiadau gan fusnesau chwarae meddal sydd mewn sefyllfa debyg. Mae'n wir nad ydynt wedi eu categoreiddio fel hamdden na manwerthu na lletygarwch, ac felly nid oeddent yn gallu elwa o'r rownd gychwynnol o gymorth. Roeddem yn ymwybodol o hyn pan ddatblygwyd y gronfa cadernid economaidd, ac at ei gilydd, mae busnesau chwarae meddal yn ficrofusnesau neu'n fentrau bach neu ganolig. Mae nifer enfawr ohonynt yn cyflogi naw o bobl neu lai, felly cânt eu categoreiddio fel microfusnesau. Mae'r rhan fwyaf wedi'u cofrestru ar gyfer TAW. Maent wedi dioddef gostyngiad o 40 y cant neu fwy at ei gilydd, ac felly maent yn gymwys, rwy'n credu, ar gyfer elfen ficrofusnesau'r gronfa cadernid economaidd. Yn sicr, dyna lle rydym wedi bod yn cyfeirio busnesau chwarae meddal i gael cymorth priodol, ac mae'r manylion hynny ar gael ar wefan Busnes Cymru.

Awn ar drywydd y cwestiwn olaf a ofynnoch chi ynglŷn â'r economi a sut y gallem gefnogi pobl sydd wedi bod yn weithredol ers tair blynedd, ond y mae eu perfformiad o ran proffidioldeb wedi amrywio'n eithaf sylweddol dros y tair blynedd hynny. Fe ofynnaf i swyddogion fynd ar drywydd hynny.

O ran trafnidiaeth wrth gwrs, rydym wedi darparu'r gronfa galedi ar gyfer y diwydiant bysiau. Ar ôl inni gyhoeddi hynny, gwnaeth Llywodraeth y DU gyhoeddiad a oedd, yn y bôn, yn sicrhau bod yr Alban, Cymru a Lloegr yn cynnig yr un faint o gymorth i weithredwyr bysiau yn ystod y cyfnod hwn. Ond yn amlwg, fel y gallwch ddychmygu, rydym yn awr yn ystyried sut i gefnogi bysiau wrth i ni ymadfer wedi'r coronafeirws, sut rydym yn sicrhau, fel rydych wedi nodi, y gellir parhau i gadw pellter cymdeithasol ar wasanaethau bysiau a pha fath o gymorth y byddai ei angen ar y sector i allu cynnal hynny, gyda'r canlyniad anorfod sydd iddo o ran yr ergyd i dderbyniadau, yn enwedig ar y llwybrau sy'n hyfyw yn fasnachol. Mae hynny'n rhywbeth rydym wrthi'n ei ystyried yn awr. Cefais alwad gynadledda gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arweinwyr trafnidiaeth a'r economi y bore yma, ac fe nodais nifer o ffrydiau gwaith sy'n digwydd ar hyn o bryd, ac mae'n fwriad gennyf weithio gyda phartneriaid mewn awdurdodau lleol a chyrff fel y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr i sicrhau ein bod yn cael y cymorth priodol i'r diwydiant yn y dyfodol a'n bod yn datblygu model ar gyfer gwasanaethau bws lleol sy'n addas ar gyfer y dyfodol hefyd, o ystyried y byddwn yn debygol o weld newid mewn ymddygiad am y 12 mis nesaf o leiaf, os nad 24 mis, a allai, ac a fyddai'n debygol o arwain at lai o ddefnydd o wasanaethau bysiau. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid inni sicrhau ein bod yn cyflwyno rhai o'r syniadau radical a gyhoeddwyd gennym yn y Papur Gwyn, er mwyn inni allu mynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n ymwneud â chanfyddiad o'r gwasanaethau bysiau er mwyn ceisio cynyddu defnydd ymysg cwsmeriaid newydd, teithwyr newydd, wrth i rai o'r teithwyr presennol benderfynu peidio â defnyddio bysiau oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd gyda'r coronafeirws, oherwydd eu bod yn ofni mynd yn rhy agos at deithwyr eraill.

Mae rhai safonau ymarfer gorau wedi'u datblygu yn y diwydiant—er enghraifft, ynysu seddi fel nad oes neb yn eistedd yn agos at ei gilydd, fel bod pobl yn cael eu cadw draw oddi wrth yrwyr bysiau. Rwyf wedi clywed bod cwmnïau bysiau eu hunain ar y cyfan wedi mynd ati'n gyfrifol iawn i sicrhau bod gyrwyr yn cael rhywfaint o amddiffyniad ar ffurf glanhawyr dwylo ac yn y blaen. Ond yn yr un modd, clywais am un neu ddau o achosion lle nad yw cyflogwyr wedi bod mor gyfrifol ag y byddai'r diwydiant, a ninnau yn sicr, yn ei ddisgwyl. Mae hyn yn rhywbeth a godwyd yn uniongyrchol gyda hwy.

Rydym mewn cysylltiad agos iawn, fel y gallwch ddychmygu, gyda Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â'r modd rydym yn mynd i sicrhau ein bod yn gallu cynnal rheolau cadw pellter cymdeithasol ar ôl i ni ddechrau ymadfer wedi'r coronafeirws. Yn amlwg, bydd hynny'n cael effaith o ran darparu cerbydau ar y rheilffyrdd mwyaf poblogaidd—y rheilffyrdd hynny lle mae'r capasiti eisoes wedi'i gyrraedd. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei ystyried ar hyn o bryd. Unwaith eto, ar sail y dystiolaeth rydym wedi gallu ei chasglu, rydym yn disgwyl y bydd newid mewn ymddygiad yn arwain, yn y tymor byr o leiaf, at ostyngiad yn nifer y cwsmeriaid sy'n defnyddio ein rheilffyrdd, ac rydym yn gweithio gyda gwasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru i asesu sut y bydd hynny'n effeithio ar y cytundeb a wnaed ychydig flynyddoedd yn ôl ar y fasnachfraint.

Credaf fod hynny'n ymdrin â phopeth bron, ar wahân i'r pwynt pwysig a gododd Nick Ramsay ynglŷn â gyrwyr, a'r modd y mae'r sector preifat hefyd yn sicrhau bod gweithwyr yn cael yr amddiffyniad y maent ei angen. Unwaith eto, mae safonau amrywiol—er yn anecdotaidd—yn cael eu mabwysiadu gan gwmnïau dosbarthu. Rwy'n awyddus i sicrhau, wrth i ni ailgychwyn yr economi ac yna wrth i ni ymadfer wedi'r coronafeirws, ein bod yn datblygu—a byddaf yn awyddus iawn i sicrhau bod y sectorau eu hunain yn arwain ar hyn—yn datblygu protocolau clir y gellir eu cymhwyso'n gyson, os oes modd, ledled y DU, a fydd yn hwyluso ymagwedd gyson o fewn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, fel y gellir cymhwyso safonau cadw pellter cymdeithasol yn y sector cyhoeddus ar gyfer trafnidiaeth i'r math o safonau y byddai angen eu bodloni ar gyfer ac ar ran a chan yrwyr dosbarthu yn ogystal.