Part of the debate – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 29 Ebrill 2020.
A gaf i ofyn am gyfarpar diogelu personol? A wnewch chi gyhoeddi cyngor meddygol ffurfiol gan y prif swyddog meddygol ar y defnydd o gyfarpar diogelu, cyfarpar diogelu'r wyneb, gan y cyhoedd? Ac a wnaethoch chi weithredu ar argymhellion y Grŵp Cynghori ar Fygythiadau Feirws Anadlol Newydd a Datblygol, is-bwyllgor y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar gyfer Argyfyngau, pan gynigiodd y dylid ychwanegu feisorau wyneb a gogls llygaid at y stoc pandemig yn 2016, a phan wnaeth yr un peth o ran gynau llawfeddygol ym mis Mehefin y llynedd?