3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 29 Ebrill 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:55, 29 Ebrill 2020

(Cyfieithwyd)

Mae hyn yn amlwg yn gymhleth, ond y prif flaenoriaethau yw lleihau niwed a phennu lle mae angen gofal mewn hyn a hyn o amser. Ceir atebion arloesol a byddant yn parhau i gael eu canfod, gan gynnwys darparu'r atebion hynny yn ddigidol a chyda TG, yn ogystal ag ystyried atebion rhanbarthol, er enghraifft ar gyfer trin canser. Fodd bynnag, mae angen o hyd i gydbwyso risg a manteision cael triniaeth ar hyn o bryd, gan gynnwys, fel y dywedais, er enghraifft, pobl â chanser. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen ei benderfynu i raddau helaeth yn unigol rhwng y claf a'r clinigwr sy'n ei drin.

Rydym yn ymwybodol iawn, ac yn pryderu, fel yr wyf wedi mynegi o'r blaen, ynghylch gostyngiad yn y defnydd o wasanaethau gofal brys a gwasanaethau brys. Mae yna berygl gwirioneddol o niwed i bobl a allai fod â salwch difrifol ond nad ydynt yn ffonio 999 nac yn dod i adrannau achosion brys fel y dylent, neu yn wir yn cael gofal brys wedi'i drefnu.

Hyd yn hyn, ym mis Ebrill 2020, rydym ni wedi gweld gostyngiad o 29 y cant mewn ambiwlansys yn cludo cleifion i'r ysbyty o gymharu â'r un cyfnod ym mis Ebrill 2019. Mae nifer cyfartalog beunyddiol y cleifion sy'n dod i'n hadrannau achosion brys wedi gostwng 50 y cant, a'r derbyniadau brys i'r ysbyty 35 y cant yn llai ym mis Ebrill o gymharu â mis Chwefror eleni, cyn i COVID-19 daro Cymru. Mae clinigwyr yn ein hadrannau achosion brys yn dweud bod cynnydd yn nifer y bobl sy'n bryderus neu yn drallodus eu hysbryd ar ôl cyrraedd yr ysbytai, a phobl a ddaw yn hwyrach nag y dylent yn dangos cymhlethdodau iechyd ychwanegol.

Felly, rwy'n annog pobl sy'n ddifrifol wael ac y mae arnyn nhw angen cyngor neu driniaeth frys i ddefnyddio gwasanaethau GIG Cymru, oherwydd mae ein clinigwyr a'n gweithwyr iechyd proffesiynol yn dal yno i chi. Dylai pobl sy'n pryderu ynghylch mynd i adrannau achosion brys fod yn dawel eu meddwl y cânt eu sgrinio wrth gyrraedd, ac y cânt hefyd eu gwahanu oddi wrth unrhyw gleifion sydd â symptomau COVID-19. Erbyn hyn mae protocolau a llwybrau sefydledig ar draws y system gofal brys ac argyfwng i sicrhau'r diogelwch mwyaf a chyfyngu lledaeniad y feirws.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn nodi bod angen datblygu trefn ar gyfer ailgyflwyno gwasanaethau yn raddol a fesul cam. Bydd hyn yn ystyriaeth bwysig arall er mwyn llywio cynlluniau adfer lleol a chenedlaethol. Bydd angen i unrhyw gynlluniau o'r fath sicrhau y gallwn ni ailgyflwyno capasiti ymchwydd yn hyblyg ac yn gyflym, yn ogystal â chynnal gwasanaethau hanfodol os ceir uchafbwynt pellach yn nhrosglwyddiad y feirws. Yn ddealladwy, mae'r rhain yn sefyllfaoedd anodd i gynllunio ar eu cyfer, ac rwyf eisiau diolch eto i staff y GIG a'r rhai sy'n gweithio mewn sefydliadau partner sy'n parhau i ymateb i her eithriadol y digwyddiad hwn na welwyd ei debyg ers canrif.

Mae cyfarpar diogelu personol yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i mi er mwyn cadw ein staff yn ddiogel ym mhob rhan o'r maes iechyd a gofal cymdeithasol. Gallaf gadarnhau ein bod wedi dosbarthu dros 60 miliwn o eitemau cyfarpar diogelu personol o 9 Mawrth tan 26 Ebrill at ddefnydd staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, gyda dros 12 miliwn o eitemau wedi'u darparu at ddefnydd staff rheng flaen yn benodol mewn lleoliadau gofal cymdeithasol. Y penwythnos diwethaf, cawsom fygydau o Tsieina i storfeydd cydwasanaethau'r GIG. Mae cyfarpar diogelu personol sydd i'w ddefnyddio mewn cartrefi gofal a lleoliadau gofal cymdeithasol yn cael eu rheoli gan y gwasanaethau cymdeithasol lleol sy'n adnabod eu hardal ddaearyddol eu hunain ac sy'n gallu cydlynu'r broses o flaenoriaethu dosbarthu. Ddoe, fel y gwyddom ni ac o'r lluniau a welsom ni, cyrhaeddodd cyflenwadau hanfodol o gyfarpar diogelu personol ar gyfer ein gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen yng Nghymru Faes Awyr Caerdydd. Roedd yr awyren i Gymru yn cario 200,000 o ynau atal hylif o Cambodia. Yn gyfan gwbl, yr wythnos hon, rydym yn disgwyl y bydd 660,000 o ynau yn cyrraedd Maes Awyr Caerdydd, o Phnom Penh yn Cambodia ddoe, ac ar ehediad diweddarach yr ydym yn disgwyl yn ddiweddarach yr wythnos hon o Hangzhou yn Tsieina.

Yn ogystal â chymryd y mentrau hyn o ran caffael cyfarpar diogelu personol i Gymru, rydym yn parhau i weithio'n agos gyda gwledydd eraill y DU drwy drefniadau cymorth ar y cyd ac i sicrhau y gellir cael cyfran deg o gyfarpar diogelu personol i'r DU gyfan.

O ran profi, bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod profion ar gael yn awr hefyd i weithwyr hanfodol ac aelodau o'u teulu os oes amheuaeth bod ganddyn nhw COVID-19. Mae modd cynnal mwy na 2,000 o brofion y dydd erbyn hyn, ond rydym yn gweithio'n galed i gynyddu'r nifer hwnnw ac i sicrhau y manteisir ar yr holl brofion sydd ar gael cyn belled â phosib.

Er mwyn parhau i ehangu ein rhaglen brofi, rydym yn agor canolfannau profi lle gellir cynnal profion lluosog ar bobl yn eu cerbydau, yn ogystal â chanolfannau Caerdydd a Chasnewydd a'r canolfannau profi cymunedol sydd eisoes ar waith. Felly, yr wythnos hon, o heddiw ymlaen, mae mwy o ganolfannau profi yn Llandudno, ac o yfory ymlaen rydym ni'n disgwyl i ganolfan Caerfyrddin fod ar agor. Bydd canolfan arall ar agor yn fuan, ac mae hynny'n debygol o fod yn ardal Merthyr, ac rydym ni hefyd yn ystyried sut y gallwn ni gynyddu capasiti yng Ngheredigion, Sir Benfro a Phowys. Mae ein dull yn cynnwys model prif ganolfan a lloerennau gydag unedau symudol ar waith i roi mwy o hyblygrwydd a gwasanaethu mwy o ardaloedd.

Nawr, fel yr wyf wedi'i wneud yn glir ar sawl achlysur, mae staff cartrefi gofal a thrigolion wedi bod yn flaenoriaeth i ni erioed, ac rydym ni eisoes wedi ehangu'r profion yn y sector cartrefi gofal. Rwyf eisiau bod yn siŵr ein bod yn gwneud popeth sydd angen ei wneud i gadw staff a phreswylwyr yn ddiogel. Felly, i'r perwyl hwnnw, yr wythnos diwethaf, fe wnaethom ni gyhoeddi y byddwn yn profi'r rheini sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty i gartrefi gofal, p'un a oes ganddyn nhw symptomau ai peidio, gan amddiffyn ein pobl fwyaf agored i niwed ymhellach, ac, yn hollbwysig, gan roi ffydd i'r sector cartrefi gofal i ganiatáu rhyddhau pobl o ysbytai pan nad dyna'r lle priodol bellach i roi gofal a thriniaeth i bobl. 

Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i fonitro ac ymateb i nifer yr achosion o'r coronafeirws mewn cartrefi gofal a byddwn yn adolygu'r canllawiau i gartrefi gofal ymhellach yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf. Nawr, wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o gynlluniau'r DU a gyhoeddwyd neithiwr i ehangu'r profion mewn amrywiaeth o feysydd. Fel yr wyf wedi dweud ar sawl achlysur, byddwn yn parhau i ehangu nifer y profion sydd ar gael ac i gadw golwg ar ein strategaeth brofion yn seiliedig ar y dystiolaeth. Rwyf wedi ymrwymo i ddarparu rhagor o ddiweddariadau yn rheolaidd.

Yn anffodus, rydym yn dal i weld marwolaethau bob dydd. Mae pob un yn golled drist i deuluoedd, ffrindiau a chymunedau y mae hyn yn effeithio arnynt. Mae deall a chydnabod niferoedd y bobl sy'n marw yn bwysig i bob un ohonom ni, gan gynnwys Gweinidogion. Ddoe, cyhoeddwyd adroddiad gennym ni yn dilyn canfod nifer sylweddol o farwolaethau ar 23 Ebrill na roddwyd gwybod i Iechyd Cyhoeddus Cymru amdanynt. Mae'r camau gweithredu a grybwyllwyd yn yr adroddiad a gyhoeddais ddoe eisoes wedi'u rhoi ar waith, ac, wrth gwrs, cawsant eu trafod yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog yn gynharach.

Ddoe, safodd llawer ohonom mewn tawelwch am funud i gofio am weithwyr sydd wedi colli eu bywydau i'r coronafeirws neu ddamweiniau neu afiechyd yn gysylltiedig â'u gwaith. Ddydd Llun, cyhoeddais y bydd gan deuluoedd GIG Cymru a gweithwyr gofal cymdeithasol sy'n marw wrth eu gwaith o ganlyniad i COVID-19 yr hawl i gael cymorth ariannol gyda thaliad o £60,000. Mae hynny'n ychwanegol at unrhyw drefniadau pensiwn eraill sy'n bodoli eisoes. Rwy'n gwybod fod ein gweithwyr rheng flaen yn mynd uwchlaw a thu hwnt i ofalu am gleifion sy'n agored i niwed bob dydd, ac mae'r cynllun hwn yn rhoi cydnabyddiaeth gyfartal i staff ar draws y maes iechyd, gofal cymdeithasol a fferylliaeth gymunedol. Mae'n darparu rhwyd achub ar gyfer staff cymwys sydd wedi darparu gwasanaethau rheng flaen ac na fyddant efallai, o bosib, wedi bod yn gymwys i ymuno â'r cynllun pensiwn neu wedi penderfynu peidio â gwneud oherwydd fforddiadwyedd, ond hefyd i'r rhai sydd eisoes mewn cynllun pensiwn. Gobeithio y bydd hyn o ryw gymorth yn ystod cyfnod anodd, er fy mod, wrth gwrs, yn cydnabod nad yw cyfandaliad yn cydnabod colli bywyd.

Byddaf yn gwneud datganiad llafar yn rheolaidd er mwyn rhoi sicrwydd i aelodau am y mesurau a weithredir ledled y system iechyd a gofal i fynd i'r afael â COVID-19, felly yn ogystal â'r craffu gan y pwyllgor, sy'n ailgychwyn, bydd cyfle rheolaidd, nid yn unig i gael gwybodaeth, ond i fy holi. Rwy'n parhau i annog pobl ym mhobman i ddilyn y canllawiau, i aros gartref, i aros yn ddiogel, i helpu i warchod ein GIG, ac i achub bywydau.