Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 29 Ebrill 2020.
Fe wnaf i ddechrau gyda dau gwestiwn byr ynglŷn â pheiriannau anadlu ac ocsigen. Mae'r Gweinidog wedi cadarnhau, o'r 461 o beiriannau anadlu mewnwthiol a oedd fod i ddod i Gymru o dan drefniadau'r DU, fod 46 wedi'u danfon. Ar 9 Ebrill, codais bryder gyda'r Gweinidog a'r Prif Weinidog—a ddygwyd i'm sylw gan feddygon, dylwn ddweud—fod peiriannau anadlu a glustnodwyd ar gyfer Cymru wedi mynd i ysbytai maes yn Lloegr. Nawr, dywedwyd wrthyf nad yw hynny'n wir o gwbl. Rwy'n gwybod nawr y dywedir wrthym ni nawr nad oes angen y peiriannau anadlu hynny arnom ni, ond a all y Gweinidog ddweud wrthym ni i ble'r aeth yr holl beiriannau anadlu hynny a oedd fod i ddod i Gymru? Yn ail, ysgrifennais yn gyntaf at y Gweinidog ar 28 Mawrth yn dadlau o blaid rhoi ocsigen yn gynharach i gleifion oedd â COVID-19 arnyn nhw, yn hytrach na dilyn y protocolau sy'n dal i fod ar waith, sydd yn y bôn yn gofyn i bobl aros nes eu bod yn sâl iawn cyn mynd i ysbyty, ac i lawer mae eisoes yn rhy hwyr bryd hynny, ac mae tystiolaeth ryngwladol yn eithaf cadarn y gall ymyrryd yn gynnar achub bywyd. A wnaiff y Gweinidog ofyn am adolygiad brys o faint o gleifion, yn anffodus, a gollodd eu bywydau hyd yma yng Nghymru, a gafodd gynnig ymyrraeth gynnar, fel y gallwn ni geisio dysgu oddi wrth hynny a helpu cleifion yn y dyfodol?