3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 29 Ebrill 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 3:48, 29 Ebrill 2020

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, mae data SYG yn awgrymu bod nifer y marwolaethau yn sgil COVID-19 mewn cartrefi gofal gryn dipyn yn uwch na'r hyn a gofnodir, ac rwyf wedi edrych ar ddata Aneurin Bevan ac mae'n dangos bod cynnydd yn nifer y marwolaethau o ganlyniad i farwolaethau nad ydynt yn farwolaethau COVID-19 mewn cartrefi gofal eleni. Nawr, nid dyna'r hyn y byddem yn ei ddisgwyl wrth symud o'r gaeaf i'r gwanwyn. Mae'n rhaid mai'r unig esboniad rhesymol am hynny yw na chofnodir pob marwolaeth fel rhai COVID-19 ar dystysgrifau marwolaeth.

Nawr, yn ogystal â hyn, rwyf wedi siarad â nifer o reolwyr cartrefi gofal sydd wedi dweud wrthyf fod diffyg profion yn arwain at achosion y gellir eu hosgoi mewn cartrefi gofal, a hyn ar adeg pan fydd profion ar gael i breswylwyr a staff mewn cartrefi gofal yn Lloegr ond nid yng Nghymru. Wrth edrych ar hyn i gyd, Gweinidog, a oes gennych gywilydd eich bod wedi dweud y bore yma nad darparu profion i breswylwyr a staff cartrefi gofal fyddai'r ffordd orau o ddefnyddio adnoddau?