Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 29 Ebrill 2020.
Ymddiheuriadau, Dirprwy Lywydd, nid oeddwn yn gallu cael y sain yn ôl ar fy meicroffon. Rwy'n gobeithio ei fod yn gweithio nawr.
Mae pandemig y coronafeirws yn effeithio ar fywydau pob un ohonom. Mae llawer iawn o waith wedi ei wneud ar draws Llywodraeth Cymru ac o fewn ein gwasanaethau cyhoeddus mewn cyfnod byr iawn i ymateb i'r pandemig. Fy nod i y prynhawn yma yw rhoi adroddiad i'r Aelodau am y datblygiadau diweddar a mwyaf sylweddol yn y portffolio tai a llywodraeth leol.
Yn gyntaf, hoffwn i fynegi fy niolch diffuant i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac i awdurdodau lleol ledled Cymru sydd wedi gweithio mor ddiwyd ac wedi ymateb mor gyflym wrth geisio mynd i'r afael â'r sefyllfa. Soniodd arweinwyr llywodraeth leol wrthyf i ar y dechrau am yr angen i gefnogi llif arian awdurdodau lleol fel na fyddai unrhyw oedi o ran gwneud penderfyniadau a gwario ar frys. Felly, rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu dwyn ymlaen daliadau setliad mis Mai a mis Mehefin i fis Ebrill i'w cefnogi. Darparodd hyn flaendal o £526 miliwn ar draws llywodraeth leol. Rwyf hefyd yn ystyried gwaith a wnaed gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i fesur y costau ychwanegol a'r golled incwm yn sgil y pandemig. Fe wnaethom ni ddarparu cyllid i awdurdodau lleol er mwyn iddyn nhw allu defnyddio'r rhyddhad ardrethi a dyrannu'r grantiau cymorth busnes a gyhoeddwyd ddiwedd mis Mawrth. Maen nhw wedi gweithio'n eithriadol o ddiwyd i'w dosbarthu mewn modd mor effeithlon—diolch yn fawr iawn iddyn nhw am hynny i gyd.
Mae un ffrwd cyllid frys wedi'i sefydlu ar gyfer awdurdodau lleol er mwyn helpu i ymdrin â'r pwysau sy'n deillio o COVID-19. Darparodd Llywodraeth Cymru £30 miliwn ar gyfer hyn yn y lle cyntaf. Roedd hyn yn cynnwys hyd at £7 miliwn i ddarparu cymorth ariannol ar frys i deuluoedd disgyblion sy'n dibynnu ar brydau ysgol am ddim ond nad oedden nhw'n gallu eu derbyn oherwydd bod ysgolion wedi cau. Yr oedd hefyd yn cynnwys £10 miliwn i sicrhau, gyda'u partneriaid yn y trydydd sector, y gall awdurdodau lleol roi trefniadau brys ac angenrheidiol ar waith i ddiogelu'r rhai sy'n cysgu ar y stryd. Mae hyn wedi ei ategu ers hynny i ddarparu £40 miliwn arall i gefnogi'r gwaith o ddarparu gofal cymdeithasol a £33 miliwn arall i ymestyn y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim.
Mae'r pandemig COVID-19 wedi cyflwyno her sylweddol i ailgylchu, casglu a phrosesu gwastraff yng Nghymru. Rwy'n falch iawn bod ein hawdurdodau lleol, yn ystod y cyfnod anodd hwn, wedi parhau i weithredu eu gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu ac mai mân newidiadau dros dro yn unig y mae'r mwyafrif helaeth wedi eu gwneud. Mae hyn yn adlewyrchu ein gwaith dros yr 20 mlynedd diwethaf i ddatblygu cyfundrefnau casglu cadarn o ansawdd uchel. Mae gennym ni nod ar gyfer Cymru gydnerth ac mae gennym ni gyfle i ddysgu gwersi a gweithio i gefnogi gwell cydnerthedd yn y dyfodol.
Un o'n prif flaenoriaethau yn y Llywodraeth erioed fu gweithio i atal a rhoi terfyn ar ddigartrefedd o bob math. Yn gywir ddigon, mae pa mor agored i niwed y mae'r rhai sy'n cysgu ar y stryd wedi gorfod bod yn bwyslais ar gyfer gweithredu yn ystod yr argyfwng hwn. Hoffwn ddiolch i dimau tai a digartrefedd awdurdodau lleol, ynghyd â Cartrefi Cymunedol Cymru, Cymorth Cymru, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a phartneriaid eraill yn y trydydd sector sydd wedi bod yn canolbwyntio ar helpu pobl i gael llety. Mae hyn yn golygu eu bod wedi gallu hunanynysu, cael mynediad at gyfleusterau golchi dwylo a hylendid, a chadw at reolau cadw pellter cymdeithasol.
Rwyf wedi fy nghalonogi gan yr arfer cydweithredol ac arloesol sy'n mynd rhagddo er gwaethaf yr amgylchedd heriol y mae pobl yn gweithio ynddo. Roeddwn yn glir o'r cychwyn fod hyn yn ymwneud â mwy na lleoli pobl mewn llety a'u gadael i ofalu amdanynt eu hunain. Mae'n rhaid i ddarparu llety'n gynnwys cymorth cynhwysfawr i alluogi pobl i'w gynnal. Fe wnaethom ni gyflwyno canllawiau clir ar y dull gweithredu y dylai awdurdodau lleol ei ddilyn, gan ddarparu £10 miliwn ychwanegol i'w galluogi i wneud hynny.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae 500 o bobl wedi cael cymorth i gael llety, ac mae'r niferoedd sy'n cysgu ar y stryd mewn digidau sengl ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae awdurdodau lleol a'u partneriaid yn parhau i gefnogi'r ychydig o bobl hynny sy'n dal i gysgu ar y stryd. Rydym ni hefyd wedi bod yn gweithio i weld sut y gall ein prosiectau Tai yn Gyntaf gynorthwyo'r unigolion hyn.
Ni ddylai neb fod heb lety a chefnogaeth yn ystod yr argyfwng hwn. Mae hyn yn cynnwys y rhai nad oes ganddyn nhw fynediad at arian cyhoeddus a'r rhai sy'n gadael sefydliadau, fel carchardai. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi, awdurdodau lleol a chydweithwyr ym maes iechyd i sicrhau bod y carcharorion a allai gael eu rhyddhau yn gynnar neu eu rhyddhau yn safonol o'r carchar, yn cael eu cynorthwyo i gael llety.
Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio'n uniongyrchol gyda nifer o awdurdodau lleol i helpu i sicrhau mwy o lety. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid ehangach i ystyried y strategaeth ymadael o'r argyfwng presennol hwn. Mae'r gwaith a wnaed yn ddiweddar gan y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd yn rhoi glasbrint i ni ar gyfer sut i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru, a bydd hyn yn hanfodol o ran llywio'r dull gweithredu ar gyfer ein strategaeth ymadael. Gadewch i mi fod yn glir: ni allwn ni fynd yn ôl. Mae gennym ni gyfle i ymgysylltu ag unigolion nad ydyn nhw erioed wedi bod mewn gwasanaethau o'r blaen. Gall y cymorth sy'n cael ei gynnig yn awr ddarparu'r sylfaen i ailadeiladu bywydau ar ôl i'r argyfwng hwn ddod i ben.
Er bod ymdrechion wedi eu canolbwyntio yn y meysydd hyn, a hynny'n gwbl briodol, mae fy swyddogion yn ymwneud yn helaeth â nifer o faterion. Er enghraifft, rydym eisoes wedi cymryd camau i sicrhau na ellir troi tenantiaid sy'n dioddef caledi ariannol o ganlyniad i COVID-19 allan o'u llety. Hoffwn i ddiolch i'r holl landlordiaid ac asiantau gosod tai am eu hymagwedd bragmatig a chefnogol at helpu tenantiaid drwy'r argyfwng hwn. Rydym yn cydnabod bod llawer i'w wneud o hyd i atal cynnydd mewn achosion o droi allan, ac rydym yn croesawu'r gwaith cydweithredol sy'n mynd rhagddo ar draws y sectorau cymdeithasol a phreifat i sicrhau mai'r dewis olaf yn wirioneddol yw troi allan.
Rydym wedi gweithio gyda'n partneriaid adeiladu a'r gymdeithas sy'n cynrychioli masnachwyr cyflenwi adeiladau i sefydlu pa allfeydd sydd ar agor, beth y gallan nhw ei gyflenwi ac i bwy. Mae hyn yn hollbwysig o ran caniatáu i asiantaethau fel Gofal a Thrwsio barhau â'u gwaith amhrisiadwy. Rydym wedi gweithredu'n gyflym i wneud newidiadau i'n systemau cynllunio a rheoli adeiladu fel y gall awdurdodau lleol a'r GIG ddarparu capasiti gofal iechyd ychwanegol. Mae hyn wedi galluogi adeiladu'r ysbytai Nightingale ledled Cymru yn gyflym iawn.
Hoffwn i hefyd estyn fy niolch i'r gwasanaethau tân ac achub, sydd wedi bod yn hynod gadarn yn ystod y pandemig hwn. Nid yw lefelau absenoldeb yn sgil COVID-19 yn ddim mwy na 4 y cant, ac mae'r gwasanaeth wedi cynnal gallu gweithredu llawn ledled Cymru. Ysgrifennodd y Dirprwy Weinidog at holl staff y gwasanaethau tân i'w hannog i helpu'r GIG lle bo modd, ac mae'r ymateb wedi bod yn syfrdanol. Mae dros 450 o staff wedi gwirfoddoli i yrru ambiwlansys ac maen nhw ar gael i'w defnyddio yn ôl yr angen. Mae eraill wedi helpu i sefydlu corffdai dros dro a darparu cyflenwadau hanfodol. Rydym ni hefyd wedi sefydlu pump o unedau diheintio torfol y gwasanaeth mewn ysbytai ledled Cymru, lle maen nhw'n gwasanaethu fel cyfleusterau brysbennu dros dro ar gyfer cleifion y ceir amheuaeth eu bod wedi eu heintio gan COVID-19.
Fodd bynnag, mae'n destun siom mawr gweld achosion helaeth o danau gwair sydd wedi eu cynnau'n fwriadol. Hyd yn oed mewn blwyddyn arferol mae hyn yn dra anghyfrifol. Mae'n dinistrio'r amgylchedd ac yn codi ofn gwirioneddol ar gymunedau. Eleni mae hyn ddwywaith mor wir. Mae gan ein diffoddwyr tân a'n swyddogion heddlu bethau gwell o lawer i'w gwneud yn ystod yr argyfwng nag ymateb i danau gwair. Mae'r mwg y mae tanau o'r fath yn ei achosi hefyd yn berygl difrifol i iechyd llawer o'r rhai hynny sydd yn y grŵp a warchodir ac i ddioddefwyr COVID-19 eu hunain. Rwy'n siŵr y byddai pob Aelod yn ymuno â mi i gondemnio'r ymddygiad disynnwyr hwn yn gryf.
Ac yn olaf, mae'r grŵp trawslywodraethol ar bobl agored i niwed wedi bod yn canolbwyntio ar gymorth ymarferol i'r bobl hynny sy'n agored iawn i niwed y gofynnwyd iddyn nhw warchod eu hunain am 12 wythnos. Mae hyn yn cynnwys bwyd a chyflenwadau meddygol, trafnidiaeth, cymorth emosiynol a chymdeithasol fel llinellau cyngor, cyfeillio dros y ffôn a thechnoleg. Mae data ar y rhai a gynghorwyd i warchod eu hunain bellach wedi'u rhannu â'r holl archfarchnadoedd yng Nghymru, a chafodd cynllun peilot i ddarparu capasiti ychwanegol ar gyfer darparu meddyginiaethau o fferyllfeydd cymunedol ei lansio yr wythnos diwethaf.
Bydd y camau yr ydym yn eu cymryd i ymateb i bandemig COVID-19 yn achub bywydau. Fodd bynnag, yn anffodus, fel y dywedwyd eisoes, bydd pobl yn colli anwyliaid o ganlyniad i'r clefyd hwn. Mae marwolaeth aelod o'r teulu neu ffrind yn ddigwyddiad hynod drallodus, ac rydym wedi diwygio ein rheoliadau i egluro'r trefniadau ar gyfer angladdau mewn amlosgfeydd. Mae'n gyfnod anodd iawn, sy'n gofyn am ymatebion cyflym a hyblyg gan bawb yn y Llywodraeth ac yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu arweiniad a chefnogaeth wrth i ni ymdrin â'r argyfwng hwn, a diolch i'n holl bartneriaid am weithio gyda ni. Rwy'n glir iawn y bydd y cydweithio hwn, pan fydd normalrwydd yn dechrau dychwelyd, yn darparu gwersi clir a llawer o arferion da y gallwn ac y dylem eu mabwysiadu, wrth symud ymlaen. Diolch.