Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 29 Ebrill 2020.
Diolch am y cwestiynau hynny, Caroline. O ran tipio anghyfreithlon, mae'n amlwg yn dal i fod yn drosedd gwneud hynny ac mae'r heddlu'n awyddus iawn i erlyn ac mae awdurdodau lleol yn ceisio erlyn unrhyw un sy'n gwneud hynny. Mewn gwirionedd, er ein bod ni'n amlwg wedi cael rhai enghreifftiau o hynny nid yw'n ormodol ledled Cymru. Mae pobl wedi bod yn eithaf cyfrifol, mewn gwirionedd. Byddem ni'n awyddus iawn i agor ein canolfannau ailgylchu gwastraff cartref pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, ond mae problemau staffio mawr yn sgil hynny. Mae problemau mawr o ran faint o bobl y gallech roi mynediad iddyn nhw ar un adeg; pa mor bell y bydden nhw'n teithio i'w wneud—pob math o faterion, fel y gallwch chi ddychmygu rwy'n siŵr. Ond rydym ni'n gweithio'n galed gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau ffordd synhwyrol o fwrw ymlaen â hynny pan fydd yn ddiogel gwneud hynny—yn ddiogel i'r staff yn ogystal ag i'r bobl sy'n cyrraedd y canolfannau ailgylchu gwastraff cartref.
O ran y terfyn ar bobl sy'n cysgu ar y stryd, fel yr ydych chi wedi fy nghlywed i'n dweud, rydym ni'n benderfynol iawn na fydd neb yn mynd yn ôl ar y strydoedd. Bydd llawer o'r llety yr ydym ni wedi dod o hyd iddo yn iawn yn y tymor hirach, am wahanol resymau, mae pob awdurdod yn wahanol; mae rhai ohonyn nhw yn wir yn rhai dros dro, ond rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr eu bod yn gallu parhau. Mae'r ateb i'r cwestiwn, 'Pam nad ydym ni wedi gallu gwneud hyn o'r blaen?' yn syml iawn: nid ydym ni wedi cael yr arian i'w wneud o'r blaen. Ni allaf bwysleisio digon ein bod ni wedi gwybod erioed ei bod yn bosibl rhoi terfyn ar ddigartrefedd pe byddai gennym ni ddigon o arian i wireddu hynny. Yr hyn sydd wedi digwydd yw bod y Llywodraeth wedi rhyddhau'r arian er mwyn caniatáu i ni wneud hynny, ac rwy'n benderfynol iawn y gallwn ni ddatblygu hynny gan ei fod wedi digwydd a gwneud yn siŵr nad ydym ni'n mynd yn ôl.
O ran pobl sydd wedi'u gwarchod, mae awdurdodau lleol wedi symud yn anhygoel o gyflym, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl staff sydd wedi ymdrechu'n ddiwyd iawn i wneud hyn, fel bod gennym ni'r parseli bwyd yn cael eu dosbarthu. Ond rydych chi'n llygad eich lle: nid bwyd yw'r unig beth. Felly, mae gennym ni wirfoddolwyr yn cysylltu â phobl sydd wedi eu gwarchod er mwyn sicrhau eu bod yn gallu trefnu bod eu presgripsiynau wedi eu llenwi. Ac fel y dywedais yn fy natganiad, mae gennym ni bobl yn rhoi cymorth dros y ffôn ar gyfer sgwrs, unigrwydd, a'r holl anghenion eraill, gan gynnwys gwaith atgyweirio. Felly, pan gysylltir â Gofal a Thrwsio, mae hynny'n aml oherwydd bod rhywun yn y grŵp sydd wedi ei warchod wedi cysylltu trwy ei awdurdod lleol. Felly, mae'r pethau hynny i gyd yn dal i ddigwydd; dyfynnais ffigurau Gofal a Thrwsio yn fy natganiad i ddangos bod hynny'n dal i ddigwydd. Ac rydym ni'n falch iawn o allu'r awdurdodau lleol a chryfder a hyblygrwydd eu staff i sicrhau bod y pethau hynny yn digwydd. Mae pobl o bob rhan o'r proffesiynau awdurdod lleol wedi eu hailhyfforddi yn eu canolfannau cyswllt ac i drefnu gwirfoddolwyr i wneud hyn, ac rwy'n ddiolchgar iawn eu bod nhw wedi dangos y cryfder a'r dewrder i wneud hynny.