Part of the debate – Senedd Cymru am 6:01 pm ar 29 Ebrill 2020.
[Anhyglyw.]—y rheoliadau yma, ond mae hi'n bwysig iawn ein bod ni wir yn gwerthfawrogi difrifoldeb beth rydyn ni'n ei drafod. Rydyn ni'n siarad yn fan hyn am rai o'r penderfyniadau mwyaf mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'u wynebu yn ei hanes, mewn ffordd. Y cwestiwn sydd yn ein hwynebu ni mewn gwirionedd ydy: ydyn ni wedi ein hargyhoeddi, ydyn ni'n rhoi cefnogaeth i reoliadau Llywodraeth Cymru sydd yn rhoi'r mecanwaith cyfreithiol yna i orfodi y newidiadau pellgyrhaeddol a digynsail i'r ffordd o fyw rydyn ni wedi eu gweld dros yr wythnosau diwethaf?
Mae'r prif reoliadau a'r rheoliadau diwygio yn cael eu gwneud dan y weithdrefn gadarnhaol, ond mewn ffordd ôl-weithredol—retrospective, os liciwch chi—fel y gwnaeth y Gweinidog ato fo yn ei sylwadau agoriadol. Mae hynny, dwi'n meddwl, yn adlewyrchu mor anghyffredin ydy'r sefyllfa rydyn ni'n canfod ein hunain ynddi hi. Felly, maen nhw eisoes mewn grym, ond mae'n rhaid i'r Llywodraeth sicrhau cefnogaeth y Cynulliad yma o fewn 28 diwrnod o ddyddiad gwneud y rheolau treuliadau er mwyn iddyn nhw barhau i fod yn gyfraith yng Nghymru.
Rŵan, nid ar chwarae bach mae cyfyngiadau ar ein rhyddid ni o'r math yma wedi eu cyflwyno. Rydyn ni yn gweld cydnabyddiaeth bellach o fewn corff y rheoliadau o ba mor bellgyrhaeddol ydyn nhw yn y gofyniad sydd ar Weinidogion i
'adolygu’r angen am gyfyngiadau a gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn bob 21 o ddiwrnodau'.
Dwi'n dyfynnu. Mae hynny, wrth gwrs, yn briodol iawn er mwyn sicrhau cefnogaeth y cyhoedd i'r mesurau a sicrhau ein bod ni'n gwneud penderfyniadau ar sail y dystiolaeth ddiweddaraf. Ac ydy, mae'r dystiolaeth yn newid; rydyn ni'n dysgu'n gyson.
Y dyddiad adolygu nesaf, fel sydd wedi cael ei adrodd yn eang, wrth gwrs, fydd wythnos i fory, dydd Iau 7 Mai. Rydyn ni wedi gweld impact mor ddwfn mae'r rheoliadau a'r cyfyngiadau wedi eu cael, ond mae yna gyd-destun, wrth gwrs, sef yr effaith ddiamheuol o gadarnhaol mae'r mesurau wedi eu cael o ran cyfrannu at atal neu gyfyngu ar ledaeniad y coronafeirws hyd yma. Dechrau ydym ni, mewn gwirionedd, ar y drafodaeth am yr hyn fyddai angen bod mewn lle cyn y gallen ni hyd yn oed ystyried llacio'r cyfyngiadau mewn unrhyw ffordd—yr angen, sydd wedi cael ei drafod yn gynharach yn y sesiwn yma, am gynlluniau cadarn o ran profi cymunedol ac yn y blaen, cynllunio’r isadeiledd i gefnogi symud i'r cam nesaf.
Mi orffennaf i'r sylwadau yma drwy ofyn cwestiwn, mewn difrif, i ofyn am sicrwydd. Dydy'r pegwn ddim wedi dod mewn llawer o ardaloedd, yn sicr yn cynnwys yma yn Ynys Môn, ac mae'n rhaid i ni fod yn gochel rhag symud yn rhy gynnar i lacio. Mi fyddem ni, wrth gwrs, yn disgwyl i Lywodraeth wneud yr hyn sy'n iawn i bob rhan o Gymru. Felly, fel dwi'n dweud, tra'n bod ni'n cefnogi hwn, mi fuaswn i yn ddiolchgar pe bai'r Gweinidog yn ei ymateb yn cadarnhau y byddai hi yn gwbl gynamserol i weld unrhyw lacio neu leihau yn y rheoliadau cyn penwythnos gŵyl y banc, wythnos i ddydd Gwener nesaf. Fe gefnogwn ni'r rheoliadau, ond dŷn ni ddim yn barod i adael iddyn nhw fynd eto, er lles ein hiechyd.