2. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 6 Mai 2020.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r capasiti i ddarparu strategaeth brofi, olrhain ac ynysu o ran coronafeirws ar gyfer Cymru, yn dilyn adroddiadau mai cyngor diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yw y gallai fod angen 30,000 o brofion y dydd? 415
Diolch am eich cwestiwn. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu dogfen lefel uchel i lywio trafodaethau gyda phartneriaid ynghylch cam nesaf ein hymateb cenedlaethol i COVID-19. Mae’r trafodaethau’n parhau yr wythnos hon i gwblhau elfennau gweithredol cynllun ymateb i ddiogelu'r cyhoedd ar gyfer Cymru.
Diolch, Weinidog. Dywedwyd wrthym ym mis Mawrth y byddai 9,000 o brofion y dydd yn cael eu cynnal erbyn yr wythnos diwethaf, yn hytrach na’r oddeutu 1,000 rydym yn eu cyflawni ar hyn o bryd. Rwyf am anwybyddu, am funud, y ffaith bod Llywodraeth y DU, yn ôl pob golwg, wedi mynnu bod Cymru'n cynnal 5,000 o brofion y dydd. Ond nid yw’r dystiolaeth fyd-eang ar brofi wedi gwanhau ers hynny, mae wedi cryfhau, a'r gwledydd sydd wedi pennu strategaethau dileu gyda pholisïau profi, olrhain ac ynysu cadarn—gwledydd fel Seland Newydd—wedi llwyddo i gadw eu cyfraddau marwolaeth i lawr.
Ymddengys bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cytuno. Y ddogfen rwyf wedi'i darllen—a gyda llaw, gwn fod y Gweinidog yn cyfeirio ati fel dogfen ddrafft, dogfen na ddylem ei chymryd o ddifrif, efallai, ond mae hi gennyf yma: diogelu iechyd y cyhoedd, cynllun ymateb a baratowyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, 29 Ebrill 2020, fersiwn derfynol. Dywed bod profi am COVID-19 yn rhan allweddol o'r ymateb i'r pandemig yng Nghymru. Y cwestiwn yw: sut y dylid cyflawni hynny? Nawr, mae'r ddogfen yn fanwl, mae'n gymhleth, mae'n gwneud amcanestyniadau ar gyfer y capasiti profi sydd ei angen. Dywed, ar dudalen 65, yn ogystal â grwpiau penodol y bydd angen eu profi—gweithwyr allweddol, cleifion mewn ysbytai, ac ati—y bydd profi aelodau symptomatig o'r boblogaeth gyffredinol yn hanfodol i atal trosglwyddiad. Ac mae'n nodi, a dyfynnaf, pe bai holl aelodau symptomatig y boblogaeth yn cael eu profi, y byddai hyn yn cynhyrchu galw am oddeutu 30,000 o brofion y dydd.
Nawr, yr hyn a ysgogodd y cwestiwn hwn oedd y ffaith bod y Gweinidog wedi gwrthod hynny bron ar unwaith, gan awgrymu y gallai fod angen ffigur sy'n agosach at y ffigur gwreiddiol o 9,000. Ond wrth gwrs, er iddi osod y targedau hynny yn ôl ym mis Mawrth, nid yw Llywodraeth Cymru bellach yn credu mewn targedau. Neu a yw hi? Dywedodd prif swyddog gwyddonol Llywodraeth Cymru, Rob Orford, wrth ateb fy nghwestiynau yn y pwyllgor iechyd yr wythnos diwethaf:
nid ydym yn cyhoeddi nifer y profion rydym yn anelu atynt, ond mae'r niferoedd mewnol yn arwyddocaol.
Felly, mae Gweinidogion yn gwybod faint o brofion y dylem fod yn anelu atynt, ond nid ydynt yn dweud wrthym. Ac er mwyn i ni seneddwyr, ar ran pobl Cymru, allu craffu ar Weinidogion, i wthio am y canlyniad gorau posibl, sef yr hyn y mae pob un ohonom yn dymuno’i weld, mae angen inni wybod beth y mae'r Llywodraeth ei hun yn anelu ato. Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog ddweud wrthym beth yw'r cynllun, beth yw'r targedau, a sut rydym yn bwriadu cyflawni hynny, fel y gallwn ni fel seneddwyr fesur i weld a ydych chi ar y trywydd iawn?
Diolch am y datganiad a'r gyfres o gwestiynau a gafwyd ynddo. Credaf ei bod yn bwysig dychwelyd at beth yw’r ddogfen ddrafft hon a gafodd ei datgelu'n answyddogol, ac nid yw'n gynllun terfynol ar gyfer Cymru, mae'n destun trafodaeth rhwng partneriaid. Oherwydd mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan fod y drafft wedi cael ei ddatgelu'n answyddogol, wedi gorfod cael sgwrs ehangach gyda phartneriaid yn y gwasanaeth iechyd—felly byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau eraill—yn ogystal ag awdurdodau lleol ac eraill wrth gwrs. Felly, mae'r partneriaid hynny, ynghyd â'r Llywodraeth, yn gweithio drwy'r ddogfen gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae adborth yn dod yn ôl o hynny, ac yna byddwn yn cyrraedd pwynt dros yr wythnos neu ddwy nesaf pan fydd cynllun cenedlaethol yn cael ei gadarnhau. Nodais yr elfennau lefel uchel sy'n perthyn i hynny ddoe, a bydd y prif egwyddorion yn parhau i fod yn gyson, ond bydd y cynllun gweithredol yn nodi ac yn llenwi mwy o'r manylion ar niferoedd—felly'r model o olrhain cysylltiadau y credwn y byddwn yn ei ddefnyddio, pan fydd y gwaith olrhain hwnnw'n mynd rhagddo, beth y mae hynny'n ei olygu o ran y capasiti sydd ei angen arnom, o ble y cawn y capasiti hwnnw i olrhain cysylltiadau. Ac mae awdurdodau lleol wedi bod o gymorth mawr yn y trafodaethau hynny, wrth ddatblygu rhywbeth i fod yn fwy gweithredol ac edrych ar yr adnoddau sydd ganddynt eisoes.
Ac yna, wrth gwrs, y pwynt ynglŷn â phrofi—nawr, nid yw'r capasiti ar gyfer hynny’n rhywbeth sy'n sicr ar hyn o bryd. Bydd gennym fwy o sicrwydd pan fydd gennyf gynllun terfynol, a phan fydd un gennym, byddaf yn amlwg yn gwneud datganiad, a byddaf yn barod i ateb cwestiynau, nid yn unig gan y wasg, ond gan Aelodau o'r Senedd hon hefyd. Felly, byddwn yn disgwyl gweld cynnydd pellach ar brofi, oherwydd fel rwyf wedi’i ddweud sawl tro, gwyddom fod angen seilwaith profi mwy arnom i symud i'r rhaglen brofi, monitro ac olrhain. Ond mae a wnelo hyn â diben a phwrpas y profion hynny. A'r rheswm pam y soniaf am 9,000 o brofion yw bod yr Alban, wrth gyhoeddi eu cynllun, wedi nodi, ar gyfer yr Alban—ac mae gan Gymru boblogaeth o ychydig llai na 60 y cant o boblogaeth yr Alban—eu bod yn meddwl y byddai angen 15,500 o brofion arnynt. Os mai'r ffigurau drafft cynnar yn y ddogfen a gafodd ei datgelu'n answyddogol yw’r rhai rydym yn anelu atynt yng Nghymru, byddai hynny'n golygu y byddai'r Alban angen bron i deirgwaith y nifer o brofion y maent wedi'u cyhoeddi, a byddai angen capasiti profi o dros 600,000 ar Loegr. Felly, y bras amcan a roddais oedd, pe byddem yn gwneud yr un peth ar yr un sail â'r Alban, y byddai hynny'n ffigur o 9,000 yn y pen draw.
Pan gawn gynllun terfynol gyda ffigurau terfynol, byddaf yn ei gyhoeddi wrth gwrs, gan sicrhau ei fod ar gael i bob aelod o’r cyhoedd, ac rwy’n llwyr ddisgwyl ateb cwestiynau gerbron y Senedd hon ar hynny hefyd.
Onid yw'n ffaith, Weinidog, nad oes gan eich Llywodraeth reolaeth ar brofi yma yng Nghymru? Mae gennym niferoedd truenus o annigonol o bobl yn cael eu profi ar hyn o bryd; gwyddom fod capasiti gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddarparu oddeutu 2,000 o brofion y dydd, ond serch hynny, ymddengys bod yr adroddiadau a gawn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod llai na hanner y ffigur hwnnw'n cael eu cynnal mewn gwirionedd.
Gwyddom, er enghraifft, drwy’r Coleg Nyrsio Brenhinol, nad oes gan hyd yn oed y rheini sy'n gymwys i gael prawf unrhyw syniad, cyfran dda ohonynt, sut i drefnu prawf. Felly, mae gennym broblemau gwirioneddol o ran profi. Ac wrth gwrs, mae gennym fynediad anghyfartal at brofion mewn gwahanol rannau o'r wlad. Gwyddom, er enghraifft, fod cyfleusterau profi newydd, ar ffurf cyfleusterau profi drwy ffenest y car, wedi'u darparu yng ngogledd Cymru ymhell ar ôl y rheini yn y de; gwyddom fod angen cynyddu capasiti labordai hefyd, wrth gwrs. Roeddem i fod i gael labordy newydd yng ngogledd Cymru, fel nad oedd yn rhaid anfon canlyniadau profion i'r de, yn weithredol erbyn diwedd y mis, ac wrth gwrs, pasiodd y dyddiad hwnnw, a osodwyd gennych chi eich hun, heb i'r labordy hwnnw gael ei sefydlu.
Felly, a ydych yn derbyn eich bod yn methu mewn perthynas â phrofi, fod angen i chi gynyddu’r capasiti hwn, ni waeth beth yw'r sefyllfa a ddisgrifiwch—sy'n ymddangos yn un eithaf hunanfodlon, mae'n rhaid i mi ddweud—o ran yr angen i wella’r trywydd mewn perthynas â phrofi?
Ac a allwch hefyd—? Cyfeiriodd rhan arall o'r adroddiad a gafodd ei ddatgelu’n answyddogol at nifer y bobl y gallai fod angen iddynt gymryd rhan yn y broses brofi, monitro ac olrhain a'r broses wyliadwriaeth. Cyfeiriwyd at yr angen am 1,800 o bobl yng Nghymru er mwyn hwyluso'r math o weithio a ddisgrifiwyd yn y ddogfen. Nawr, yn yr Alban, maent wedi awgrymu y bydd angen oddeutu 2,000 o bobl arnynt, ac yn Lloegr, maent wedi awgrymu oddeutu 18,000 o bobl. Nawr, ymddengys bod y ddau ffigur hwnnw, yn ôl cyfran y boblogaeth, yn llai o lawer na nifer y bobl yr ymddengys bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu y gallai fod eu hangen arnom ni o ran personél. Felly, a allwch egluro beth yw'r sail resymegol dros y nifer lawer mwy yn ôl cyfran, pam eu bod wedi penderfynu ar y ffigur penodol hwnnw, a pha ymdrechion rydych yn eu gwneud ar hyn o bryd, fel Llywodraeth, i sicrhau bod y bobl hynny'n cael eu recriwtio?
Unwaith eto, mae angen imi ddechrau drwy atgoffa'r Aelod, fel y gŵyr, mai adroddiad drafft a gafodd ei ddatgelu’n answyddogol yw'r adroddiad y cyfeiria ato ac nid y cynllun terfynol, felly nid wyf yn bwriadu rhedeg o gwmpas yn edrych ar y rhagdybiaethau sy'n sail iddo, oherwydd pan fydd y Llywodraeth yn cyflwyno cynllun terfynol, byddaf yn siarad bryd hynny ynglŷn â sut y cyrhaeddwyd y ffigurau hynny, ar ôl cael y sgwrs honno ar draws y maes iechyd, gofal cymdeithasol a'r ystod ehangach o bartneriaid y bydd eu hangen er mwyn deall a gweithredu'r cynllun ymateb i ddiogelu’r cyhoedd.
Nid wyf yn derbyn y cyhuddiad nad oes gennym reolaeth ar brofi. Gwyddom fod yn rhaid inni wneud yn well. Mae'r adolygiad a gychwynnais wedi arwain at nifer o welliannau eisoes. Yn y sgyrsiau uniongyrchol a gaf gyda rhanddeiliaid, er enghraifft, Fforwm Gofal Cymru, llywodraeth leol a phobl sy'n rhedeg y fforymau cydnerthedd lleol, maent yn nodi bod yr atgyfeiriadau bellach yn digwydd ar gyfradd lawer gwell a chyfradd gyflymach. Yr her i ni yw sicrhau ein bod yn dal i roi’r broses ar waith yn gyson, fel ei bod yn gwbl effeithlon, a bydd angen i hynny ddatblygu ymhellach, oherwydd wrth gwrs, gwyddom ein bod yn mynd i weld nifer fwy o bobl yn dod drwodd wrth inni ddechrau codi’r cyfyngiadau symud, ond mae a wnelo hefyd â sicrhau ei bod yn haws i gyflogwyr atgyfeirio eu staff at y broses brofi hefyd. Felly, mae hwnnw'n bwynt uniongyrchol rydym yn mynd i’r afael ag ef yn ein system a chyda chyflogwyr, ond fel y dywedaf, mae honno’n sgwrs a gawn yn rheolaidd, a'r oruchwyliaeth ychwanegol a ddarparwn ar gyfer hynny.
O ran eich pwynt ehangach ynglŷn â mynediad anghyfartal, wel, wrth i chi newid i unrhyw system newydd, cynllun peilot fydd eich man cychwyn, a bydd yn cychwyn yn gynharach na rhannau eraill o'r wlad. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig nad ydym yn ildio i naratif o annhegwch rhanbarthol, fod rhai rhanbarthau yng Nghymru yn cael eu dadflaenoriaethu'n fwriadol yn erbyn rhai eraill, ac nid yw hynny'n wir. Mae'r labordy yn y Rhyl, sydd wrth gwrs, fel y gwyddoch, yn etholaeth y Dirprwy Lywydd, mae hwnnw’n agor heddiw. Bydd hwnnw’n darparu mynediad daearyddol agosach, a hefyd yn darparu rhywfaint o gapasiti ychwanegol hefyd, a dylai hynny wneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl ar draws gogledd Cymru, ond mwy o gydnerthedd ar draws ein darlun cenedlaethol hefyd.
O ran olrheinwyr cysylltiadau corfforol a’r nifer ohonynt, mae hyn eto'n ymwneud â’r pwynt mai drafft yw’r hyn sy'n cael ei drafod, ac mae'n cael ei drafod er mwyn cyrraedd y nifer gywir i ddeall faint o bobl sydd eu hangen arnom a'r cydbwysedd rhwng y defnydd o dechnoleg ac olrhain cysylltiadau corfforol hefyd, gyda phobl ar ffonau ac fel arall. Bydd yn rhaid i'r holl bethau hyn ynglŷn â nifer y staff sydd eu hangen ystyried y math o fesurau rydym am eu llacio wrth i ni gefnu ar y cyfyngiadau symud, a nifer y bobl ychwanegol sy'n symud ac yn mynd o gwmpas mewn ffordd wahanol i'r ffordd a wnawn ar hyn o bryd, ac wrth gwrs, parodrwydd parhaus pobl i ddilyn y canllawiau cadw pellter cymdeithasol rydym wedi'u cyflwyno, gan mai dyna'r prif reswm pam ein bod wedi arafu lledaeniad y coronafeirws a pham nad ydym yn gweld hyd yn oed mwy o farwolaethau yma yng Nghymru heddiw.
Gweinidog, ynglŷn ag ehangu'r nifer o brofion, beth ydych chi'n ei wneud i alluogi meddygon teulu i allu trefnu prawf COVID ar gyfer claf sydd efo symptomau posibl o goronafeirws yn y gymuned? Ac yn ôl at yr adroddiad terfynol yma, pam dŷch chi nawr yn awgrymu dilyn yr Alban yn lle dilyn eich cyngor eich hun yn yr adroddiad terfynol yma?
Wel, dyma ddylai'r pwynt fod am y ffocws presennol ar brofi, ac mae hynny'n ymwneud â gweithwyr hanfodol a phobl sy'n symptomatig. Dylai hynny weithio o fewn y system gofal iechyd o hyd, felly os oes gan feddygon teulu gleifion y maent yn poeni amdanynt a bod rheswm clinigol dros wneud hynny, dylai hynny fod yn bosibl o hyd. Felly, rydym yn sôn hefyd felly am gyflwyno profion ar raddfa ehangach fel rhan o'r model profi, monitro ac olrhain.
Dogfen a gafodd ei datgelu’n answyddogol yw’r ddogfen ddrafft. Nid dyma'r cyngor terfynol i Weinidogion ar yr union fodel y dylem ei roi ar waith yma yng Nghymru a'r niferoedd sy'n sail i hynny, boed hynny’n ymwneud â nifer y profion sydd eu hangen arnom, neu yn wir, y cysylltiadau sy'n cael eu holrhain. Felly, mae hynny'n dal i fod yn rhan o'r sgwrs a gawn gyda phartneriaid, fel bod Gweinidogion yn cael ffurf ar gyngor terfynol wedyn ar yr hyn y bydd hynny'n edrych arno ym mhob un o'i agweddau. Ni chredaf fod y syniad bod Gweinidogion yn gwrthod y cyngor a gânt ar y mater hwn yn ddarlun teg a chywir o'r hyn sy'n digwydd. Rydym yn gweithio drwy'r adroddiad drafft, fel y byddech yn ei ddisgwyl, gyda phartneriaid yn y gwasanaeth iechyd, llywodraeth leol ac eraill. Ac fel y dywedaf, rwy’n llwyr ddisgwyl dod yn ôl i’r Senedd hon i ddarparu datganiad pellach ac i ateb cwestiynau pan fydd gennym y cynllun terfynol hwnnw y byddwn, wrth gwrs, yn ei gyhoeddi.
Diolch i'r Gweinidog.