Part of the debate – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 6 Mai 2020.
Fel y nodwyd yn glir gennym yn nogfen y fframwaith adfer, a gyhoeddwyd ar 24 Ebrill, bydd mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn ffactor allweddol yn ein cynlluniau ar gyfer cefnu ar gyfyngiadau symud. Yn y cyfamser, rydym eisoes wedi gweithredu cyfres o gamau i liniaru, lle gallwn, effeithiau’r argyfwng ar y dinasyddion tlotaf a mwyaf agored i niwed yng Nghymru.
Fel y gŵyr yr Aelodau, mae ymchwil wedi sefydlu bod grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn cael eu niweidio'n waeth gan y feirws na mwyafrif y boblogaeth, a bod effaith wahaniaethol ymysg cymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Drwy ein grwpiau rhanddeiliaid, rydym yn gweithio i ddeall yr effeithiau hyn a sut y maent yn effeithio ar ein cymunedau yng Nghymru. Mae grŵp cynghori COVID-19 ar gyfer pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi’i sefydlu i archwilio’r dystiolaeth ac i nodi camau y gellid eu rhoi ar waith i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, a byddaf yn mynychu cyfarfod y grŵp hwnnw yn syth ar ôl gorffen fy natganiad y prynhawn yma.
Rydym wedi parhau i flaenoriaethu lles teuluoedd sydd fwyaf o angen help. Mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi cyllid o hyd at £40 miliwn i alluogi awdurdodau lleol i barhau i ddarparu prydau ysgol am ddim hyd nes y bydd ysgolion yn ailagor, neu hyd at ddiwedd mis Awst. Cymru yw'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddarparu'r sicrwydd parhaus hwn o gymorth yn ystod gwyliau'r ysgol, yn yr un modd ag rydym yn ariannu gofal plant am ddim i blant oedran cyn ysgol gweithwyr hanfodol, a ni yw'r unig wlad yn y DU sy'n darparu gofal plant am ddim i bobl agored i niwed. A bydd y grant allgáu digidol o £3 miliwn, a gyhoeddwyd ers i'r Senedd gyfarfod ddiwethaf, yn galluogi pob plentyn i gael mynediad at y TG y gallent fod ei angen ar gyfer dysgu o bell yn ystod yr argyfwng.
Rydym wedi cydnabod y gwasanaeth eithriadol a ddarperir gan weithwyr gofal drwy daliad o £500 i'r rheini yn y gweithlu gofal cymdeithasol sy'n darparu gofal cymdeithasol personol. Yn yr un modd â'r taliad marw yn y swydd o £60,000, bydd hwn yn darparu’r budd cymharol mwyaf i'r rheini sydd â'r lleiaf i ddechrau. Lywydd, menywod sy’n ysgwyddo baich cyflog isel yn ein cymdeithas. Mae mwy nag 80 y cant o weithwyr ym maes gofal cymdeithasol yn fenywod, a bydd ein penderfyniad i wneud taliad o £500 yn cael effaith ar gydraddoldeb o ran rhywedd yn ogystal ag ar incwm.
Ar yr un pryd, Lywydd, dylwn groesawu penderfyniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder i leoli'r ganolfan breswyl newydd gyntaf i droseddwyr benywaidd yng Nghymru, datblygiad hirddisgwyliedig a gafodd ei gynorthwyo'n fawr gan gefnogaeth fy nghyd-Aelod, Alun Davies, a Jane Hutt yn awr.
Lywydd, wrth ddarparu cymorth ariannol o gyllideb bloc gyfyngedig, rydym yn gweithio i dargedu cyllid lle mae ei angen fwyaf. Drwy ddarparu terfyn uchaf o £0.5 miliwn ar gymhwysedd gwerth ardrethol ar gyfer ein cynllun rhyddhad ardrethi busnes, rydym wedi rhyddhau mwy na £100 miliwn i gefnogi busnesau llai ledled Cymru. Ac yma, rydym wedi cadw at gynlluniau pwysig sydd o fudd i bobl ar gyflogau isel a phobl sy'n agored i niwed. Roedd y gronfa cymorth dewisol yn arbennig o bwysig yn ystod yr argyfwng llifogydd yn gynharach eleni, ac mae'n parhau i gynnig amddiffyniad hanfodol i bobl mewn argyfwng ariannol. Rydym wedi dyrannu £11 miliwn ychwanegol i'r gronfa hon eleni. Ar adeg arferol, Lywydd, mae'r gronfa cymorth dewisol yn gwneud oddeutu 5,600 o daliadau bob mis, a chyfanswm o £330,000; ers effaith yr argyfwng, mae 12,000 o daliadau’n cael eu gwneud yn fisol, ac mae'r cyfanswm bellach yn £0.75 miliwn. Rydym yn parhau i gefnogi aelwydydd sy'n ei chael hi’n anodd drwy gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, ac yn parhau i annog pobl i gysylltu â'u hawdurdod lleol i weld a ydynt yn gymwys i gael cymorth drwy'r cynllun hwnnw.
Yn olaf, Lywydd, yr wythnos diwethaf, roedd hi’n bum mlynedd ers i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ddod yn rhan o gyfraith Cymru, a nodwyd hynny mewn datganiad pwysig gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip ddoe. Wrth inni ymateb i'r argyfwng presennol a chynllunio ar gyfer Cymru ôl-COVID, bydd Llywodraeth Cymru yn cadw at egwyddorion y Ddeddf honno i adeiladu Cymru fwy llewyrchus, mwy gwyrdd a mwy cyfartal. Mae'r camau rwyf wedi'u hamlinellu heddiw wedi'u gwreiddio yn ein hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, a dyma fydd yn parhau i lywio ein camau gweithredu yn y dyfodol. Diolch yn fawr.