Part of the debate – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 6 Mai 2020.
Lywydd, unwaith eto, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar y datblygiadau allweddol ers fy natganiad wythnos yn ôl. Fel mewn wythnosau blaenorol, byddaf yn ymdrin â materion nad ydynt wedi'u cynnwys yn y datganiadau sydd i ddilyn gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, a'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd.
Lywydd, wrth inni agosáu at ddiwedd yr ail gyfnod o gyfyngiadau symud, hoffwn roi'r ffigurau diweddaraf i'r Aelodau ar gynnydd y clefyd yng Nghymru. Diolch i ymdrechion aruthrol pobl ym mhob rhan o'n gwlad, mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yn gostwng ac mae cyfradd lledaeniad y feirws wedi gostwng. Fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn agos at y lefel a allai ein peryglu unwaith eto. Yn sicr, nid yw'r argyfwng drosodd, hyd yn oed wrth i rai arwyddion wella.
Yn y cyd-destun hwnnw, mae nifer yr achosion newydd o’r coronafeirws a gadarnheir bob dydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn llai na 200 yn gyson bellach. Mae nifer y bobl yn yr ysbyty â’r coronafeirws wedi gostwng eto i ychydig dros 900 ar 5 Mai. Erbyn hyn, mae llai na 70 o bobl â’r coronafeirws mewn gofal critigol, i lawr o fwy na 100 ganol y mis diwethaf.
Gyda'i gilydd, mae'r corff hwn o dystiolaeth yn dangos bod popeth a wnawn gyda'n gilydd fel cymuned yn ein helpu i symud y tu hwnt i uchafbwynt y feirws. Ond yr wythnos hon, nodwn fod nifer y marwolaethau yng Nghymru bellach dros 1,000. Mae'r garreg filltir ddigalon hon—pob un ohonynt yn fywyd dynol, ac yn deulu mewn galar—yn tanlinellu'r angen am gryn ofal wrth inni agosáu at ddiwedd yr ail gyfnod adolygu yr wythnos hon.
Lywydd, trof yn awr at rai materion ymarferol. Diolch i ymdrechion diflino llawer o gyd-Aelodau, mae'r sefyllfa gadarnhaol a nodais yr wythnos diwethaf mewn perthynas â chyfarpar diogelu personol wedi'i chynnal. Mae cyflenwadau a anfonwyd o Gambodia a Tsieina i Faes Awyr Caerdydd wedi golygu bod ein stociau'n fwy sefydlog. Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod cyflenwadau'n cael eu dosbarthu'n deg ac yn ddibynadwy ledled Cymru, i ddiwallu anghenion staff ysbytai a staff gofal, yn ogystal â meddygon teulu, optometryddion, canolfannau deintyddol brys a fferyllfeydd ac eraill.
Lywydd, fel rydych newydd glywed, mae ein capasiti profi yn parhau i gynyddu. Mae bellach yn 2,100 o brofion y dydd, i fyny o 1,800 yr wythnos diwethaf. Agorodd canolfannau profi drwy ffenest y car yng ngogledd Cymru a Chaerfyrddin yr wythnos diwethaf. Bydd cyfleuster newydd bae Abertawe yn agor yr wythnos hon. Rydym yn profi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, yr heddlu, y gwasanaeth tân a staff carchardai, a byddwn yn ehangu i gynnwys gweithwyr allweddol eraill wrth i'r capasiti gynyddu. Ddoe, cawsom gyflenwad sylweddol o offer profi o dramor. Heddiw, mae’r offer hwnnw’n cael ei osod a'i ddilysu. Mae'r broses honno'n cael ei chwblhau cyn gynted â phosibl, a bydd yn arwain at gynnydd pellach yn y capasiti yr wythnos nesaf.
Lywydd, rhoddais wybod i’r Aelodau yr wythnos diwethaf ein bod yn gweithio gyda'r sector cartrefi gofal ar gylch gwaith ehangach ar gyfer profi yn y cartrefi gofal lle ceir achosion o’r coronafeirws. Cyhoeddodd y Gweinidog iechyd y newidiadau i roi'r cylch gwaith ehangach hwnnw ar waith mewn datganiad ysgrifenedig ar 2 Mai. Yn y bôn, mae'r newidiadau'n gwneud mwy i atal y coronafeirws rhag cyrraedd y cartrefi gofal lle nad oes unrhyw achosion eisoes, a mwy i ymateb i achosion newydd. Fel rhan o'r ymdrech honno, o ddechrau'r wythnos hon, bydd wyth uned brofi symudol newydd ar waith fel rhan o'r cynllun i brofi'r holl breswylwyr a staff mewn cartrefi gofal lle cafwyd achos o’r coronafeirws.
Lywydd, yr wythnos diwethaf, soniais am y gwaith sydd eisoes ar y gweill ar seilwaith iechyd cyhoeddus gwell i fod yn sail i adfer yng Nghymru. Bydd yn cynnwys tair elfen graidd: olrhain cysylltiadau, samplu a phrofi, a gwyliadwriaeth. Mae hynny bellach wedi bod yn destun cwestiwn amserol a atebwyd gan y Gweinidog iechyd.
Lywydd, dangosodd yr adroddiad a gyhoeddwyd gan y swyddfa ystadegau gwladol yr wythnos diwethaf ar y coronafeirws a’r effeithiau cymdeithasol ar bobl anabl ym Mhrydain yr anghydraddoldeb amlwg yn yr argyfwng presennol. Mae'n amlwg fod y feirws yn cael yr effaith fwyaf ar y rhai sydd â'r lleiaf o adnoddau. Bydd yn dwysáu'r anghydraddoldebau sydd eisoes wedi'u sefydlu gan ddegawd o gyni, a gall yr effaith hon fod yn fwy difrifol yng Nghymru oherwydd proffil oedran ein poblogaeth a'r lefel uwch o amddifadedd yn rhai o'n cymunedau.