Part of the debate – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 6 Mai 2020.
Diolch yn fawr, Llywydd. Unwaith eto byddaf yn rhoi gwybodaeth i Aelodau'r Senedd am y datblygiadau mwyaf pwysig yn yr wythnos a aeth heibio. Byddaf yn canolbwyntio ar y gwasanaethau iechyd a gofal a sut rydym yn ymateb i effaith coronafeirws ar y bobl mwyaf bregus yng Nghymru. Mae rheolau ymbellhau yn dal i fod mewn lle, wrth gwrs, a rhaid inni gyd gadw atynt. Mae nifer o bethau calonogol i'w dweud, ond rhaid inni barhau i fod yn ofalus iawn wrth gynllunio am y camau nesaf.