Part of the debate – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 6 Mai 2020.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch yn gyntaf i Aelodau ar draws y Siambr, yn ogystal â'n partneriaid cymdeithasol a'n cydweithwyr ym mhob maes gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, am y gwaith aruthrol sydd wedi'i wneud wrth gefnogi a chyfrannu at yr ymateb economaidd i'r coronafeirws.
Nawr, fel y byddaf yn amlinellu, rydym wedi gwneud llawer iawn o gynnydd yn darparu cymorth cyflym drwy ein cronfa cadernid economaidd drwy Fanc Datblygu Cymru, a thrwy sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweinyddu rhyddhad ardrethi busnes, a hoffwn dalu teyrnged i bawb sydd wedi helpu mewn perthynas â hynny.
Nawr, rwy'n dweud hyn oherwydd na allai'r angen am y cymorth hwn fod yn fwy. Mae economïau o amgylch y byd yn dangos arwyddion o grebachu gwaeth nag erioed a diweithdra sylweddol. Mae economi ardal yr ewro wedi crebachu'n gyflymach nag erioed yn y chwarter cyntaf, ac mae hyd yn oed yr economi gryfaf, yr Almaen, wedi cofnodi bod diweithdra wedi cynyddu 373,000 ym mis Ebrill.
Mae llawer o fusnesau yng Nghymru eisoes wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd. O'r busnesau a'r lleoliadau sy'n gorfod aros ar gau ar hyn o bryd, mae dros 200,000 yn gweithio yn y diwydiannau hynny yng Nghymru. Mae dros draean o'r rheini'n gweithio o fewn y diwydiannau bwyd a diod, ac mae dros chwarter yn gweithio yn y sector manwerthu. Mae hyn cyn i ni ystyried yr effaith ar y gadwyn gyflenwi wrth gwrs. Ond ein blaenoriaeth ni yw iechyd y cyhoedd a rheoli'r pandemig. Heb hyder y cyhoedd yn hynny, ni fydd defnyddwyr yn mynd i siopau, ni fydd pobl yn teithio ac ni fydd gweithwyr yn dychwelyd i'w swyddfeydd.