Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 6 Mai 2020.
Dwi i'n mynd i newid i'r Gymraeg. Mae Dafydd Elis-Thomas wedi gorfod ailflaenoriaethu ei bortffolio cyfan ef o ganlyniad i'r creisis presennol a darparu cyllid brys i gefnogi'r diwydiannau creadigol, chwaraeon a diwylliant, yn ogystal ag ailbennu gwasanaeth asiantaethau cyfan fel Cadw, sydd wedi gorfod cau pob un o'u safleoedd nhw.
Nawr, yn benodol, hoffwn i eich diweddaru chi ar dwristiaeth, sy'n sector sylfaenol, ac yn gwbl allweddol i economi Cymru. Roedd y sector yn un o'r rhai cyntaf i gael eu taro gan yr argyfwng ac mae ymysg y rhai sydd wedi eu heffeithio waethaf. Mae'r cymorth sydd wedi ei roi i'r sector gan Lywodraeth Cymru wedi cael ei werthfawrogi, ond rŷn ni'n cydnabod bod yna sialens hirdymor sy'n wynebu'r diwydiant yma. Ac mae rhai o fewn y sector yn galw'r sialens yma yn sialens 'tri gaeaf'.
Rŷn ni mewn trafodaethau parhaus gyda chynrychiolwyr y sector twristiaeth trwy dasglu twristiaeth COVID-19. Bydd sicrhau hyder cleientiaid, yn ogystal â sicrhau cefnogaeth y gymuned i ailagor, yn allweddol. Mae'n ymgyrch ni 'Hwyl Fawr. Am y Tro' neu 'Visit Wales. Later' wedi bod yn allweddol wrth inni geisio taro'r cydbwysedd sensitif yma ar lwybr sy'n eithaf anodd.
Mae digwyddiadau mawr—major events—hefyd yn chwarae rôl allweddol o fewn twristiaeth, a dwi eisiau rheoli disgwyliadau o ran aillddechrau digwyddiadau mawr yng Nghymru. Dwi ddim yn rhagweld y bydd unrhyw bosibilrwydd y bydd digwyddiadau torfol yn dychwelyd yn y dyfodol agos.
O ran y Gymraeg, mae COVID-19 wedi ein atgoffa ni o bwysigrwydd perthynas technoleg â'r iaith, ac mae'n amlwg bellach pa mor ddibynnol ydyn ni ar dechnoleg er mwyn gallu parhau i weithio, dysgu a chyfathrebu gyda ffrindiau a theulu.
Mae Cymraeg 2050 yn rhoi lle canolog i dechnoleg, ac felly dwi'n falch o allu cyhoeddi heddiw y bydd Cysgliad ar gael yn rhad ac am ddim i unigolion a busnesau sydd â llai na 10 o weithwyr cyn diwedd mis Mai. Cysgliad—mae e'n becyn sy'n cynnwys geiriadur yn ogystal â gwirydd sillafu a gramadeg Cymraeg, fydd yn help i bob un ohonom dwi'n siŵr.
Ond weithiau gall dechnoleg fod yn rhwystr. Er enghraifft, does dim modd cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn Microsoft Teams ar hyn o bryd, a dwi wedi ysgrifennu at Microsoft i ofyn iddyn nhw ddatblygu hwn ar frys.
Er bod y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol wedi gorfod canslo pob gwers Cymraeg wyneb yn wyneb, mae'r diddordeb mewn cyrsiau ar lein wedi cynyddu yn syfrdanol. Mewn un wythnos, cofrestrodd dros 3,000 o ddysgwyr newydd eu diddordeb nhw, ac mi fydd 1,300 o'r rheini yn dechrau ar y cwrs yn ystod y mis yma.
Byddwch chi hefyd wedi gweld ein bod ni wedi rhoi cefnogaeth ariannol i'r Eisteddfod Genedlaethol, ac roedd hi'n bwysig, wrth i'r Eisteddfod wynebu heriau ariannol difrifol, fod Llywodraeth Cymru yna i gefnogi'r ŵyl unigryw yma. Bydd yr Urdd yn cynnal yr Eisteddfod ddigidol gyntaf, Eisteddfod T, yn ystod gwyliau'r Sulgwyn, ac mae'n parhau i weithio gydag elusen Llamau i gefnogi pobl ifanc a theuluoedd bregus.
Ym mis Chwefror, gwnes i lansio ymgynghoriad ar y polisi trosglwyddo iaith yn y cartref, a dwi am gyhoeddi nawr fy mod i eisiau ymestyn y cyfnod ar gyfer yr ymgynghoriad yma tan yr hydref.
Dwi'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd y Gymraeg yn arbennig ym maes iechyd a gofal, a dwi wedi gofyn felly i'r Gweinidog iechyd gadw hyn mewn cof yn arbennig mewn sefyllfaoedd sensitif diwedd oes, yn ystod y cyfnod anodd yma.
So, hoffwn i jest orffen trwy ddweud fy mod i'n hynod o ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog am ei gydweithrediad ac i bob aelod staff yn fy mhortffolio i, a phob partner sydd wedi bod yn cydweithredu gyda ni, am ymateb mewn ffordd mor bositif yn wyneb yr heriau anferthol rŷn ni'n eu hwynebu. Dwi'n siŵr y down ni drwy'r cyfnod tywyll yma yn bobl wahanol, yn fudiadau gwahanol, ac yn wlad wahanol, ond mae yna obaith, mae yna oleuni ar y gorwel, ac mae'n bwysig ein bod ni'n sefyll yn gadarn gyda'n gilydd i ymateb i'r heriau sydd yn dal yn ein hwynebu ni.