Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 6 Mai 2020.
Hoffwn ddechrau fel Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol trwy nodi y byddwn yn nodi Diwrnod VE yr wythnos hon yn y wlad hon, sef diwedd y rhyfel yn Ewrop, rhyfel y credaf y dylai atgoffa pawb ohonom o'r hyn sy'n digwydd pan fo cyd-ddealltwriaeth ryngwladol yn methu, ac os bu mater erioed sy'n ein hatgoffa o ba mor gydgysylltiedig yw ein byd, does bosibl nad y pandemig coronafeirws yw hwnnw.
Mae argyfwng COVID-19 wedi cael effaith ddifrifol ar bob agwedd ar fy mhortffolio, yn ddomestig ac yn rhyngwladol. Roedd ymhell dros 1 filiwn o deithwyr o Brydain dramor pan darodd y pandemig, ac ers i’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad gyhoeddi cyngor iddynt ddychwelyd adref, mae pob un o'n swyddfeydd Llywodraeth Cymru dramor wedi bod yn rhan o'r ymdrech honno i ddod â phobl adref, gyda swyddogion yn y dwyrain canol ac India yn arbennig o brysur. Mae rhannu gwybodaeth yn y modd hwn wedi arwain at ddod â llawer o ddinasyddion Cymru adre’n llwyddiannus, gan gynnwys pobl fel Dr Sundaram—gwn fod y dirprwy lywydd yn weithgar iawn yn pwyso i ddod ag ef yn ôl i Gymru. Mae'n ymgynghorydd gofal dwys yn yr uned yn Ysbyty Glan Clwyd, a gwnaethom helpu i ddod ag ef yn ôl o India. Nawr, rydym yn ymwybodol fod yna Gymry wedi cael eu dal dramor sydd angen ein cymorth o hyd, a byddwn yn eu hannog i gysylltu â mi fel y gallwn dynnu sylw’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad at achosion unigol.
Nawr, mae gwledydd ym mhob rhan o’r byd yn sgrialu i gael cynhyrchion hanfodol yn y frwydr yn erbyn COVID-19, ac fel Gweinidog masnach ryngwladol, yn ein hymdrechion i sicrhau cyfarpar diogelu personol yn rhyngwladol, rwy’n sicrhau bod yna ddealltwriaeth fod gan 80 o wledydd gyfyngiadau allforio ar waith. Mae'r anhawster i gael gafael ar, a phrynu parasetamol yn ein siopau yn deillio i raddau helaeth o’r cyfyngiadau sydd wedi’u gosod gan Lywodraeth India.
Ond wrth gwrs, un o'r heriau allweddol sydd gennym fel Llywodraeth yn awr yw datrys sut rydym yn mynd i allu rhoi'r gorau i'r cyfyngiadau symud. Mae'r wybodaeth sy'n cael ei darparu gan ein swyddfeydd rhyngwladol yn amhrisiadwy i roi syniadau i ni sut y caiff ei wneud mewn mannau eraill, a chefais drafodaethau uniongyrchol gyda fy nghymheiriaid yn Llydaw a Gwlad y Basg i ddysgu o'u profiadau.
Nawr, mae grwpiau Cymru ac Affrica ledled Cymru yn mynegi pryder enfawr am eu partneriaid yn Affrica. Mae'r cyfyngiadau symud yno’n effeithio’n ddinistriol ar fywoliaeth miliynau lawer o Affricanwyr, ac mae prisiau bwyd wedi codi'n ddramatig mewn sawl gwlad. Nawr, rydym yn ymgynghori â grwpiau yng Nghymru i weld sut y gallant ddefnyddio'r cynllun grantiau bach i gefnogi eu partneriaid yn Affrica ar yr adeg anodd hon.
Ac ar fasnach ryngwladol, gallaf gadarnhau bod yr ail fforwm gweinidogol ar fasnach wedi'i gynnal yn ddiweddar, ac rwy'n dal i fod mewn cysylltiad agos â'r Gweinidogion perthnasol ledled y Deyrnas Unedig. Nawr, mae'n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn benderfynol o gytuno ar gytundeb gyda'r UE erbyn diwedd y flwyddyn er gwaethaf yr amgylchiadau newydd hyn, felly mae negodiadau gyda'r Unol Daleithiau ar gytundeb masnach wedi dechrau bellach, ac mae gwaith ar baratoi ar gyfer negodiadau gyda Japan a gwledydd eraill sydd â blaenoriaeth yn mynd rhagddo'n gyflym. Mae'r Bil Masnach wedi'i osod yn Nhŷ'r Cyffredin ac rydym wedi gosod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol perthnasol yma yn y Senedd.
Rwy'n mynd i newid i'r Gymraeg yn awr.