Part of the debate – Senedd Cymru am 5:24 pm ar 6 Mai 2020.
Diolch ichi am eich datganiad, Weinidog. Roedd ffocws cychwynnol ar grŵp ymgynghorol, ac yn sylwadau'r cyfryngau, roedd a wnelo llawer o hynny â Gordon Brown ac ai ef oedd y person i'n helpu i adfer. Ond rwy'n gweld o'r rhestr hon fod gennych nifer lawer ehangach o bobl. A gaf fi egluro bod y trafodaethau bwrdd crwn hynny ar gyfer adfer yr un peth â'r grŵp ymgynghorol o'r tu allan i Gymru y cyfeiriwyd ato'n gynharach? Gwn fod Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd wedi cymryd rhan yn y rhestr honno, felly a fu—? A yw y tu allan i Gymru yn awr, ac yna Cymru ar gyfer y rhai a gynhelir yn y dyfodol? Neu a yw—? Cyfeiriodd Darren Millar at y ffaith y dylem gael rhai pobl o'r sector preifat ynddo. Fe ddywedoch chi fod o leiaf ddau yno. Ni allaf weld unrhyw rai sy'n amlwg yn dod o gefndir busnes preifat, neu sydd o leiaf yn gweithio mewn cefndir felly o'r rhestr a ddarparwyd. Sylwaf fod y Sefydliad Economeg Newydd, Sefydliad Resolution a'r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus i gyd wedi'u cynrychioli'n helaeth, ac rwy'n meddwl tybed: a yw hynny wedi'i dderbyn ac yn fwriadol, fel Llywodraeth y chwith, eich bod am gael cyngor allanol gydag o leiaf fwy o gynrychiolaeth o blith pobl gydag agwedd debyg?
Fe sonioch chi am y ddogfen adfer a gyhoeddwyd ar 24 Ebrill, ac mae hynny'n ymddangos fel petai'n sbarduno llawer o'r hyn rydych chi'n ei wneud, o'r hyn a ddywedwch, ond wedyn rydych hefyd yn ailadrodd yr awydd cryf, awydd rwy'n ei ategu, i'n gweld yn dod allan ar sail gyffredin rhwng y pedair gwlad. Serch hynny, onid oes tensiwn rhwng yr awydd i wneud pethau gyda'r tair gwlad arall a'u Llywodraethau yn hyn o beth, a chael dogfen nad ydych wedi ymgynghori arni'n flaenorol sy'n gosod yr holl brofion cydraddoldeb hyn, yn pwysleisio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn dweud bod rhaid i'r broses o godi'r cyfyngiadau fod yn seiliedig ar werthoedd Cymreig penodol? Os mynnwch gael pob un o'r pethau hynny, onid yw'n ei gwneud yn anos, o leiaf mewn rhai ardaloedd, i godi cyfyngiadau ar yr un pryd â'r gwledydd eraill?
Rwy'n meddwl eich bod wedi dweud hefyd nad oedd neb am ddychwelyd at fusnes fel arfer. Rydych yn cyfeirio, er enghraifft, at gadw newidiadau amgylcheddol. A ydym am gadw'r newidiadau amgylcheddol sy'n dilyn o gael dim ond 40 y cant o'r defnydd arferol o geir preifat? Rwy'n credu eich bod wedi crybwyll hyn, ond yn Tsieina, gallwn weld bod llawer o bobl yn mynd allan ac yn prynu ceir newydd, ac mae defnydd o ffyrdd gan gerbydau preifat wedi adfer yn llawer cyflymach na thrafnidiaeth gyhoeddus. Ond does bosibl na fyddai llawer o bobl yn eithaf awyddus i fynd yn ôl at fusnes fel arfer ac y byddent yn gweld busnes fel arfer yn llawer gwell na bod yn y sefyllfa rydym ynddi ar hyn o bryd, a byddant yn poeni y gallai eich profion cydraddoldeb a'ch amrywiol ofynion ideolegol—neu'r hyn y gallai rhai pobl eu dirnad fel gofynion ideolegol—ar gyfer sut y dylid codi cyfyngiadau arafu ein gallu i ddychwelyd at fywyd fel arfer a chael yr economi i symud, gadael i bobl fynd allan a chefnogi eu lles drwy wneud hynny.
Felly, rydym yn dioddef, rwy'n meddwl, yn enwedig yng Nghymru—. Mae un astudiaeth gan Sky yn cynnwys dadansoddiad fod 43 y cant o drefi Cymru yn y categorïau yr effeithir arnynt fwyaf, hen gymunedau diwydiannol a threfi arfordirol yn arbennig. Ac os ydych chi'n poeni cymaint am gydraddoldeb, o ystyried bod COVID-19 yn cynyddu'r anghydraddoldebau hynny, onid y peth pwysicaf yw codi'r cyfyngiadau hynny cyn gynted ag y bo modd. Gwelwn fod capasiti yn y GIG erbyn hyn. Mae'r gyfradd drosglwyddo'n is nag un. Roeddem i fod i lefelu'r gromlin, gan ei chadw o fewn gallu'r GIG i ymateb. Rydym wedi gwneud hynny. Pam eich bod yn cadw'r cyfyngiadau hyn ac yn cynyddu'r niwed i'r economi a'r effaith negyddol ar anghydraddoldeb?